CGA / EWC

About us banner
Tegwen Ellis - Yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Addysg: Dechreuad newydd i Gymru?
Tegwen Ellis - Yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Addysg: Dechreuad newydd i Gymru?

Tegwen Ellis - Yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Addysg: Dechreuad newydd i Gymru?

Tegwen EllisDwi wedi bod yn Brifathro yng Nghymru am bron i 20 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw dwi wedi gweld, yn eu tro, 5 Gweinidog Addysg gwahanol, sef Jane Davidson, Jane Hutt AC, Leighton Andrews, Huw Lewis a Kirsty Williams AC. Er bod yna lawer wedi newid o fewn addysg yng Nghymru yn ystod y cyfnod yma gyda chyflwyniad y Cyfnod Sylfaen, Bagloriaeth Cymru, diddymu TASau a Phrofion Cenedlaethol i enwi ond ychydig o’r mentrau sydd wedi eu cyflwyno ers datganoli, nid oes llawer iawn wedi digwydd i ddatblygu a chefnogi arweinyddiaeth yng Nghymru... hyd yma.

Wedi dweud hynny, mae'n deg dweud y bu rhai ymdrechion i gefnogi arweinyddiaeth a dylem sôn am y Rhaglen Sefydlu Broffesiynol i Benaethiaid a gyflwynwyd yn ystod gwasanaeth Jane Davidson ynghyd â’r Rhaglen Arweinyddiaeth i Benaethiaid mewn Swydd – y ddau yn cynnig cefnogaeth i Benaethiaid newydd a phresennol, ond serch hynny, mae’r rhaglenni yma wedi hen fynd. Fodd bynnag, mae cyflwyno'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP), sydd wedi'i gynllunio i baratoi athrawon ar gyfer y rôl heriol o brifathrawiaeth, wedi goroesi, a daeth yn orfodol yng Nghymru yn 2004. Er bod y CPCP yn parhau i fod yn ofyniad gorfodol, dim ond ychydig o gefnogaeth sydd ar gael i benaethiaid presennol neu i’r rheini sydd yn cael eu hunain yn arwain ysgolion mewn yn absenoldeb pennaeth parhaol.

Yn anffodus, derbynnir llai a llai o ymgeiswyr ar gyfer rolau arweinyddiaeth mewn ysgolion ledled Cymru ac mae hyn yn bryder mawr yn arbennig ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion uwchradd sydd fel petaent yn dioddef fwyaf. Mae rhai uwch arweinwyr o fewn yr ysgol yn mwynhau eu rôl ac nid ydynt eisiau’r pwysau o ddod yn Brifathrawon yn enwedig pan y gallant weld y lefelau cynyddol o atebolrwydd personol a'r pwysau cynyddol ar arweinwyr ysgol. Mae yna rhai dirprwyon nad ydynt yn mynd ymlaen i ddal swydd fel Prifathro hyd yn oed ar ôl cwblhau'r CPCP. Felly sut ydym am fynd i'r afael â hyn? Sut ydym yn cymell ein athrawon i fod yn arweinwyr uchelgeisiol? Sut ydym yn annog ein hathrawon i ddod yn 'arweinwyr ysbrydoledig' fel yr anelir amdano yn 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl’ (2017), a sut ydym am sicrhau bod athrawon ac arweinwyr yn aros yn y proffesiwn ac yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u cefnogi? Wel o'r diwedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod angen i rywbeth gael ei wneud ac mae Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn sicr wedi mynd i'r afael â’r mater yma wrth gyflwyno’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (AGAA). Mae hyn yn gam yn y cyfeiriad cywir.

Ers mis Gorffennaf 2016, pan gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn rhoi blaenoriaeth i greu a sefydlu AGAA, mae llawer wedi digwydd. Mae grŵp gorchwyl a gorffen sy'n gweithredu fel bwrdd cysgodol wedi cael ei greu ac yn cael ei gadeirio gan cyn Brif Arolygydd Estyn Ann Keane. Mae'r grŵp yma hefyd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor y Gweithlu Addysg, Estyn, yr undebau dysgu ac arbenigwyr fel Mick Waters, sydd wedi helpu i lunio'r Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru. Mae’r bwrdd wedi gofyn am safbwyntiau a barn rhanddeiliaid eraill o Gymru ben baladr mewn nifer o sioeau teithiol ac ar hyn o bryd yn cynnal gweithdai pellach i sicrhau bod y bwrdd cysgodol yn deall beth yn union mae’r proffesiwn yn ei geisio o’r Academi. Mae Ann Keane wedi ei gwneud hi’n gwbl glir bod y bwrdd cysgodol yn ‘dymuno parhau i gyd-weithio gyda'r holl bartneriaid a rhanddeiliaid er mwyn ein bod yn creu AGAA a fydd yn gweithio ar gyfer, a gyda chi, i helpu i gynnal a gwella ansawdd y profiadau a’r canlyniadau ar gyfer dysgwyr ar draws Gymru’.

