CGA / EWC

About us banner
Dysgu a datblygiad proffesiynol athrawon
Dysgu a datblygiad proffesiynol athrawon

Hazel HaggerDysgu a datblygiad proffesiynol athrawon

Rydym mewn cyfnod sy’n cynnig cyfle digynsail. I athrawon, i addysg athrawon, ac i ysgolion, cymerir diwygio yn ganiataol. Ac mae’r newidiadau yn gynhwysfawr ac yn radical. A fyddwch chi’n dewis bod yn rhan o arwain y newid hwnnw? Neu ai gwylio ar yr ymylon fyddwch chi?

Mae’r gymuned addysg yng Nghymru wrthi’n mynd trwy gyfnod o chwyldro sydd, yng ngeiriau’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS yn ‘ddigywilydd o uchelgeisiol’. Mae tair nodwedd amlwg wrth galon y mudiad diwygio cenedlaethol hwn:

  • bod y pwyslais pennaf ar ddysgwyr a dysgu;
  • cydlyniant y diwygiadau ar draws ysgolion ac Addysg Gychwynnol i Athrawon; a
  • chydnabod mai’r cysyniad newydd o broffesiynoliaeth athrawon wedi’i gwreiddio yn y diwygiadau yw’r allwedd i gyflawni’r glasbrint.

Er mwyn i’r diwygiadau lwyddo, bydd angen athrawon ar Gymru sy’n dra chymwys ac sydd hefyd yn ddysgwyr, yn arloeswyr, yn ddylunwyr cwricwlwm ac yn ddeallusion sy’n ymgysylltu â gwaith ysgolheigaidd. Mae’r diwygiadau’n newid beth mae’n ei olygu i fod yn athro proffesiynol.

Ar yr un pryd, mae athrawon dan hyfforddiant ar y rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) sydd newydd eu hachredu yn cael eu paratoi i goleddu’r diwygiadau addysgol a datblygu i fod y gweithwyr proffesiynol hyblyg, ymaddasol ac arloesol sydd eu hangen ar y diwygiadau. Ac ochr yn ochr â nhw mewn ysgolion, ceir athrawon sy’n gweithio i fodloni heriau’r fframweithiau cwricwlwm newydd. Mae’r synergedd hwn rhwng diwygio ysgolion a diwygio AGA yn meithrin cydweithio a chyfnewid gwybodaeth, ac mae’n golygu bod y rôl addysgu mewn ysgolion ac Ysgolion Addysg yn cael ei dyrchafu o fod yn weithredwr i fod yn strategydd.

Mae’r weledigaeth dysgu proffesiynol sy’n cyd-fynd â’r system addysg ddatblygol yng Nghymru yn cael ei hysgogi gan y gred y gall pob athro wella’i ymarfer ac y gall pob plentyn ffynnu. Mae gweld athrawon fel dysgwyr proffesiynol gydol oes "sy’n myfyrio ar eu hymarfer eu hunain a’i wella er mwyn cymell ac ysbrydoli’r bobl ifanc yn eu gofal' yn sail i’r 'Dull Gweithredu Cenedlaethol mewn perthynas â Dysgu Proffesiynol"1 .

Mae’r sylfaen ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa wedi’i sefydlu mewn AGA. Nid yn unig y mae angen i athrawon dan hyfforddiant gaffael y wybodaeth, y sgiliau a’r dealltwriaethau a fydd yn eu galluogi i fynd i mewn i’r proffesiwn fel ymarferwyr cymwys, ond mae angen yr hyder, yr ymrwymiad, yr arbenigedd dadansoddol a’r arferion angenrheidiol arnynt hefyd ar gyfer archwilio’u hymarfer datblygol a’u meddwl addysgegol trwy gydol eu gyrfaoedd. Un o’r heriau lu sy’n wynebu tiwtoriaid prifysgol ac athrawon sy’n gweithio gydag athrawon dan hyfforddiant yw dylunio cwricwla sy’n bodloni’r ddau nod hyn. Ni all AGA baratoi athrawon newydd ar gyfer bob her y maent yn debygol o’i hwynebu, ond gall eu paratoi nhw i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes, effeithiol.

