Mae Christine Hellings wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol newydd CGA.
Daw Christine â chyfoeth o brofiad ar lefel uwch i’r rôl, yn sgil gweithio ym meysydd llywodraeth, archwilio sector cyhoeddus, ac addysg uwch.
Wrth groesawu Christine i CGA, dywedodd y Prif Weithredwr, Lisa Winstone “Mae’n bleser gennym groesawu Christine i dîm CGA. Mae’n dwyn profiad ac arbenigedd sylweddol gyda hi, a fydd yn amhrisiadwy i’r sefydliad.”
A hithau’n Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, bydd Christine yn gyfrifol am nifer o feysydd allweddol ar draws CGA, gan gynnwys cynllunio ariannol, monitro ac adrodd; llywodraethu ac archwilio ariannol; adnoddau dynol; cymorth corfforaethol; a systemau gwybodaeth.
Wrth ymuno â CGA, meddai Christine “Mae CGA yn chwarae rôl hanfodol yn diogelu dysgwyr a chynnal hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad i helpu sicrhau bod CGA yn parhau i weithredu gyda llywodraethiant cadarn, tryloywder ac effeithlonrwydd.”
Bydd Christine yn ymuno â CGA ddydd Llun, 2 Chwefror 2026.
