CGA / EWC

Fitness to practise banner
Canllaw arfer da: Cynnal perthnasau proffesiynol gyda dysgwyr
Canllaw arfer da: Cynnal perthnasau proffesiynol gyda dysgwyr

Lawrlwytho  Canllaw arfer da: Cynnal perthnasau proffesiynol gyda dysgwyr

Cyflwyniad

A chithau’n gofrestrai CGA, mae gennych swydd unigryw o ymddiriedaeth, cyfrifoldeb, a dylanwad gyda dysgwyr a phobl ifanc. Mae hyn yn arwain at anghydbwysedd naturiol mewn awdurdod a rheolaeth rhyngoch. Dyna pam mae cynnal ffiniau proffesiynol clir yn eich perthnasoedd â dysgwyr a phobl ifanc yn eu diogelu nhw, a’ch amddiffyn chi.

Fodd bynnag, fe allai rhai dulliau addysgu a hyfforddi a ddefnyddir i ymgysylltu â dysgwyr a phobl ifanc arwain at ymddygiadau mwy llac ac anffurfiol a all gymylu’r ffiniau hynny, efallai’n ddiarwybod.

Nod y canllaw hwn yw helpu i gynyddu’ch ymwybyddiaeth a’ch dealltwriaeth yn y maes cymhleth hwn o fywyd proffesiynol.

Nid canllawiau rheoleiddiol na gorfodol mo’r rhain. Cynhwyswyd senarios i’ch helpu i feddwl am rai o’r materion a allai godi a’u harchwilio, a sut gallai ein cyngor fod yn berthnasol. Rydym hefyd wedi cynnwys enghreifftiau o arferion annerbyniol lle mae’n amlwg y croeswyd ffiniau proffesiynol.

Y Cod

Mae holl gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn ddarostyngedig i’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) sy’n amlinellu’r egwyddorion ymddygiad ac ymarfer da allweddol a ddisgwylir ganddynt. Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â’r Cod.

Yr egwyddorion a’r disgwyliadau yn y Cod sy’n cyfeirio at ffiniau proffesiynol â dysgwyr a phobl ifanc yw:

1. Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol

Mae cofrestreion:

1.1 yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model rôl a ffigur cyhoeddus, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo

1.2 yn cynnal perthnasau gyda dysgwyr a phobl ifanc mewn modd proffesiynol, drwy:

  • gyfathrebu gyda dysgwyr a phobl ifanc yn barchus, mewn ffordd sy’n briodol iddynt
  • defnyddio pob math o ddull cyfathrebu mewn modd priodol a chyfrifol, yn arbennig y cyfryngau cymdeithasol
  • sicrhau bod unrhyw gysylltiad corfforol yn angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur
  • cyfrannu at greu amgylchedd dysgu teg a chynhwysol drwy fynd i’r afael â gwahaniaethu, ystrydebu, a bwlio
  • cynnal ffiniau proffesiynol

2. Unplygrwydd Proffesiynol

Mae cofrestreion:

2.1 yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol

Mae’r Cod yn bwynt cyfeirio pwysig. Meddyliwch am y pum egwyddor allweddol a’r disgwyliadau maen nhw’n eu gosod arnoch. Bydd y Cod yn eich helpu i wneud y penderfyniadau iawn pan fyddwch yn wynebu’r heriau yr ymdrinnir â nhw yn y canllaw hwn.

Mae’r Cod ar gael ar ein gwefan.

Ffiniau proffesiynol

Bydd ffiniau proffesiynol yn cael eu torri pan fydd cofrestrai’n camddefnyddio ei awdurdod neu ei reolaeth yn ei berthynas â dysgwr neu berson ifanc. Yn aml, mae ymddygiad sy’n torri’r ffiniau hynny’n hawdd ei adnabod. Fodd bynnag, fe allai fod ymddygiadau mwy cynnil lle mae’r tor-ffiniau’n llai amlwg. Ond, ym mhob sefyllfa, chi sy’n gyfrifol am sefydlu a chynnal ffiniau proffesiynol â’r rhai sydd yn eich gofal.

Wrth ryngweithio â dysgwyr a phobl ifanc, meddyliwch yn ofalus am oblygiadau eich ymddygiad gyda nhw, a thuag atynt, a’r canlyniadau posibl. Er enghraifft, hyd yn oed pan nad yw hynny’n rhan o’ch rôl benodol, meddyliwch am ba mor hawdd y gallech ddod yn gyfrinachwr neu’n gwnselydd i ddysgwr neu berson ifanc yn ddiarwybod, hyd yn oed pan fo’r ymddygiad wedi’i ysgogi’n broffesiynol ac â bwriad a. Er hynny, mae perthynas yn cael ei chreu o hyd sy’n gallu cymylu’r berthynas rhwng y cofrestrai a’r dysgwr/person ifanc gan fod y rôl broffesiynol yn dod yn llai diffiniedig.

