Rydym wedi lansio ymgynghoriad strategol ar ein Cynllun Strategol drafft ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2026 a Mawrth 2029.
Mae’r Cynllun Strategol drafft yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf ac mae pedwar amcan allweddol yn sylfaen iddo. Gyda’i gilydd, mae’r amcanion hyn yn atgyfnerthu ein gweledigaeth, sef ein bod yn rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol, dibynadwy, sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau ar draws y gweithlu addysg yng Nghymru.
Wrth lansio’r ymgynghoriad, dywedodd y Prif Weithredwr, Lisa Winstone, “Mae ein Cynllun Strategol drafft 2026–29 yn amlinellu sut rydym ni’n bwriadu cyflawni ein swyddogaethau statudol craidd, gan gynnwys cofrestru a rheoleiddio gweithlu addysg Cymru yn gadarn, a bod diogelu dysgwyr a phobl ifanc yn ganolog i bopeth rydym ni’n ei wneud.
“Trwy gydol y cynllun hwn, rydym hefyd eisiau parhau i gefnogi a hyrwyddo gweithlu hynod broffesiynol, gan gydnabod y rôl hanfodol mae ein cofrestreion yn ei chwarae bob dydd.
“Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle pwysig i randdeiliaid helpu i lunio ein cyfeiriad yn y dyfodol, ac rydym yn awyddus i glywed amrywiaeth eang o safbwyntiau cyn llunio ein blaenoriaethau yn derfynol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”
Rydym yn croesawu adborth gan bob rhanddeiliad, gan gynnwys ein cofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, sefydliadau partner, ac eraill sydd â budd mewn addysg a rheoleiddio yng Nghymru. Yn arbennig, rydym ni’n annog ymatebion gan unigolion a sefydliadau sy’n cynrychioli pobl â phrofiadau bywyd a chefndiroedd amrywiol.
Byddwn yn adolygu ac yn ystyried pob ymateb cyn i’n Cynllun Strategol terfynol gael ei gyhoeddi ar 1 Ebrill 2026.
Gallwch weld y Cynllun Strategol drafft ac anfon ymateb trwy ein gwefan. Y dyddiad cau ar gyfer anfon ymatebion fydd 12:00 ar 13 Mawrth 2026.