Bu i adolygiad addysg yng Nghymru gan Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac Estyn (yr arolygwr addysg a hyfforddiant yng Nghymru) bwysleisio bod angen cynyddu capasiti ymhob lefel o arweinyddiaeth er mwyn galluogi i ddysgwyr i gyrraedd eu llawn potensial. Felly sut y mae’r Academi yn bwriadu cyflawni hyn? Mae angen i ni edrych ar wledydd eraill i weld sut y mae nhw’n datblygu a chefnogi arweinyddiaeth. Mae angen i ni weld yr hyn y maent yn ei wneud a gwerthuso gwahanol fodelau i ystyried os ydynt yn addas ar gyfer cyd-destun Cymreig. Mae angen i ni ystyried beth y mae tystiolaeth rhyngwladol mewn perthynas ag arweinyddiaeth yn ei ddweud? Sut y mae’r gwledydd hynny sy'n perfformio'n dda yn PISA yn cefnogi a datblygu arweinyddiaeth? A beth am y strwythurau arweinyddiaeth mewn gwledydd eraill lle mae addysg wedi ei ddatganoli?
Ym mis Mehefin eleni fe ymwelais ag Ontario yng Nghanada ar daith astudio ac roeddwn yn ffodus iawn i siarad a gwrando ar nifer o weithwyr proffesiynol ynghylch eu system addysg, ac roedd hi’n amlwg bod arweinyddiaeth yn cael ei gydnabod fel sbardun wrth ddylanwadu ar ddysgu myfyrwyr. Mae eu fframwaith (Fframwaith Arweinyddiaeth Ontario) wedi ei ddylunio i hwyluso, hyrwyddo, adnabod, arwain a gweithredu dysgu proffesiynol drwy gydol y broses. Mae yna fodel glir ar gyfer arweinyddiaeth o fewn y proffesiwn sy'n caniatáu ar gyfer datblygu gyrfa. Maent yn canolbwyntio ar bum dimensiwn o arweinyddiaeth effeithiol, ond maent hefyd yn cydnabod bod angen arweinwyr da ac effeithiol sydd yn barod ar gyfer newid a bod cynyddu capasiti er mwyn cyflawni hyn yn hanfodol. Mae cynyddu capasiti yn broblem yn Ontario hefyd. Mae Gweinyddiaeth Addysg Ontario yn parhau i werthuso’r maes yma o’u gwaith ac yn cydnabod bod y Fframwaith Arweinyddiaeth yn parhau i esblygu o ganlyniad i ymchwil parhaol yn Ontario ac awdurdodaethau rhyngwladol, a hefyd ymgynghoriadau parhaol gyda thrawsdoriad o randdeiliaid. Nid yw hyn yn annhebyg i Gymru. Ond mae un peth yn sicr, mae Ontario yn gosod pwyslais mawr ar ddatblygiad proffesiynol parhaol a gyda’n Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, gallwn sicrhau bod Cymru yn gwneud yr un peth.

Yn eu hadroddiad ar Sut y Mae’r Systemau Addysg Mwyaf Amgen yn y Byd yn Cadw i Wella, mae McKinsey and Company yn datgan bod y systemau mwyaf llwyddiannus yn meithrin datblygiad y genhedlaeth nesaf o arweinyddiaeth system o'r tu fewn. Mae eu hadroddiad yn cyfeirio at sut mae 20 ysgol o wahanol rannau o’r byd wedi cofrestru cynnydd myfyriwr sylweddol, parhaus ac eang. Felly efallai mai hyn yw’r ateb ar gyfer Cymru, i sicrhau bod arweinwyr yn deall eu rôl fel 'arweinwyr system' gyda phwyslais cryf ar gydweithio, gwella drwy gydweithio gyda chyfoedion, ac arloesi. Mae'n sicr yn destun ystyriaeth i Gymru.

Gan ddefnyddio fy ngwybodaeth o'r ymweliad i Ontario a fy mhrofiad helaeth fel pennaeth ysgol, rwy’n awyddus i roi hyn ar waith er mwyn ceisio canfod ffyrdd o gefnogi arweinwyr y dyfodol. Ers mis Hydref 2017, dwi wedi ymuno gyda’r Bwrdd Cysgodol fel cynrychiolydd rhanddeiliaid ac rwy’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yng ngwaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Mae’r weledigaeth a'r gwerthoedd sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru a’i hymrwymiad i adnabod, cefnogi ac ysbrydoli arweinwyr ar draws y system (Cenhadaeth ein Cenedl) yn eu hun yn arloesol. Mae’n amser cyffrous ar gyfer Cymru wrth i ddiwygiad y cwricwlwm, y safonau proffesiynol newydd a’r AGAA gael eu datblygu. Dyma ein cyfle i arwain y ffordd yn yr arena ryngwladol wrth i’n harweinwyr ysbrydoledig gyd-weithio, wedi eu hymrwymo i godi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer pawb.

Tegwen Ellis

Mae Tegwen Ellis wedi bod yn bennaeth ar Ysgol Cynwyd Sant, Maesteg ers 19 mlynedd. Yn dilyn arolygiad Estyn ym 2016 nodwyd ei harweinyddiaeth yn ‘ flaengar ac arloesol....sy’n sichau ei bod yn rhannu ei gweledigaeth a’u hathroniaeth yn llwyddiannus’. Mae Cynwyd Sant yn ysgol arloesol dysgu proffesiynol, ysgol arloesol cwricwlwm ac hefyd ysgol arweiniol greadigol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae Tegwen yn gadeirydd ar Ffederasiwn Penaethiaid Cymraeg Consortiwm Canolbarth y De, yn arolygydd cymheiriad gydag Estyn, yn aelod o weithgor arweinyddiaeth yr Athrofa Y Drindod Dewi Sant ac ers mis Hydref yn aelod o fwrdd cysgodol yr Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol. Mae hi’n angerddol ynglŷn â darparu profiadau celfyddydol a diwylliannol i blant a phobl ifanc ac yn 2017 roedd hi’n Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái .