CGA / EWC

About us banner
Ymateb CGA i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru
Ymateb CGA i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru

Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru, gan groesawu ei huchelgais i greu system fwy cydlynus ac uchel ei pherfformiad.

A ninnau’n rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, mae ein hymateb yn canolbwyntio ar y gweithlu a diogelu. Mae twf mewn addysg bellach, anghenion cynyddol gymhleth dysgwyr, a niferoedd cynyddol o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i gyd yn dod ag ystyriaethau diogelu pwysig. Er bod yr ymgynghoriad yn amlygu’n briodol gyfranogiad a dilyniant dysgwyr, rydym yn pwysleisio bod system gynaliadwy, o ansawdd uchel, yn dibynnu ar yr ymarferwyr sy’n ei chyflwyno.

Yn ein hymateb, amlygwn yr angen am safonau proffesiynol clir a mwy cydlynol ar draws y sectorau ysgolion a thrydyddol, sy’n cyd-fynd â’n Cod Ymarfer ac Ymddygiad Proffesiynol. Byddai dull mwy unedig yn cryfhau disgwyliadau cyffredin, yn cefnogi symudedd y gweithlu, ac yn annog profiadau cyson i ddysgwyr. Hefyd, rydym yn pwysleisio ein barn mai ni, fel rheoleiddiwr annibynnol, ddylai fod yn gyfrifol am warcheidwaeth y safonau proffesiynol, i gryfhau eglurder a chysondeb ar draws y system.

Yn yr un modd, rydym yn pwysleisio bod angen cryfhau mynediad at ddysgu proffesiynol ar draws y gweithlu. Byddai hawl fwy cyson yn helpu i sicrhau mynediad teg i bob ymarferydd, gan gynnwys ymarferwyr sy’n gweithio ar sail rhan-amser neu ar gontractau hyblyg, ac yn cysoni’n well â blaenoriaethau cenedlaethol fel ADY, amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, trawsnewid digidol, arweinyddiaeth a darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Mae ein data cofrestru yn pwyntio at heriau parhaus o ran recriwtio a chadw, yn enwedig mewn rolau cymorth dysgu addysg bellach a meysydd allweddol y cwricwlwm. Er bod niferoedd dysgwyr yn parhau i dyfu, mae twf y gweithlu wedi bod yn fwy cyfyngedig. Bydd mynd i’r afael â hyn yn allweddol i gynnal ansawdd, parhad a diogelu, gyda ffocws parhaus ar gryfhau hunaniaeth broffesiynol, cefnogi ymarferwyr gyrfa gynnar, a gwella lefelau cadw.

Hefyd, trwy ddiwygio addysg gychwynnol athrawon, rydym yn gweld cyfleoedd cadarnhaol i’r sector ôl-orfodol. Gallai llwybrau mynediad a gyrfa gynnar achrededig, cryfach, wella proffesiynoldeb ymhellach, cefnogi diogelu, a gwella cydraddoldeb â’r sector ysgolion.

Yn olaf, rydym yn croesawu bod heriau mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael eu cydnabod ac rydym yn amlygu pwysigrwydd parhau i gynllunio’r gweithlu i feithrin capasiti ar draws Cymru, wedi’i lywio gan wybodaeth gadarn am y gweithlu.

Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Medr a phartneriaid i gefnogi datblygiad system addysg drydyddol o ansawdd uchel, gyda safonau proffesiynol cadarn a buddsoddiad parhaus yn y gweithlu yn ategu hynny.

Mae ein hymateb llawn ar gael i’w ddarllen nawr.Mae ein hymateb llawn ar gael i’w ddarllen nawr.