CGA / EWC

Fitness to practise banner
Canllaw arfer da: Mynd i’r afael â hiliaeth
Canllaw arfer da: Mynd i’r afael â hiliaeth

Lawrlwytho'r canllaw arfer da: mynd i'r afael â hiliaeth

Cyflwyniad

Mae Cymru’n gymdeithas amlddiwylliannol sefydledig lle mae unigolion o gefndiroedd ethnig amrywiol yn dysgu gyda’i gilydd ac oddi wrth ei gilydd. Dylai gweithwyr addysg proffesiynol felly ddeall a gwerthfawrogi gwerth y profiadau, diwylliannau a chefndiroedd gwahanol a rhaid iddynt sicrhau nad yw dysgwyr, pobl ifanc a chydweithwyr byth dan anfantais ac na wahaniaethir yn eu herbyn oherwydd eu hil, ethnigrwydd neu grefydd.

Dylai holl ddysgwyr Cymru deimlo’n hyderus y byddant yn ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn cael eu trin â thegwch a pharch pan fyddant yn mynd i’w lle dysgu. Mae’n hanfodol felly eich bod chi, fel un sydd wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn sicrhau bod eich ymddygiadau a’ch ymarfer yn gynhwysol ac yn creu amgylchedd lle mae dysgwyr, pobl ifanc a chydweithwyr (yn ogystal â rhieni, gwarcheidwaid ac aelodau’r gymuned ehangach) yn teimlo bod croeso iddynt waeth beth fo’u hil neu ethnigrwydd. Lle bo digwyddiadau hiliol yn codi, rhaid ichi ymdrin â hwy yn briodol ac effeithiol, gydag empathi a thosturi.

Nod y canllaw hwn, a gefnogir gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a BAMEed Network Wales yw cynorthwyo’r holl ymarferwyr addysg cofrestredig i ganfod materion yn ymwneud â hiliaeth a rhoi sylw iddynt, yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn nogfen Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA. Ni all y ddogfen fynd i’r afael â’r holl amgylchiadau posibl, ac ni fwriedir iddi fod yn rhestr gyflawn o ymddygiadau. Ni fwriedir chwaith i’r canllaw gymryd lle hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ynghylch y materion y mae’n ymdrin â hwy. Fodd bynnag, darparwyd y canllaw i bwysleisio pwysigrwydd mynd i’r afael â materion hiliaeth a hyrwyddo cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth yn eich lleoliad, ac mae’n cynnwys arweiniad am:

  • cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol; a
  • y camau y gallwch eu cymryd i fynd i’r afael â hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb, gan gynnwys:
    • creu amgylchedd cynhwysol;
    • bod yn wybodus;
    • gochel rhag rhagfarn;
    • canfod ymddygiad hiliol;
    • gweithredu yn erbyn gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth; a
    • sicrhau yr adroddir am achosion o hiliaeth ac y cânt eu cofnodi.

Gall y canllaw hefyd helpu ymarferwyr i gydymffurfio â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2020 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae'n ofynnol i gyrff rhestredig (o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010) yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion a cholegau addysg bellach, gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus wrth arfer eu swyddogaethau, gan gynnwys rhoi sylw dyledus i’r angen i ddiddymu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf. Mae hefyd yn ofynnol iddynt roi sylw i hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol (gan gynnwys eu hil a’u crefydd) a rhai nad ydynt yn ei rhannu a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a rhai nad ydynt yn ei rhannu.

 Y Cod

Mae holl gofrestreion CGA yn atebol i’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod), wsy’n nodi prif egwyddorion ymddygiad ac ymarfer da ar gyfer cofrestreion. Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â’r Cod felly.