Dylech gydnabod hefyd fod dysgwyr a phobl ifanc yn gallu croesi ffiniau gyda chi weithiau yn fwriadol neu’n anfwriadol yn y ffordd maen nhw’n siarad, neu drwy gychwyn cyswllt amhriodol, efallai trwy gyfryngau cymdeithasol. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n bwysig i chi ymatal rhag unrhyw gyswllt neu sgwrs amhriodol ar yr arwydd cynharaf o dorri ffin a rhoi gwybod i’r arweinydd diogelu perthnasol am y digwyddiad. Mae’n rhaid i chi wneud hyn nid yn unig i amddiffyn eich hun, ond hefyd y dysgwr neu’r person ifanc sy’n gysylltiedig.

Hyd yn oed y tu allan i’r gweithle, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi reoli perthynas breifat neu broffesiynol â dysgwr neu berson ifanc, er enghraifft mewn gweithgareddau allgyrsiol neu fel hyfforddwr chwaraeon. Cofiwch – rydych bob amser mewn swydd o ymddiriedaeth ac awdurdod gyda dysgwyr a phobl ifanc, ac fe ddylai eich ymddygiad aros yn broffesiynol, ni waeth beth fo’r lleoliad.

Cynyddu eich ymwybyddiaeth

Dylai’r ffordd rydych yn ymwneud â dysgwyr a phobl ifanc gynnwys cydbwysedd gofalus o ymgysylltiad proffesiynol a phellter proffesiynol. Mae’r canlynol yn enghreifftiau o achosion o dorri ffiniau proffesiynol. Nid ydynt yn annibynnol ar ei gilydd ac fe allai achosion o dorri rychwantu nifer ohonynt.

Ffin emosiynol

Sicrhau y defnyddir lefelau priodol a phwyllog o emosiwn wrth ryngweithio â dysgwyr a phobl ifanc.
Esiamplau o dorri’r ffin proffesiynol yw pan fydd cofrestrai:

  • yn rhoi triniaeth arbennig i unigolion penodol heb gyd-destun dilys na diben addysgol
  • yn defnyddio mathau cynnil o reolaeth fel bod dysgwyr neu bobl ifanc yn datblygu dibyniaeth emosiynol arno
  • yn ymddwyn fel ffrind neu gwnselydd, pan nad yw hynny’n rhan o’i rôl

Ffin berthynas

Sicrhau bod y berthynas rhwng cofrestrai a dysgwr neu berson ifanc yn gwbl broffesiynol.

Esiamplau o dorri’r ffin proffesiynol yw pan fydd cofrestrai:

  • yn fflyrtio â dysgwr neu berson ifanc, a/neu’n mynegi teimladau rhamantus tuag ato, naill ai wyneb yn wyneb, neu drwy fodd arall (er enghraifft, cyfryngau cymdeithasol)
  • yn cyffwrdd â dysgwr neu berson ifanc yn glòs neu’n gwneud arwyddion personol tuag ato, er enghraifft, cofleidio (mae hyn yn wahanol i’r mathau o gyffwrdd y gallai ymarferydd sy’n gweithio gyda phlant iau eu defnyddio, sy’n dderbyniol/arferol yn ei rôl)
  • yn rhoi anrhegion neu wobrwyon mewn lleoliad preifat
  • yn cyfarfod â dysgwr neu berson ifanc, neu’n ei wahodd i gyfarfod y tu allan i’r lleoliad addysgol heb reswm dilys, cyd-destun, na chaniatâd
  • yn ffafrio dysgwr neu berson ifanc penodol, heb reswm addysgol na dilys
  • yn ceisio cael ymddiriedaeth teulu a ffrindiau dysgwr neu berson ifanc yn fwriadol fel ffordd o’i integreiddio ei hun ym mywyd cartref y dysgwr

Ffin gyfathrebu

Sicrhau bod y ffordd y mae cofrestrai’n cyfathrebu â dysgwyr a phobl ifanc yn canolbwyntio ar eu hanghenion addysgol. Mae problemau wrth gynnal ffiniau yn aml yn ymwneud â’r ffaith bod cofrestreion yn rhannu gwybodaeth bersonol, neu’n bod yn rhy anffurfiol.

Esiamplau o dorri’r ffin proffesiynol yw pan fydd cofrestrai:

  • yn siarad neu’n cellwair â dysgwr neu berson ifanc am faterion personol neu faterion rhywiol amhriodol
  • yn defnyddio iaith amhriodol, gan gynnwys rhegi
  • yn gwneud sylwadau amhriodol ynglŷn â golwg dysgwr neu berson ifanc, gan gynnwys gwneud sylwadau rhy ganmoliaethus
  • yn difenwi neu’n bychanu’n fwriadol
  • yn defnyddio enwau anwes
  • yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymwneud â chyfathrebu o natur bersonol heb gyd-destun addysgol dilys a/neu fesurau diogelu priodol
  • yn cynnig cyngor i ddysgwr neu berson ifanc ar faterion personol pan nad yw hynny’n rhan o’i rôl broffesiynol
  • yn torri cyfrinachedd pobl eraill trwy rannu gwybodaeth â dysgwr neu berson ifanc
    Ffin awdurdod/rheolaeth

Nid yw cofrestreion yn camddefnyddio’r swydd o bŵer ac awdurdod unigryw sydd ganddynt dros ddysgwyr a phobl ifanc.

