Darparodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru.
Mae CGA, sef rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg, yn cynnal cofrestr o’r holl ymarferwyr addysg sydd wedi cofrestru i weithio yng Nghymru ar draws ysgolion, addysg bellach, addysg oedolion/dysgu’n seiliedig ar waith, a gwaith ieuenctid. Mae hyn yn ei roi mewn safle unigryw i rannu deallusrwydd gwerthfawr gyda’r pwyllgor, gan gynnwys data ar gyfansoddiad gweithlu addysg Cymru, dros y 25 mlynedd diwethaf.
Hefyd, mae gan CGA gyfrifoldeb statudol i achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys rôl fonitro a gweinyddu statws athro cymwysedig (SAC) i’r rhai sy’n ymuno â’r proffesiwn addysgu.
Wrth gyflwyno tystiolaeth lafar y rheoleiddiwr i wrandawiad y pwyllgor ar 5 Mehefin 2025, amlygodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn, sydd ar fin ymadael, a Chadeirydd CGA, Eithne Hughes:
- bod lefel cadw athrawon ar draws Cymru yn gymharol sefydlog, gydag oddeutu 75% o’r athrawon a oedd wedi cofrestru yn 2020 yn parhau i weithio yn y proffesiwn (wedi cofrestru’n athrawon ysgol) 5 mlynedd yn ddiweddarach
- bod Cymru’n cyrraedd ei tharged blynyddol ar gyfer recriwtio i AGA cynradd yn gyson, neu’n rhagori ar y targed hwnnw, ond mae recriwtio athrawon uwchradd yn heriol
- mae prinder mewn niferoedd athrawon ysgol uwchradd, gyda dim ond tua thraean o’r nifer targed o athrawon uwchradd wedi’u hyfforddi yn 2024 – mae hyn yn bryder arbennig mewn pynciau blaenoriaeth, fel mathemateg, y gwyddorau, Cymraeg ac ieithoedd tramor modern
- mae cyfran sylweddol o athrawon yn gweithio’r tu hwnt i’w harbenigedd pwnc, yn enwedig mewn gwyddoniaeth a mathemateg uwchradd, sy’n duedd a allai waethygu oherwydd pwysau recriwtio
- er gwaethaf targedau cenedlaethol, dim ond oddeutu 20% o athrawon newydd a oedd wedi’u hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg yn 2024, gyda ffigurau arbennig o isel mewn pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM)
- mae ychydig dros 2% o athrawon yn datgan bod ganddynt gefndir ethnig lleiafrifol, er bod dros 15% o ddisgyblion yn datgan hyn
- mae rhai swyddi pennaeth yn cael eu hailhysbysebu sawl gwaith, yn enwedig mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion gwledig
- mae pwysau systemig yn troi darpar recriwtiaid ac athrawon presennol i ffwrdd rhag aros yn y proffesiwn
- mae gweithwyr cymorth dysgu yn chwarae rhan hanfodol yn yr ystafell ddosbarth, ond maent yn wynebu trosiant uchel a chyfleoedd cyfyngedig am ddyrchafiad
Wrth awgrymu gwelliannau at y dyfodol, pwysleisiodd y ddau bod rhaid i ymdrechion i wella recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru fynd i’r afael â’r materion dyfnach sy’n effeithio ar les y gweithlu. Galwont am ddull cysylltiedig, gan gynnwys ehangu ymchwiliad y pwyllgor i gydnabod rôl hanfodol gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion. Dywedont fod hyn yn hanfodol i sicrhau safon a nifer yr athrawon ysgol y mae eu hangen er mwyn cael gweithlu addysgu gwydn ac effeithiol.
Yn dilyn y gwrandawiad, dywedodd Eithne, “Rydym yn croesawu ffocws y pwyllgor ar recriwtio a chadw athrawon ac rydym yn falch o gefnogi’r gwaith pwysig hwn, ym mha ffordd bynnag y gallwn.
“Byddwn yn parhau i gyfrannu data, dadansoddiad ac arbenigedd proffesiynol ar y materion hyn i lywio datblygiad polisi, darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ac i randdeiliaid eraill ac i gefnogi’r gweithlu addysg.”
Yn ogystal â’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg, defnyddiodd CGA adborth o’i ymgysylltiad â chofrestreion, cyflogwyr, asiantaethau a rhanddeiliaid ehangach. Fe wnaeth hyn gynnwys data a gasglwyd o nifer o arolygon cenedlaethol a digwyddiadau polisi.
Mae recordiad o wrandawiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y rhoddodd CGA dystiolaeth lafar iddo, ar gael ar wefan y Senedd. Mae copi o dystiolaeth ysgrifenedig CGA i’w weld ar ei wefan.