Yr egwyddorion a’r disgwyliadau yn y Cod sy’n berthnasol i ymdrin â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a hiliaeth yw:

Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol

Mae cofrestreion:

  1. yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model rôl a ffigur cyhoeddus, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo;
  2. yn cynnal perthnasau gyda dysgwyr mewn modd proffesiynol, drwy;
    1. cyfrannu at greu amgylchedd dysgu teg a chynhwysol drwy fynd i'r afael â gwahaniaethu, ystrydebu a bwlio;
  3. yn ymgysylltu â dysgwyr i annog hyder, grymuso, datblygiad addysgol a phersonol;
  4. yn meddu ar ddyletswydd gofal dros ddiogelwch dysgwyr a'u llesiant corfforol, cymdeithasol, moesol ac addysgol;
    1. gweithredu ar unrhyw beth a allai beryglu diogelwch neu lesiant dysgwr;
    2. adrodd… unrhyw fater diogelu, neu unrhyw fater arall a allai o bosibl niweidio diogelwch neu lesiant dysgwr.
  5. yn dangos ymrwymiad at gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Camau y gallwch chi eu cymryd i fynd i’r afael â hiliaeth, hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin cysylltiadau da

Creu amgylchedd cynhwysol

Mae’n bwysig sicrhau bod yr holl ddysgwyr, pobl ifanc a chydweithwyr yn teimlo’n ddiogel ac y cânt eu gwerthfawrogi a’u parchu. Dylai ein lleoedd dysgu hefyd fod yn groesawgar i rieni, gwarcheidwaid a’r gymuned ehangach. Gallwch gefnogi hyn trwy weithio i hyrwyddo ymagwedd ysgol gyfan/sefydliad cyfan sy’n creu amgylchedd sy’n gynhwysol, sy’n ymchwilio i amrywiaeth ac yn ei gwerthfawrogi, ac sy’n gadarn wrth-hiliol.

Fel gweithiwr addysg proffesiynol, dylech fod yn fodel rôl cadarnhaol i ddysgwyr a phobl ifanc. Trwy fodelu ymddygiadau gwrth-hiliol a dangos agweddau cadarnhaol tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth, gallwch helpu dysgwyr a phobl ifanc i ddeall barn, safbwyntiau a phrofiadau byw gwahanol.

Defnyddiwch iaith ac ymddygiad sy’n gynhwysol a heb ragfarn. Ceisiwch ddefnyddio enghreifftiau sy’n adlewyrchu amrywiaeth eang o hunaniaethau a phersbectifau ym mhob agwedd ar eich rôl. Bydd cynnwys lleisiau a dylanwadau amrywiol yn eich ymarfer yn helpu dysgwyr a phobl ifanc i ddatblygu gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o brofiadau a safbwyntiau gwahanol.

Addysgwch eich hun

Er mwyn herio ystrydebau a rhagfarn yn hyderus, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o, a darparu gwybodaeth gywir, a herio naratifau rhagfarnllyd.

Peidiwch â disgwyl i bobl o gefndiroedd eraill eich addysgu. Cymerwch gyfrifoldeb dros addysgu’ch hun am arferion diwylliannol a chrefyddol sy’n wahanol i’ch rhai chithau – dysgwch am brofiadau pobl hil-ddiffiniedig sy’n byw yng Nghymru ac effaith hil yn yr ystafell ddosbarth. Hefyd, byddwch yn ymwybodol o ddigwyddiadau cyfredol, yn arbennig y rhai a allai fod â goblygiadau o ran hil a byddwch yn barod i’w trafod yn adeiladol gyda dysgwyr a phobl ifanc. Bydd hyn yn eich helpu i wynebu rhagfarn yn fwy hyderus a gyda golwg ar ail-addysgu eraill.

Wrth addysgu’ch hun, dylech gymryd gofal i sicrhau eich bod yn defnyddio ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a chywir, a’ch bod yn gwybod ble a sut i gael mwy o gefnogaeth petai angen.

Rhoddir rhestr o ddolenni i sefydliadau ac adnoddau a fydd yn gallu rhoi help a gwybodaeth ichi ynghylch y materion hyn ar ddiwedd y ddogfen hon.

