CGA / EWC

About us banner
Sut mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn cefnogi diogelu?
Sut mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn cefnogi diogelu?

Mae diogelu dysgwyr a phobl ifanc yn ganolog i’n rôl fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru.

Mae ein gwaith yn darparu’r strwythurau hanfodol sy’n helpu i sicrhau bod y bobl y mae addysg, datblygiad a chymorth i ddysgwyr a phobl ifanc wedi’u hymddiried iddynt yn cyrraedd y safonau ymddygiad, cymhwysedd ac atebolrwydd uchaf. Mae’r strwythurau hyn yn bodoli nid yn unig i gefnogi proffesiynoldeb ar draws y gweithlu, ond i amddiffyn dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd yn ehangach.

Felly, sut olwg sydd ar ein rôl ym maes diogelu yn ymarferol?

Cefnogi diogelu trwy reoleiddio proffesiynol

Rydym ni’n cefnogi diogelu mewn nifer o ffyrdd cydgysylltiedig.

Cofrestru

Mae cofrestru yn rhan allweddol o ddiogelu. Mae’n sicrhau bod y bobl sy’n gweithio yn y gweithlu addysg yng Nghymru wedi cymhwyso, lle bo angen, a’u bod yn addas i ymarfer.

Mae ein Cofrestr ar gael yn gyhoeddus, gan alluogi cyflogwyr, rhieni a gwarcheidwaid i wirio statws cofrestru unrhyw unigolyn.

Trwy gynnal y Gofrestr, rydym yn cynnig sicrwydd fod y bobl hynny sy’n gweithio gyda dysgwyr a phobl ifanc yn bodloni gofynion disgwyliedig y proffesiwn.

Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Mae’r Cod yn amlinellu’r safonau a ddisgwylir gan bob cofrestrai, gan gefnogi eu crebwyll proffesiynol a’u hymddygiad o ddydd i ddydd.

Hefyd, mae’n chwarae rhan bwysig y tu hwnt i’r gweithlu. I ddysgwyr a phobl ifanc, a rhieni a gwarcheidwaid, mae’n cynnig eglurder o ran yr hyn y dylent ei ddisgwyl gan weithiwr proffesiynol addysg cofrestredig.

Priodoldeb i ymarfer

Pan godir pryderon nad yw cofrestrai wedi bodloni’r safonau a amlinellir yn y Cod, rydym yn penderfynu sut y dylid mynd i’r afael â’r pryderon hynny yn unol â’n gweithdrefnau â’n rheolau disgyblu.

Nid cosbi cofrestreion yw ein rôl. Mae ein ffocws ar ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, cynnal hyder y cyhoedd, a sicrhau mai dim ond y rheiny sy’n addas sy’n parhau i gofrestru a bod yn gymwys i ymarfer yng Nghymru.

Canllawiau arfer da

Rydym yn cyhoeddi ac yn diweddaru cyfres o ganllawiau arfer da yn rheolaidd i gynorthwyo cofrestreion â bodloni disgwyliadau’r Cod.

Mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar sefyllfaoedd go iawn y gallai gweithwyr proffesiynol ddod ar eu traws, gan eu helpu i fyfyrio ar eu crebwyll proffesiynol, ffiniau priodol, a gwneud penderfyniadau yn ymarferol.

Digwyddiadau a gweminarau yn ôl y galw

Rydym yn cynnal digwyddiadau byw a gweminarau yn ôl y galw sy’n cynnwys siaradwyr arbenigol, gan gynorthwyo cofrestreion i ymhél ag arfer sy’n esblygu a myfyrio ar faterion diogelu a materion cysylltiedig.

Datblygiad proffesiynol

Rydym yn cynorthwyo cofrestreion trwy gydol eu gyrfaoedd â chanllawiau ac adnoddau, gan gynnwys y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP).

Mae’r PDP yn e-bortffolio ar-lein hyblyg sydd ar gael i holl gofrestreion CGA. Mae’n llawn nodweddion a luniwyd i’w cynorthwyo â chipio eu dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio, gyda’r nod yn y pen draw o helpu i lywio’u datblygiad proffesiynol parhaus a’u hymarfer.

Gweithio gydag eraill

Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb, ac ni all yr un sefydliad unigol ei gyflawni ar eu pen eu hunain.

Rydym yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr, cyrff cynrychiolaidd, undebau llafur a Llywodraeth Cymru, i rannu cipolygon, darparu cyngor a chefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus. Mae hyn yn cynnwys manteisio ar ein data, ein deallusrwydd a’n profiad rheoleiddio unigryw i helpu nodi tueddiadau, amlygu materion sy’n dod i’r amlwg, a llywio polisi ac ymarfer ar draws y sector.

Trwy weithio ar y cyd fel hyn, rydym yn helpu i gefnogi ymagwedd gysylltiedig at ddiogelu, un sy’n hybu cysondeb, atebolrwydd a hyder y cyhoedd ledled y system addysg yng Nghymru.

Ein rôl yn ystod wythnos diogelu, a’r tu hwnt

Mae ein gwaith yn gyson, gan gefnogi gweithlu addysg proffesiynol sy’n gweithredu er lles pennaf y bobl y mae’r gweithlu yn eu gwasanaethu.

Os hoffech ddysgu rhagor am ein rôl, ynghyd â’r canllawiau, yr adnoddau a’r gwasanaethau a gynigiwn, ewch i’n gwefan.