CGA / EWC

Fitness to practise banner
Canllaw arfer da: Cyswllt corfforol priodol â phobl ifanc
Canllaw arfer da: Cyswllt corfforol priodol â phobl ifanc

Lawrlwytho  Canllaw arfer da: Cyswllt corfforol priodol â phobl ifanc

Cyflwyniad

Weithiau, mae cyswllt corfforol â dysgwyr a phobl ifanc yn angenrheidiol ac yn gymesur mewn lleoliadau addysg a hyfforddiant. Fe all hefyd fod yn anogol ac yn gadarnhaol pan gaiff ei ddefnyddio’n briodol. Fodd bynnag, mae ymarferwyr heddiw yr un mor ofnus o honiadau ynghylch niwed corfforol (neu rywiol) ag erioed, hyd yn oed gydag amddiffyniad polisïau a gweithdrefnau clir. Felly, sut ydych chi fel cofrestreion yn gwneud y penderfyniadau gorau mewn amgylchiadau sydd weithiau’n anodd, i roi lles y dysgwr neu’r person ifanc yn gyntaf, ond amddiffyn eich hun hefyd?

Mae’r canllaw hwn yn amlygu pa fath o gyswllt corfforol a allai fod yn dderbyniol yn eich lleoliad gwaith. Mae hefyd yn esbonio’r ffordd orau o’ch paratoi eich hun ar gyfer sefyllfaoedd mwy anodd.

Nid canllawiau rheoleiddiol na gorfodol mo’r rhain. Cynhwyswyd senarios i’ch helpu i feddwl am rai o’r materion a allai godi a’u harchwilio, a sut gallai ein cyngor fod yn berthnasol. Rydym hefyd wedi cynnwys enghreifftiau o arferion annerbyniol lle mae’n amlwg y croeswyd ffiniau proffesiynol.

Y Cod

Mae holl gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn ddarostyngedig i’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) sy’n amlinellu’r egwyddorion ymddygiad ac ymarfer da allweddol a ddisgwylir ganddynt. Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â’r Cod.

Yr egwyddorion a’r disgwyliadau yn y Cod sy’n cyfeirio at gyswllt corfforol priodol yw:

1. Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol

Mae cofrestreion:

1.2 yn cynnal perthnasau gyda dysgwyr a phobl ifanc mewn modd proffesiynol, drwy:

  • sicrhau bod unrhyw gysylltiad corfforol yn angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur
  • cynnal ffiniau proffesiynol

2. Unplygrwydd Proffesiynol

Mae cofrestreion:

2.1 yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol

Mae’r Cod yn bwynt cyfeirio pwysig. Meddyliwch am y pum egwyddor allweddol a’r disgwyliadau maen nhw’n eu gosod arnoch. Bydd y Cod yn eich helpu i wneud y penderfyniadau iawn pan fyddwch yn wynebu’r heriau yr ymdrinnir â nhw yn y canllaw hwn.

Mae’r Cod ar gael ar ein gwefan.

Gwneud y penderfyniadau gorau wrth ymarfer o ddydd i ddydd

Heddiw, mae natur amrywiol addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn golygu, i lawer o gofrestreion, bod tebygolrwydd uchel o gyswllt corfforol â dysgwyr a phobl ifanc. Gallai gweithgareddau dydd i ddydd ymddangos yn ddiniwed, heb fawr o angen i ‘asesu risg’ y lleoliad a’ch ymddygiad gyda dysgwyr a phobl ifanc.

Ond gadewch i ni edrych ar hyn ychydig yn wahanol. Efallai na fyddwch wedi sylweddoli y gallai sefyllfaoedd pob dydd eich rhoi mewn sefyllfa fregus wrth ymarfer. Ystyriwch:

  • a ydych erioed wedi bod ar eich pen eich hun gyda dysgwr neu berson ifanc am resymau astudio, asesu, neu fugeiliol
  • o ran dysgwr neu berson ifanc ag anghenion emosiynol/ymddygiadol penodol, a ydych yn deall beth allai ei ‘sbarduno’ i ymateb, a’r ffordd orau o ddelio â hynny
  • os ydych yn arwain gweithgaredd seiliedig ar chwaraeon, chi yw’r unig oedolyn
  • p’un a ydych yn sylweddoli efallai nad yw cyffyrddiad angenrheidiol a/neu gymesur yn dderbyniol ym mhob diwylliant a chrefydd
  • a allai teithiau neu ymweliadau oddi ar y safle lacio ymddygiadau
  • p’un a fyddech yn gwybod sut i atal dysgwr neu berson ifanc yn ddiogel os oeddech yn credu bod pobl eraill mewn perygl o gael eu niweidio
  • p’un a fyddech yn gwybod beth i’w wneud os oedd dysgwr neu berson ifanc yn cychwyn cyswllt corfforol â chi

A oes unrhyw risgiau i chi yma? Beth os oedd dysgwr neu berson ifanc yn bwrw amheuaeth ar eich ymddygiad tuag ato yn un o’r senarios uchod, p’un a yw hynny’n anwir, wedi’i gamddeall neu ei gamgymryd? Gall sefyllfaoedd anodd godi’n sydyn iawn, ac weithiau byddant yn gofyn am wneud penderfyniadau cyflym mewn eiliadau, er mwyn amddiffyn dysgwr neu berson ifanc, a chi eich hun.