Mae hefyd yn bwysig sicrhau eich bod yn gyfarwydd â pholisïau’ch cyflogwr. Efallai y bydd y rhain yn cynnwys polisïau ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, polisïau gwrth-fwlio ac eraill. At hynny, mae’n ofynnol i bob ysgol a choleg addysg bellach fod â Chynllun Cydraddoldeb Strategol

Gochel rhag rhagfarn

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’ch agweddau a’ch ystrydebau eich hun mewn perthynas â grwpiau gwahanol o bobl, a deall sut y gall rhagfarn (ymwybodol neu anymwybodol) effeithio ar eich gweithredoedd a’ch penderfyniadau, ac efallai achosi gwahaniaethu. Yn anad dim, dylech gofio bod dysgwyr, pobl ifanc a chydweithwyr o unrhyw gefndir yn unigolion â hunaniaethau cymhleth iawn. Dim ond un dimensiwn o’r hunaniaethau hyn yw ethnigrwydd – mae’r ffactorau eraill yn cynnwys rhywedd, rhyw, rhywioldeb, anabledd, dosbarth cymdeithasol a chrefydd neu gred.

Er mwyn helpu i ochel rhag rhagfarn:

  • myfyriwch ar eich agweddau ac ymddygiadau chithau. Dysgwch i fod yn ymwybodol o unrhyw ragfarn a all fod gennych, a gweithio i’w herio; a
  • byddwch â’r dewrder i herio rhagfarn pobl eraill.

Canfod ymddygiad hiliol

Mae’n hanfodol sicrhau nad yw’r cyfrifoldeb am herio hiliaeth yn disgyn ar y rhai sy’n ei dioddef. Mae’n bwysig felly sicrhau eich bod yn gallu canfod ymddygiad hiliol, ac yn gallu datblygu dulliau effeithiol o fynd i’r afael â hi.

Mae adroddiad Macpherson (1999) i lofruddiaeth y bachgen ifanc du Stephen Lawrence (yn Llundain yn 1993) yn diffinio digwyddiad hiliol fel: ‘unrhyw ddigwyddiad y canfyddir ei fod yn hiliol gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall’. Gallai enghreifftiau o ymddygiadau hiliol felly gynnwys:

  • galw enwau, gan ddefnyddio iaith sy’n sarhaus yn hiliol neu iaith sy’n adlewyrchu ystrydebau am ethnigrwydd;
  • dweud jôcs hiliol;
  • gwawdio arferion neu draddodiadau crefyddol rhywun;
  • ymddygiad corfforol a ysgogwyd gan ragfarn yn erbyn ethnigrwydd neu ethnigrwydd canfyddedig rhywun, megis taro, baglu, gwthio neu gicio;
  • eithrio dysgwyr eraill, pobl ifanc neu gydweithwyr rhag ymuno â sgyrsiau neu weithgareddau oherwydd eu hethnigrwydd neu ethnigrwydd canfyddedig;
  • microymosodiadau neu ddibwyllo, sy’n bychanu profiadau o hiliaeth;
  • graffiti sy’n targedu unigolion neu grwpiau ar sail eu hethnigrwydd; a
  • seiberfwlio.

Mae'n bwysig sylweddoli nad yw digwyddiadau hiliol yn aml yn cynnwys sarhad hiliol uniongyrchol ac yn aml maent ar ffurf mathau eraill o ymddygiad bygythiol (sy’n cael eu cymell gan ragfarn hiliol).

Gweithredwch yn erbyn gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth

Mae’n bwysig eich bod yn teimlo’n hyderus i herio gwahaniaethu lle bynnag y’i gwelwch, p’un ai gan ddysgwyr, pobl ifanc neu gydweithwyr. Fel gweithiwr proffesiynol, gallwch wneud gwahaniaeth cadarnhaol trwy godi’ch llais a mynd i’r afael ag ymddygiad amhriodol.