Esiamplau o dorri’r ffin proffesiynol yw pan fydd cofrestrai:

  • yn defnyddio ei swydd o awdurdod i niweidio neu fygwth niweidio dysgwr neu berson ifanc
  • yn defnyddio gwybodaeth, neu’n gwrthod rhoi gwybodaeth i ddysgwr neu berson ifanc er mwyn dylanwadu arno, er enghraifft i’w berswadio i gyfarfod ar ei ben ei hun
  • yn gwobrwyo neu’n cosbi dysgwr neu berson ifanc yn ystod perthynas amhriodol ag ef
  • yn defnyddio dysgwr neu berson ifanc i gael budd personol

Ffin gorfforol

Mae cofrestreion yn llwyr ddeall pryd y mae’n angenrheidiol ac yn gymesur gwneud cyswllt corfforol â dysgwr neu berson ifanc. Gweler ein ‘Canllaw arfer da: cyswllt corfforol priodol â dysgwyr a phobl ifanc’.

Esiamplau o dorri’r ffin proffesiynol yw pan fydd cofrestrai:

  • yn cyffwrdd â dysgwr neu berson ifanc heb reswm cymesur nac angenrheidiol dros wneud hynny
  • yn peidio ag atal neu roi gwybod am ddysgwr neu berson ifanc sy’n ceisio cychwyn cyswllt amhriodol, fel symud yn rhy agos i gofrestrai
  • yn bresennol pan fydd dysgwyr yn gwisgo neu’n dadwisgo, pan nad oes ganddo rôl briodol
  • yn niweidio neu’n anafu’n gorfforol

Torri’r Cod

Mae’r isod yn enghreifftiau o rai o’r achosion a atgyfeiriwyd i CGA i ymchwilio i gofrestreion (o’r holl gategorïau cofrestreion) nad ydynt wedi cynnal ffiniau priodol â dysgwyr neu bobl ifanc, ac a fu’n destun achos disgyblu CGA o ganlyniad.

Ym mhob achos, torrwyd y Cod yn glir a rhoddwyd ystod o gosbau disgyblu i’r cofrestreion, gan gynnwys, mewn rhai achosion, eu gwahardd rhag ymarfer yn y gweithlu addysg yn y dyfodol.

Roedd cofrestrai wedi:

  • peledu dysgwr â negeseuon testun personol, galwadau, a negeseuon lluniau a oedd yn cynnwys sylwadau rhywiol ac amhriodol
  • gweithredu fel ‘cyfrinachwr’ i ddysgwr iau nag 16 oed a, phan sefydlwyd dibyniaeth emosiynol, dechreuodd berthynas rywiol
  • rhannu gwybodaeth bersonol â dysgwr a thrafod dysgwyr eraill yn ogystal â chydweithwyr tra oedd yn cynnal perthynas rywiol, yn aml yng nghartref y cofrestrai ei hun
  • prynu alcohol i ddysgwyr a chyfnewid nifer fawr o negeseuon amhriodol â nhw trwy ystod o gymwysiadau cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud wrthynt bob amser i’w dileu nhw
  • ymweld â pherson ifanc a’i rieni yn ei gartref sawl gwaith heb unrhyw reswm dilys nac awdurdod. Diben hyn oedd ennill eu hymddiriedaeth ac fel modd o allu datblygu perthynas â’r dysgwr
  • cymdeithasu â dysgwyr (yn ystafell wely dysgwr) ac yfed alcohol gyda nhw yn ystod taith addysgol
  • bwlio, aflonyddu, ac ymosod yn gorfforol ar blentyn yn systematig mewn lleoliad ysgol arbennig
  • gweiddi ar blant oed meithrin a’u cam-drin sawl gwaith gan achosi cleisiau ac ofn i’r dysgwyr
  • bychanu pobl ifanc yn rheolaidd trwy wneud sylwadau amhriodol amdanynt, gan gynnwys yn ymwneud â rhywedd, hil a maint. Ategwyd hyn gan ystod o ‘lysenwau’ difrïol a ddefnyddiwyd yn lle eu henwau go iawn
  • atal plentyn yn amhriodol trwy ei glymu wrth ddarn o ddodrefn a thapio ei ddwylo ynghyd a’i geg ar gau

Cymorth ychwanegol

Rydym yn cynnig cyflwyniadau sy’n canolbwyntio ar briodoldeb i ymarfer. Os hoffech chi neu’ch cyflogwr drefnu un yn y gweithle, cysylltwch â ni.