Mae’r flwyddyn gyntaf yn addysgu yn gam unigryw mewn dysgu sut i addysgu, ac ni ellir diystyru pwysigrwydd cymdeithasoli proffesiynol yn y lleoliad gwaith a’r proffesiwn. Mae’n llawn mor bwysig, fodd bynnag, fod y flwyddyn ymsefydlu, gan adeiladu ar y sylfeini a osodwyd mewn AGA, yn cael ei gweld fel rhan o gontinwwm dysgu a datblygu ehangach. Mae’n rhaid i athrawon newydd addysgu, ond mae’n rhaid iddynt barhau i ddysgu sut i addysgu hefyd. Mae’n hanfodol, felly, eu bod yn cael eu gweld a’u parchu gan gydweithwyr fel dysgwyr, ond mae hyn yn annhebygol o ddigwydd os nad yw athrawon sefydledig yn gweld bod ganddynt hwythau fwy i’w ddysgu. I athrawon newydd fod yn hyderus fel dysgwyr mewn ysgol, mae angen iddynt deimlo eu bod yn mynd i mewn i gymuned o ddysgwyr lle mae’n beth cyffredin i ymarfer gael ei ddadansoddi, i broblemau gael eu rhannu ac i athrawon fod â’r ddawn i ddysgu o ddadansoddiad beirniadol o’u hymarfer a’u meddwl eu hunain a’u cydweithwyr. Ni all dysgu proffesiynol ffynnu mewn sefydliad lle gwelir dysgu ac addysgu yn yr ystafell ddosbarth fel ymarfer preifat. Y cyfle yma yw i fwy o ysgolion gael mwy o’u hathrawon i ymgysylltu’n weithredol mewn AGA ac Ymsefydlu - a diddymu’r rhwystrau rhag cyfranogi’n agored a dysgu cydweithredol.

Mae ymgysylltiad athrawon ag AGA yn amlwg yn bwysig oherwydd y cyfraniad nodedig y gall athrawon ei wneud at ddysgu athrawon dan hyfforddiant. Yr hyn sy’n cael ei ddiystyru’n hawdd, fodd bynnag, yw’r llu o gyfleoedd ar gyfer eu dysgu proffesiynol eu hunain y mae cyfranogi’n feddylgar ac yn ymroddedig mewn AGA yn eu cynnig i athrawon sefydledig. Yn aml, mae mentoriaid ac athrawon eraill yn gweld eu hunain yn egluro’u harferion i athrawon dan hyfforddiant – y ‘pam’ yn ogystal â’r ‘beth’ a’r ‘sut’ – sy’n golygu bod rhaid iddynt feddwl am sut maent yn mynd i’r afael â phethau yn yr ystafell ddosbarth, a gall hynny yn ei dro arwain athrawon at ddealltwriaethau newydd o’r hyn maent yn ei wneud, a darparu ysgogiad go iawn neu lwyfan ar gyfer dysgu proffesiynol. Mewn addysg, rydym yn sôn llawer am ymarfer myfyriol – ac i athro profiadol, mae gwybodaeth am ei ragdybiaethau, ei gredoau a damcaniaethau dealledig yn rhagofyniad angenrheidiol ar gyfer myfyrio beirniadol a thwf proffesiynol. Yn ogystal, fel partneriaid llawn mewn AGA, gan weithio’n agos gyda’r brifysgol i ddylunio a chyflwyno rhaglenni a chynnal ymchwil proffesiynol ar y cyd, caiff athrawon eu hannog nid yn unig i archwilio’u harferion presennol yn feirniadol a rhai’r ysgol, ond i ystyried arferion amgen hefyd.

Mae annog a galluogi pobl ifanc i ddatblygu ymwybyddiaeth o’u dysgu, a bod mewn sefyllfa drwy hynny i gymryd cyfrifoldeb amdano, yn cael ei ystyried yn fanteisiol i’w datblygiad fel dysgwyr ac i’r dysgu ei hun. O ran dysgu proffesiynol, byddwn i’n awgrymu, ar adeg pan na fu datblygiad athrawon erioed mor bwysig, bod pob athro – o athrawon dan hyfforddiant i ymarferwyr sefydledig – yn cael y cyfle i archwilio a thrafod syniadau’n feirniadol o ddaw o ymchwil ac ymarfer yn ymwneud â natur, caffael a datblygu arbenigedd addysgu, fel y gallant hwythau hefyd gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu.


 1  Llywodraeth Cymru (2017), Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl tud.23

 

Dr Hazel Hagger

A hithau’n gyn Gyfarwyddwr Rhaglenni Proffesiynol ym Mhrifysgol Rhydychen, penodwyd Dr Hazel Hagger yn Gadeirydd Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon CGA yr haf diwethaf. Bu’n addysgu Saesneg am flynyddoedd lawer cyn ymuno â Phrifysgol Rhydychen. Bu ei hymchwil ddoethurol yn canolbwyntio ar ffyrdd o wneud arbenigedd athrawon wrth eu gwaith yn hygyrch i ddechreuwyr ac mae hi wedi ysgrifennu’n helaeth ar ddysgu a datblygiad athrawon.

 Fel cofrestrai CGA mae gennych fynediad i'r Pasbort Dysgu Proffesiynol,  offeryn ar-lein am ddim i’ch cynorthwyo i gofnodi’ch dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio, gyda’r nod yn y pen draw o wella’ch ymarfer. Rhowch gychwyn ar y PLP