Wrth herio hiliaeth, dylech:

Herio agweddau ac ymddygiad, yn hytrach nag unigolion

Mae’n bwysig herio ymddygiad mewn ffordd sy’n osgoi gwneud i eraill deimlo’n amddiffynnol. Dylech annog dysgwyr, pobl ifanc a chydweithwyr sydd wedi ymddwyn mewn ffordd wahaniaethol i fyfyrio ar eu hymddygiad a’i effaith. Dylech ganolbwyntio ar newid ymddygiad ac agweddau, nid gweld bai a chodi cywilydd.

Dyma enghreifftiau o’r cwestiynau y gallech eu gofyn i ddysgwyr, pobl ifanc a chydweithwyr i’w helpu i fyfyrio ar eu hymddygiad:

  • Beth oedd yn mynd trwy’ch meddwl ar y pryd?
  • Oeddech chi’n ymwybodol bod yr hyn a ddywedasoch yn swnio’n hiliol ac y gallai frifo rhywun?
  • Beth ydych chi wedi meddwl ers y digwyddiad? Ydych chi wedi ystyried bod yr iaith hon yn hiliol?
  • Ar bwy yr effeithiwyd gan yr hyn a ddigwyddodd?
  • Sut yr effeithiwyd arnynt?
  • Beth mae arnoch angen iddo ddigwydd nawr? Oes arnoch angen mwy o wybodaeth am hiliaeth, a’r ffordd mae’n effeithio ar bobl?

Darparu gwybodaeth gywir a herio ystrydebau a rhagfarn

Bydd darparu gwybodaeth gywir am grwpiau diwylliannol a chrefyddol yn helpu i ddileu credoau ffug ac ystrydebau.

Mae’r derminoleg a ddefnyddir wrth drafod y materion hyn yn gymhleth; ceir nifer o dermau ar gyfer ethnigrwyddau a chenedligrwyddau gwahanol.

Fel y nodir uchod, dylech fod yn rhagweithiol wrth addysgu’ch hun am eich diwylliant eich hun a diwylliannau pobl eraill, er mwyn sicrhau eich bod yn ymyrryd o safbwynt gwybodus.

Gosod disgwyliadau clir

Byddwch yn glir na fyddwch yn goddef iaith neu ymddygiad sarhaus, ac y byddwch yn ymdrin o ddifrif ag unrhyw ddigwyddiad hiliol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ‘gellwair’ a ‘jôcs’ sy’n hiliol.

 

Adrodd am ddigwyddiadau hiliol a’u cofnodi

Mae tystiolaeth yn dangos bod llawer o bobl ifanc o gefndiroedd Duon, Asiaidd neu ethnig lleiafrifol yn anfodlon adrodd am ddigwyddiadau hiliol. Yn ôl adroddiad elusen Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, ‘Hiliaeth yng Nghymru? Archwilio Rhagfarn yn y System Addysg yng Nghymru’ (2020), er bod 63% o ddisgyblion yng Nghymru’n dweud eu bod hwy, neu rywun maent yn ei adnabod, wedi bod yn darged i hiliaeth, dim ond 25% o addysgwyr oedd wedi ymateb i ddigwyddiad hiliol yn ystod y 12 mis blaenorol. Felly mae’n hanfodol bod pobl ifanc o gefndiroedd Duon, Asiaidd neu ethnig lleiafrifol yn teimlo y gallant drafod hiliaeth, pan fydd yn digwydd, gydag aelod o staff, ac yn gallu teimlo’n hyderus y caiff eu cwynion am ymddygiad hiliol eu cymryd o ddifrif ac y gweithredir arnynt.

