CGA / EWC

Fitness to practise banner
Canllaw arfer da: Arweinwyr mewn addysg
Canllaw arfer da: Arweinwyr mewn addysg

Lawrlwytho  Canllaw arfer da: Arweinwyr mewn addysg

Cyflwyniad

Mae gan arweinwyr addysg ystod eang o gyfrifoldebau, ac maen nhw’n chwarae rôl allweddol mewn sicrhau bod dysgwyr a phobl ifanc yn cael eu haddysgu, eu meithrin, a’u hannog. Rydym yn gwybod bod ein harweinwyr yng Nghymru yn weithwyr proffesiynol ymroddedig iawn.

Mae’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) yn amlinellu’r egwyddorion allweddol y disgwylir i gofrestrai eu dilyn wrth ymddwyn ac ymarfer o ddydd i ddydd. I ategu’r Cod, mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi nifer o ganllawiau y bwriedir iddynt gefnogi’r holl gofrestreion, gan gynnwys arweinwyr, i ddeall a chymhwyso’r Cod. Mae’r Cod a’r canllawiau ar gael ar ein gwefan.
Fodd bynnag, datblygwyd y canllaw hwn yn benodol ar gyfer arweinwyr addysg, a bydd yn ddefnyddiol i’r rhai hynny sydd mewn rolau arweinyddiaeth uwch a chanol.

Y Cod

A chithau’n arweinydd, byddwch yn gyfarwydd â phob rhan o’r Cod, gan ei ddefnyddio fel pwynt cyfeirio pwysig. Bydd dysgwyr, pobl ifanc, cydweithwyr, a’r cyhoedd yn disgwyl i chi fod yn rhywun sy’n dangos esiampl dda, y disgwylir iddo gynnal y Cod a’i bum egwyddor allweddol:

  1. Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol
  2. Unplygrwydd Proffesiynol
  3. Cydweithio
  4. Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol
  5. Dysgu Proffesiynol

Fodd bynnag, fel gweithiwr proffesiynol, fe allai ymddygiad amhriodol yn eich bywyd personol neu broffesiynol effeithio yn y pen draw ar eich swydd fel arweinydd, eich cofrestriad â CGA, ac efallai eich cymhwysedd i barhau i ymarfer.

Cynyddu eich ymwybyddiaeth

Yn eich swydd fel arweinydd, byddwch yn defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau i fod yn y sefyllfa orau posibl i gyflawni eich cyfrifoldebau dyddiol.

Er hynny, weithiau, ni waeth pa mor fedrus a hunanymwybodol yw arweinydd, fe all wneud camgymeriad, camfarn, neu benderfyniad gwael o hyd, sy’n bwrw amheuaeth ar ei ymddygiad yn y pen draw.

Gan ddefnyddio ein profiad o’r mathau o ymddygiad a welir yn ein gwaith achos priodoldeb i ymarfer, rydym wedi amlygu rhai themâu cyffredin sydd wedi achosi i arweinwyr addysg gael eu hatgyfeirio i ni.
Nid yw’r enghreifftiau a ddefnyddiwn isod i ddangos egwyddorion pwysig yn annibynnol ar ei gilydd ac fe allai’r ymddygiadau a ddisgrifir rychwantu nifer o wahanol fathau.

Camreoli ariannol

  • torri gweithdrefnau/rheoliadau ariannol sy’n arwain at gamreoli
  • defnyddio cronfeydd, neu eiddo, er mwyn budd personol neu broffesiynol
  • peidio â gweithredu â gonestrwydd na bod yn atebol

Llywodraethu ac atebolrwydd

  • achosion o dorri sy’n ymwneud â llywodraethu ac atebolrwydd
  • anwybyddu polisïau a gweithdrefnau
  • peidio â sefydlu a chynnal perthynas waith broffesiynol â’r gyfarwyddiaeth neu’r corff llywodraethu perthnasol
  • bod yn anonest â’r gyfarwyddiaeth neu’r corff llywodraethu, gan beidio â rhoi gwybodaeth lawn iddynt
  • torri deddfau statudol, fel y rhai hynny sy’n ymwneud â chydraddoldeb a diogelu data

Torri ffiniau proffesiynol

  • camddefnyddio pŵer a swydd
  • bwlio, aflonyddu neu fygwth staff
  • ymagwedd annheg at ddelio â dysgwyr, pobl ifanc, a/neu staff
  • peidio â chynnal ffiniau proffesiynol â chydweithiwr, dysgwr, neu berson ifanc
  • peidio â defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol

Peryglu iechyd, diogelwch a llesiant dysgwyr, pobl ifanc a/neu staff (gan gynnwys diogelu)

  • peidio â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod iechyd a diogelwch dysgwyr, pobl ifanc, a/neu staff yn cael eu cynnal yn ddigonol
  • peidio â chynnal, neu gofnodi, asesiadau risg
  • peidio â sicrhau bod gweithdrefnau priodol yn cael eu dilyn ar deithiau allanol
  • peidio â chofnodi, adrodd, na chynnal cofnodion cywir o ddigwyddiadau

Anonestrwydd

  • anwirio dogfennau
  • camymarfer asesu a/neu arholi
  • darparu gwybodaeth anwir ar lafar a/neu’n ysgrifenedig
  • dwyn cronfeydd, camreoli ariannol

Troseddau

  • troseddau sy’n tanseilio enw da proffesiynol

Torri’r Cod

Gyda’r uchod mewn golwg, mae’r isod yn enghreifftiau o achosion lle mae cofrestreion mewn swyddi arwain (o’r holl gategorïau cofrestreion) wedi bod yn destun achos disgyblu CGA.

