CGA / EWC

Professional development banner
Canllawiau ymchwil
Canllawiau ymchwil

Sut i....ysgrifennu adroddiad ymchwil gweithredu

Nid oes unrhyw fformat rhagnodedig ar gyfer ysgrifennu adroddiad ymchwil gweithredu. Mae'n dibynnu ar eich cynulleidfa fwriadedig a’ch cyd-destun addysgol. Mae rhai elfennau allweddol sy’n gyffredin i’r rhan fwyaf o strwythurau adroddiadau ymchwil gweithredu.

Darllenwch ein canllaw i ysgrifennu adroddiad ymchwil .

Sut i... sefydlu clwb cyfnodolion

Mae clybiau cyfnodolion yn gyfarfodydd a gynhelir yn rheolaidd lle mae unigolion â diddordebau tebyg yn dod ynghyd i drafod erthyglau diweddar a llenyddiaeth academaidd. Eu nod yw cau’r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer a hybu trafodaeth ynghylch sut i werthuso a chymhwyso ymchwil. Dysgwch am y pethau sylfaenol sy'n ymwneud â chreu clwb cyfnodolion a sut i wneud y mwyaf o adnodd ESBCO y mae gennych fynediad iddo fel cofrestrai CGA.

Darllenwch ein canllaw i greu clwb cyfnodolion .

Lawrlwythwch taflen gwerthuso clwb cyfnodolion .