Mae darparu lle diogel lle gall pobl ifanc (a staff) herio ystrydebau hiliol a barn ragfarnllyd mewn ffordd adeiladol yn hanfodol i’r broses o greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol. I sicrhau eich bod chi neu’ch lleoliad yn darparu lle diogel o’r fath, mae’n hanfodol peidio byth â diystyru adroddiad am hiliaeth, a thrin pob digwyddiad o ddifrif:

  • gwrandewch ar y person ifanc;
  • dylech gydnabod ei deimladau;
  • ceisiwch ddeall yr hyn a ddigwyddodd a mynd i’r afael ag ef;
  • dylech gynnwys y dysgwr neu berson ifanc mewn unrhyw weithredoedd dilynol; ac
  • anogwch yr holl ddysgwyr, pobl ifanc a chydweithwyr i fod yn wyliadwrus ac i adrodd am unrhyw bryderon.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r prosesau perthnasol ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau, ac yn eu deall, a’ch bod yn eu dilyn yn ofalus. Cadwch gofnod o unrhyw ddigwyddiadau a gweithredu arnynt yn syth os ydych chi’n dyst i ddigwyddiad neu fwlio hiliol neu’n cael unrhyw adroddiad ynghylch digwyddiad o’r fath. Bydd yr ymagwedd ragweithiol hon yn helpu i sicrhau bod dysgwyr a phobl ifanc yn gallu teimlo’n hyderus i adrodd am ddigwyddiadau hiliol.

Dolenni ac adnoddau defnyddiol

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn hyrwyddo a chynnal delfrydau a chyfreithiau ym meysydd cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Rhwydwaith BAMEed

Sefydliad llawr gwlad yw’r rhwydwaith BAMEed sydd â’r nod o sicrhau bod cymunedau amrywiol yn cael eu cynrychioli yn y gweithlu addysg (gan gynnwys fel arweinwyr) ac sy’n ceisio mynd i’r afael â’r materion ehangach ynghylch amrywiaeth a hiliaeth yn y sector addysg. Mae ei wefan yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau a deunyddiau darllen defnyddiol. Mae gan y rhwydwaith gangen yng Nghymru sy’n cyfarfod yn rheolaidd i ddatblygu gwaith a chynnig amrywiaeth eang o gymorth.
Cysylltu: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST)

Sefydliad gwirfoddol sydd wedi ennill gwobrau yw Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru, a sefydlwyd i gynorthwyo pobl o dras ethnig lleiafrifol yng Nghymru.
Gwefan: 

Cynghrair Hil Cymru

Sefydlwyd Cynghrair Hil Cymru yn 2018, ac mae’n gweithredu fel platfform cydweithredol i unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn cyflawni cydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Corff ambarél yw Race Council Cymru (RCC) sy’n gweithio i ddwyn ynghyd sefydliadau allweddol yng Nghymru er mwyn hyrwyddo integreiddio a hyrwyddo cyfiawnder a chydraddoldeb hiliol mewn sefydliadau ac yn y gymdeithas.

Show Racism the Red Card

Mae elusen Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn gweithio mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill ledled y DU i gynnig amrywiaeth o hyfforddiant, gweithdai, adnoddau a gweithgareddau addysgol, sydd â’r nod o addysgu pobl ifanc ac oedolion am achosion a chanlyniadau hiliaeth.

Darllen Pellach

Cyngor y Gweithlu Addysg - Cynrychiolaeth pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn y gweithlu ysgolion yng Nghymru. Adroddiad Cam 3 ac argymhellion terfynol i Lywodraeth Cymru

Cynghrair Hil Cymru – Dangoswch inni ei bod o bwys ichi: archwilio effaith gronnol hiliaeth ar bobl ifanc “hil-ddiffiniedig” yn system addysg Cymru.

Llywodraeth y DU – Canllaw ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Llywodraeth Cymru – Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Cymru Wrth-hiliol

Diffiniadau

Nid yw’r diffiniadau sydd wedi’u cynnwys yma wedi’u cyfyngu i’r rhai a ddefnyddir yn y canllaw hwn ac maent yn cynnwys termau efallai y byddwch yn dod ar eu traws yn eich ymchwil a’ch dysgu eich hun:

Gwrth-hiliaeth Yr ymrwymiad gweithgar i ganfod a herio hiliaeth a gwahaniaethu ar lefelau unigol, sefydliadol a systemaidd.
Rhagfarn Ffafriaeth o blaid, neu yn erbyn, person neu grŵp ar sail nodweddion personol neu stereoteipiau.
Gwahaniaethu Ymdrin yn anghyfartal ag aelodau o wahanol grwpiau, ar sail nodweddion gwarchodedig (oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol).
Amrywiaeth

Presenoldeb amrywiaeth fawr o nodweddion gwahanol mewn grŵp o bobl neu sefydliad.