Cydnabyddwn fod y mwyafrif helaeth o arweinwyr yn gweithredu â’r proffesiynoldeb mwyaf. Fodd bynnag, yn yr holl achosion hyn, torrwyd y Cod yn glir. Rhoddwyd ystod o gosbau disgyblu i’r cofrestreion, gan gynnwys, mewn rhai achosion, eu gwahardd rhag ymarfer yn y gweithlu addysg yn y dyfodol.

Camreoli ariannol

Nid oedd cofrestrai mewn swydd arwain wedi cofnodi arian a dderbyniwyd gan ddysgwyr, cadwodd yr arian gartref, ni roddodd ef yn y banc, a diwygiodd y dyddiadau gwreiddiol ar sieciau a dderbyniwyd

Llywodraethu ac atebolrwydd/risg i iechyd, diogelwch, a llesiant

Roedd cofrestrai mewn swydd arwain wedi:

  • methu adrodd am berthynas rywiol rhwng aelod o staff a phlentyn mewn ysgol arall
  • rhoi dysgwyr mewn perygl trwy anwybyddu rheoliadau iechyd a diogelwch ac osgoi cadarnhau gan y corff llywodraethu ar gyfer datblygiad maes chwarae
  • methu dilyn gweithdrefnau diogelu plant, sawl gwaith, a gyfrannodd at niwed difrifol i’r bobl ifanc dan sylw
  • cyflawni toriadau diogelwch data difrifol trwy rannu gwybodaeth gyfrinachol am ddysgwyr â phartïon allanol
  • methu dilyn gweithdrefnau ar gyfer ymweliadau a theithiau addysgol, gan roi dysgwyr a phobl ifanc mewn perygl
  • bod yn absennol o ddyletswydd yn barhaus, heb awdurdod, yn groes i’r polisi absenoldeb
  • methu dilyn y polisi a’r gweithdrefnau recriwtio trwy benodi aelod o’i deulu heb hysbysebu’r swydd wag

Torri ffiniau proffesiynol

Roedd cofrestrai mewn swydd arwain wedi:

  • camfanteisio ar ei swydd trwy fwlio ac erlid aelodau staff
  • gwahaniaethu’n agored yn erbyn aelodau staff oherwydd eu rhywedd a’u tarddiad ethnig
  • ymddwyn yn amhriodol â dysgwr ar safle’r ysgol ar ôl oriau ysgol
  • ymddwyn yn amhriodol â chydweithiwr ar safle gwaith a recordiwyd yn gudd ac a rannwyd ar gyfryngau cymdeithasol

Anonestrwydd

Roedd cofrestrai mewn swydd arwain wedi:

  • ffugio llofnod y cydlofnodwr ar sieciau’r ysgol cyn eu newid at ddefnydd personol
  • anwybyddu camymarfer a oedd yn digwydd gydag asesiadau, gan ei fod yn ffordd ‘dderbyniol’ o weithio yn y sefydliad
  • llofnodi ffurflenni datganiad Arholiadau Rhifedd a Llythrennedd Cenedlaethol i gadarnhau y dilynwyd holl ganllawiau’r corff arholi’n briodol, pan oedd yn gwybod nad oedd hynny’n wir
  • cael ei gysylltu â ffugio llofnodion ar ffurflenni asesu, a achosodd i’r contractwr golli cyllid
  • Llywodraeth Cymru

Troseddau

Roedd cofrestrai mewn swydd arwain wedi:

  • cael ei euogfarnu o droseddau rhywiol yn erbyn aelod o staff yn dilyn cyfnod o aflonyddu parhaus yn y gweithle
  • cael ei euogfarnu o dyfu a chyflenwi cyffuriau
  • cael ei euogfarnu o ddwyn ar ôl gamblo ar-lein gan ddefnyddio cronfeydd yr ysgol

Ein cyngor

Gofynnwch i’ch hun, os byddwch yn dilyn ffordd benodol o weithredu, naill ai yn eich bywyd preifat neu broffesiynol, a fydd eich ymddygiad yn dod o fewn disgwyliadau’r Cod, neu’n ei dorri?

Os bydd pethau’n mynd o chwith, gallai anweithredu olygu eich bod yn torri’r Cod. Peidiwch ag anwybyddu’r sefyllfa a gweithredwch yn gynnar.

Byddwch yn onest

Mae dweud y gwir am yr hyn sydd wedi digwydd yn ffordd gyflymach o sicrhau canlyniad cadarnhaol. Cymerwch gyfrifoldeb pan fydd angen i chi wneud hynny. Ceisiwch osgoi rhoi’r bai ar bobl eraill, a byddwch yn atebol am eich gweithredoedd eich hun.

Gofynnwch am gyngor neu gymorth proffesiynol

Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu delio â hyn ar eich pen eich hun. Gofynnwch am gyngor a chymorth (gan undeb llafur, rhwydwaith proffesiynol, mentor, uwch arweinydd arall). Fe allai eich helpu i benderfynu ar y ffordd orau o weithredu’n broffesiynol.

Myfyriwch ar unrhyw gyngor a roddwyd i chi, ac ystyriwch beth yw’r ffordd orau o symud ymlaen i ddatrys y sefyllfa

Atgoffwch eich hun eto o’r disgwyliadau a osodir arnoch i gynnal y Cod, yn enwedig o ystyried eich swydd o gyfrifoldeb.

Ystyriwch hyn yn gyfle i warchod, neu adfer, eich uniondeb proffesiynol.

Fe allai fod yn briodol hunanatgyfeirio i CGA.

Ymrwymwch i ddatrysiad, dysgwch ohono, a symudwch ymlaen.

Cymorth ychwanegol

Rydym yn cynnig cyflwyniadau sy’n canolbwyntio ar briodoldeb i ymarfer. Os hoffech chi neu’ch cyflogwr drefnu un yn y gweithle, cysylltwch â ni.