I grynhoi, mae pwysau mawr ar gofrestreion i gael penderfyniadau sy’n ymwneud â chyswllt corfforol yn iawn.

Dylai’r pwyntiau cyngor allweddol canlynol helpu.

Cynyddu eich ymwybyddiaeth: gwybodaeth a sgiliau

Pa fath o gyswllt corfforol allai fod yn iawn?

Mae’r enghreifftiau canlynol yn disgrifio sefyllfaoedd lle y gallai cyffwrdd â dysgwr neu berson ifanc fod yn rhesymol, yn angenrheidiol a/neu’n gymesur:

  • rhoi Cymorth Cyntaf
  • cysuro dysgwr neu berson ifanc sydd wedi’u hanafu, yn sâl, neu’n ofidus
  • atal dysgwr neu berson ifanc rhag niweidio eu hun
  • cyfarwyddyd chwaraeon neu arddangosiad hyfforddiant
  • symud dysgwr neu berson ifanc i ffwrdd oddi wrth berygl
  • atal dysgwr neu berson ifanc rhag niweidio pobl eraill
  • dilyn Cynllun Trin Cadarnhaol (PHP) cytunedig
  • rhoi triniaeth feddygol (pan fyddwch yn gymwysedig, a phan fo’n gyfrifoldeb dynodedig)
  • atal dysgwr neu berson ifanc rhag eich niweidio chi
  • symud dysgwr neu berson ifanc sy’n tarfu (‘cyfeirio’n gorfforol’)
  • rhoi meddyginiaeth (pan fo’n gyfrifoldeb dynodedig)
  • atal dysgwr neu berson ifanc rhag difrodi eiddo
  • atal dysgwr neu berson ifanc rhag cyflawni trosedd
  • cyfarwyddyd cerddorol

Ond sut gallwch wneud yn siŵr eich bod yn ymddwyn mewn ffordd dderbyniol a phroffesiynol, hyd yn oed yn y sefyllfaoedd uchod?

Ein cyngor yw bod rhaid i chi ymgyfarwyddo â’r canlynol, a’u cymhwyso.

Dilyn canllawiau gorfodol

Fe’ch anogwn yn gryf i ymgyfarwyddo â’r canllawiau cenedlaethol, gorfodol perthnasol, ac unrhyw ddiwygiadau sy’n benodol i’ch sector gwaith a’ch rôl. Er enghraifft, canllawiau Llywodraeth Cymru ar Ymyrraeth Ddiogel ac Effeithiol.

Mae hyn yn ymestyn i wybod unrhyw gyfrifoldeb a allai fod gennych fel ymarferydd o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru:

  • darllenwch y canllawiau gorfodol perthnasol yn ofalus
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth sy’n berthnasol i chi yn eich gwaith pob dydd, a’r protocolau y gallai fod angen i chi eu dilyn
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod at bwy y dylech droi i gael cymorth neu arweiniad ychwanegol mewn sefyllfaoedd penodol
  • gofynnwch gwestiynau os ydych yn ansicr ynglŷn ag unrhyw ran o’r canllawiau sy’n berthnasol i’ch ymarfer

Dilyn polisïau a phrotocolau lleol

Yn ogystal â chanllawiau lleol penodol (er enghraifft, ‘ymyrraeth gorfforol’), gallai protocolau fod wedi’u hymgorffori mewn polisïau eraill hefyd, fel codau ymddygiad, diogelu, ymddygiad/disgyblaeth, iechyd a diogelwch, rhoi meddyginiaeth, gofal personol a Chymorth Cyntaf.

Mewn lleoliadau addysgol arbenigol, fe ddylai protocolau trin â llaw fod ar waith ar gyfer, er enghraifft, dysgwyr a phobl ifanc ag anghenion cysylltiedig ag oedran, neu ddysgwyr/pobl ifanc anabl y mae angen eu codi neu eu symud.