Mae amrywiaeth yn cynnwys yr holl ffyrdd mae pobl yn wahanol i’w gilydd. Gall gynnwys ffactorau fel oed, rhyw, hil, ethnigrwydd, gallu corfforol a deallusol, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir addysgol, statws economaidd gymdeithasol ac arbenigedd. Mae hefyd yn ymwneud â syniadau, safbwyntiau a gwerthoedd gwahanol.

Tegwch Y broses o sicrhau tegwch a didueddrwydd, o gydnabod nad yw pawb yn dechrau o’r un man cychwyn a bod angen addasu er mwyn mynd i’r afael ag anghyfartaleddau.
Dibwyllo Creu naratifau ffug sy’n achosi i berson arall neu grŵp o bobl amau eu canfyddiadau o realiti, gan eu drysu neu beri gofid iddynt, o bosibl.
Cynhwysiant Galluogi pobl i gymryd rhan lawn yn yr hyn a wnawn. Gwerthfawrogi ein gwahaniaethau unigryw a’u defnyddio mewn ffordd sy’n dangos parch at yr unigolyn.
Addysg gynhwysol Addysg sydd wedi’i seilio ar egwyddorion derbyn a chynnwys yr holl ddysgwyr a phobl ifanc. Sicrhau bod dysgwyr a phobl ifanc yn gallu gweld eu hunain wedi’u hadlewyrchu yn y cwricwlwm, eu hamgylchoedd corfforol a’r amgylchedd ehangach, lle caiff amrywiaeth ei hanrhydeddu a phob unigolyn ei barchu.
Hiliaeth unigol Mae hiliaeth unigol yn cyfeirio at gredoau, agweddau a gweithredoedd unigolion sy’n cefnogi hiliaeth neu’n ei barhau. Gall hiliaeth unigol fod yn fwriadol, neu gall yr unigolyn weithredu i barhau neu gefnogi hiliaeth heb wybod ei fod yn gwneud hynny.
Hiliaeth sefydliadol Mae hiliaeth sefydliadol yn cyfeirio’n benodol at y ffyrdd y mae polisïau ac arferion sefydliadol yn creu canlyniadau gwahanol i grwpiau hiliol gwahanol.
Microymosodiadau Ymddygiad geiriol neu ddieiriau dyddiol, cynnil wedi’i gyfeirio at aelod o grŵp ar y cyrion, sy’n cael effaith ddifrïol a niweidiol. Gall hyn fod yn fwriadol neu’n anfwriadol.
Hil System a ddyfeisiwyd yn gymdeithasol o gategoreiddio pobl ar sail ffactorau daearyddol, hanesyddol, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, yn ogystal â nodweddion corfforol.
Hil-ddiffinio Y broses lle mae cymdeithasau’n dyfeisio hiliau fel rhai sy’n real, yn wahanol ac yn anghyfartal mewn ffyrdd sy’n bwysig ac yn effeithio ar fywyd economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol.
Hiliaeth Rhagfarn, gwahaniaethu neu wrthwynebiaeth gan unigolyn neu sefydliad yn erbyn person neu bobl ar sail eu grŵp hiliol neu ethnig, sydd fel arfer yn un lleiafrifol neu ar y cyrion.
Stereoteip Rhagdybiaeth gan lawer ar sail pethau fel hil, lliw, tarddiad ethnig, tarddle, crefydd ac ati. Fel arfer bydd stereoteipio’n ymwneud â phriodoli’r un nodweddion i bob aelod o grŵp waeth beth fo’u gwahaniaethau unigol. Mae’n aml wedi’i seilio ar gamdybiaethau, gwybodaeth anghyflawn a/neu gyffredinoliadau ffug.