CGA / EWC

About us banner
CGA yn cyhoeddi ymateb i ymgynghoriad Siarad gyda Fi – Cam 2 Llywodraeth Cymru
CGA yn cyhoeddi ymateb i ymgynghoriad Siarad gyda Fi – Cam 2 Llywodraeth Cymru

Rydym wedi cyflwyno ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Siarad gyda fi - Cam 2: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu 2026 i 2030, sy’n amlinellu strategaeth arfaethedig i wella canlyniadau lleferydd, iaith, a chyfathrebu ar gyfer plant 5 i 11 oed.

A ninnau’n rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, roeddem yn croesawu’r cyfle i ymateb, gan nodi bod nifer sylweddol o’n cofrestreion yn gweithio mewn lleoliadau cynradd, yn cefnogi dysgwyr yn y grŵp oedran sydd dan sylw yn y cynllun arfaethedig.

Yn ein hymateb, mynegwyd cefnogaeth gref i gyfeiriad cyffredinol y cynigion. Croesawyd y bwriad i gynyddu ymwybyddiaeth o leferydd, iaith, a chyfathrebu ymhlith teuluoedd ac ymarferwyr, yr ymrwymiad i adolygu trefniadau asesu presennol, a chamau i sicrhau bod anghenion lleferydd, iaith, a chyfathrebu’n cael eu hadnabod yn gynnar ac yn gyson. Gwnaethom hefyd gydnabod gwerth adolygu ymyriadau wedi’u seilio ar dystiolaeth a chryfhau’r arweiniad sydd ar gael i ysgolion.

Ochr yn ochr â’r pwyntiau hyn, amlygodd ein hymateb sawl maes blaenoriaeth y credwn y byddai’n fuddiol rhoi sylw penodol iddynt:

  • uwchsgilio’r gweithlu trwy ddysgu proffesiynol hygyrch, o ansawdd uchel, gydag ymagwedd genedlaethol glir a rôl ganolog i Dysgu wrth sicrhau ansawdd a chysondeb
  • yr angen i ymgorffori negeseuon allweddol ynglŷn â lleferydd, iaith, a chyfathrebu yn effeithiol yn adnoddau presennol y Cwricwlwm i Gymru, gan ymsefydlu arweiniad yn y deunyddiau y mae ymarferwyr eisoes yn eu defnyddio, yn hytrach na chreu adnoddau ar wahân ychwanegol
  • ymgorffori anghenion lleferydd, iaith, a chyfathrebu o fewn rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), gan gynnwys llwybrau Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), mewn ffordd gymesur ac ystyriol sy’n datblygu’r cynnwys sydd eisoes yn bodoli yn hytrach nag ychwanegu deunydd ar wahân, gan sicrhau bod y rhai sy’n ymuno â’r proffesiwn yn datblygu dealltwriaeth glir o adnabod a chymorth
  • sicrhau bod unrhyw ofynion newydd yn ystyriol o’r llwyth gwaith, gan helpu i gefnogi lles, a recriwtio a chadw ymarferwyr

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymrwymo o hyd i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid, fel y bo’n briodol i’n cylch gwaith, i helpu i weithredu cynllun cyflawni Cam 2 Siarad gyda Fi yn effeithiol.

Mae ein hymateb llawn ar gael i’w ddarllen ar ein gwefan.