  • cymerwch gyfrifoldeb personol am gael gwybod beth mae eich cyflogwr yn ei ddweud ynglŷn â chyswllt corfforol â dysgwyr a phobl ifanc. Fe allai hyn fod yn wahanol ym mhob sector/gweithle
  • os ydych yn ansicr, gofynnwch i’ch cyflogwr esbonio beth mae’n ei ddisgwyl gennych, beth fyddai’n ei ystyried yn dderbyniol, a sut mae’n dweud y dylech ymddwyn mewn sefyllfaoedd penodol
  • os nad ydych yn credu bod gennych y sgiliau, gofynnwch i’ch cyflogwr am hyfforddiant
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn deall sut i ymdopi â sefyllfa yn y ffordd orau y gallwch. Gallai’r arweiniad hwn gynnwys technegau tawelu i osgoi sefyllfa a allai arwain at gyswllt corfforol fel arall

Adnabod eich dysgwyr a’ch pobl ifanc

Gallai hyn helpu i lywio penderfyniadau dydd i ddydd pan fyddwch yn credu y gallai cyswllt corfforol fod yn rhesymol, yn angenrheidiol, ac yn gymesur:

  • os oes gan eich dysgwyr/pobl ifanc ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol), neu anghenion eraill, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y cynlluniau/cytundebau penodol sydd ar waith
  • datblygwch ymwybyddiaeth o’r hyn maen nhw ei angen a’i eisiau, a’r hyn a allai fod yn annerbyniol iddynt

Beth os bydd pethau’n mynd o chwith?

Gall ymyrraeth gynnar fod yn amhrisiadwy.

Ceisiwch gyngor a chymorth cyn gynted â phosibl gan eich rheolwr llinell, undeb llafur, neu o leiaf rywun rydych yn ymddiried ynddo. Fe all fod yn syniad da nodi digwyddiadau’n ysgrifenedig er mwyn eich amddiffyn eich hun.

Os oes gennych bryder diogelu brys a allai roi dysgwr neu berson ifanc mewn perygl, ac sydd felly’n gofyn am ymyrryd ar unwaith o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru, dilynwch y gweithdrefnau hynny’n ofalus.

Does gen i ddim digon o amser i feddwl…

Efallai na fydd gennych lawer o amser i benderfynu, ac fe allai fod yn anodd gwneud synnwyr o’r hyn sydd orau yn ystod anhrefn a dryswch sefyllfa. Ceisiwch anadlu am ychydig eiliadau os gallwch, er mwyn asesu’r sefyllfa a gwerthuso risgiau’n gywir, yn seiliedig ar yr hyn rydych chi’n ei wybod a’r cymorth sydd ar gael o’ch cwmpas.

Os nad ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau i ymdopi ag unrhyw sefyllfa a allai arwain at gyswllt corfforol neu ymyrraeth, gofynnwch am gymorth ar unwaith.

Ym mhob sefyllfa, cadwch bwysigrwydd cynnal ymddiriedaeth eich dysgwyr a’ch pobl ifanc, a’u ffydd ynoch fel gweithiwr proffesiynol ym mlaen eich meddwl. Rhowch eu hanghenion nhw yn gyntaf, er mwyn eich amddiffyn eich hun.

Torri’r Cod

Mae’r isod yn enghreifftiau o achosion lle mae cofrestreion (o’r holl gategorïau cofrestreion) wedi bod yn destun achos disgyblu CGA, o ganlyniad i beidio â dilyn gweithdrefnau, ac wedi gwneud cyswllt corfforol amhriodol â dysgwyr a phobl ifanc.

Ym mhob achos, torrwyd y Cod yn glir a rhoddwyd ystod o gosbau disgyblu i’r cofrestreion, gan gynnwys, mewn rhai achosion, eu gwahardd rhag ymarfer yn y gweithlu addysg yn y dyfodol.
Roedd cofrestrai wedi:

  • gafael yn nysgwyr, eu taro, eu slapio, eu tynnu, eu gwthio, eu pinsio, a’u bwrw gan achosi marciau coch a chleisiau
  • cael ei ddyfarnu’n euog o ymosod am lusgo dysgwr ar draws y llawr wrth ei fraich
  • slapio dysgwr ar ei glun ar ôl iddo beidio â symud ei goesau oddi ar soffa llyfrgell pan ofynnwyd iddo
  • defnyddio lefelau amhriodol o rym trwy ddal dysgwr wrth ardal gwddf neu ysgwydd ei ddillad, a’i wthio i fyny grisiau
  • taro dysgwr ar ei ben a’i ddwylo â llyfr nodiadau yn yr ystafell ddosbarth, yn groes i’r polisi disgyblu, ar ôl i’r dysgwr wrthod dilyn cyfarwyddiadau
  • glynu dwylo dysgwr wrth bêl, desg, a chadair â thâp selo
  • ceisio defnyddio ‘ataliad amlapio’ â dysgwr agored i niwed pan oedd hynny’n amhriodol
  • cyffwrdd yn amhriodol ag wyneb a thraed dysgwr, ei chodi hi oddi ar y llawr, caniatáu iddi ddringo ar ei gefn, eistedd rhwng ei goesau, sefyll ar ei ddwylo, a sefyll ar ei frest

Cymorth ychwanegol

Rydym yn cynnig cyflwyniadau sy’n canolbwyntio ar briodoldeb i ymarfer. Os hoffech chi neu’ch cyflogwr drefnu un yn y gweithle, cysylltwch â ni.