CGA / EWC

About us banner
Mark Ford - Pam mae’n amser ‘Trafod Addysgeg’
Mark Ford - Pam mae’n amser ‘Trafod Addysgeg’

Mark Ford - Pam mae’n amser ‘Trafod Addysgeg’

Dyma'r Ymgynghorydd Proffesiynol ar Addysgeg, Mark Ford yn myfyrio ar effaith argyfwng COVID-19 ac yn dadlau mai nawr yw’r amser delfrydol i ‘Drafod Addysgeg’.

Yn ei lyfr, ‘In Search of Deeper Learning’, archwiliodd Jal Mehta sut gallai ysgolion uwchradd America greu profiadau dysgu mwy grymus i fyfyrwyr, gan arwain (dros gyfnod) at ddysgu dyfnach. Er mwyn creu addysg heriol, drylwyr a phwrpasol, cydnabu fod angen i ysgolion frwydro grymoedd hanesyddol a chyfoes a oedd yn gweithio’n uniongyrchol yn erbyn eu hamcanion.

Nododd Mehta nifer o ffactorau cyffredin mewn ysgolion a oedd wedi trawsnewid profiadau dysgu eu myfyrwyr yn llwyddiannus. Yn nodedig, canfu fod athrawon a oedd yn darparu profiadau dysgu dyfnach i fyfyrwyr wedi cael ‘profiad dysgu arloesol’ eu hunain, yn nodweddiadol, yn eu gyrfa, a oedd wedi dylanwadau’n gryf ar eu hymarfer addysgu. Fe wnaeth hyn ddwyn i gof fy mhrofiad i fel athro ifanc.

Cofiaf osod gwaith dosbarth Gwyddoniaeth Blwyddyn 8 a oedd yn fwriadol heriol ac a oedd yn debyg iawn i waith a osodais ar gyfer fy nosbarth TGAU. Fe’m dryswyd gan ansawdd uchel gwaith y dosbarth iau, a wnaeth gyfateb i lawer o’u cyfoedion hŷn ym Mlwyddyn 11. A minnau’n benderfynol o archwilio hyn yn fanylach, deuthum ar draws ‘mapio cysyniad’ fel offeryn i ddarganfod dyfnder dealltwriaeth dysgwr. Darganfuais yn gyflym nad oedd gan ddisgyblion Blwyddyn 8 yr un dyfnder yn eu dealltwriaeth. Fe wnaeth hyn fy annog i gwestiynu’r broses ddysgu ac archwilio addysgeg yn fanylach.

Ymhen ychydig flynyddoedd, bydd llawer o athrawon yn edrych yn ôl ac yn nodi bod y cyfnod hwn, yng ngafael COVID-19, yn bwynt tyngedfennol a wnaeth helpu i lywio’u meddyliau o ran addysgeg. Mae’r argyfwng wedi bod yn gatalydd ar gyfer newidiadau a oedd y tu hwnt i’r dychymyg ddechrau 2020, gydag ysgolion yn cofleidio dysgu cyfunol ac ystafell ddosbarth COVID. P’un a ydym ni’n meddwl am brofiadau dysgu, dulliau personol neu’r ffordd y mae ein hysgolion wedi’u trefnu mewn amser a gofod, mae’n debygol iawn na fydd llawer o bethau fyth yn mynd yn ôl fel yr oeddent o’r blaen.

Yng nghanol y tarfu parhaus hwn, mae angen i ni gydweithio i ddyfnhau ein dealltwriaeth o addysgeg, yng nghyd-destun y pedwar diben a’r cwricwlwm newydd i Gymru. Datblygwyd Trafod Addysgeg, fel rhan o’r Archwiliad Cenedlaethol o Addysgeg, i ategu’r broses hon. Fel cymuned rithwir, ar-lein, bydd athrawon, arweinwyr a staff eraill ysgolion, ynghyd â chydweithwyr haen ganol, yn gallu rhannu meddyliau a myfyrio ar ymarfer er mwyn ategu hyn. Mae adnoddau eraill, fel yr adnoddau myfyriol yn y Pasbort Dysgu Proffesiynol a’r amrywiaeth o lenyddiaeth academaidd sydd ar gael yn rhad ac am ddim drwy EBSCO (o fewn y Pasbort Dysgu Proffesiynol), yn gallu chwarae rhan allweddol hefyd yn ein helpu i ddatblygu ein meddyliau.

Mae Trafod Addysgeg yn darparu gofod i fyfyrio ar rai o’r cwestiynau mawr i athrawon, rhannu ein meddyliau, myfyrio ar ein hymagweddau at ddysgu proffesiynol ac ystyried sut gall ein profiadau roi’r grym i’r gweithlu gofleidio newid. Mae’r cwestiynau allweddol yn cynnwys:

  • Sut gallai fod angen i ni wella’n sgiliau ni er mwyn gwireddu’r cwricwlwm newydd?
  • Beth yw’r egwyddorion addysgegol y mae angen iddynt fod wrth wraidd ein dysgu proffesiynol?
  • Sut olwg sydd ar brofiadau dysgu proffesiynol ystyrlon a dilys, a sut deimlad sydd iddynt?
  • Sut mae angen i ni fireinio’n sgiliau metawybyddol?
  • Pa ran mae ymholi cydweithredol yn ei chwarae?

Bydd myfyrio ar ein hymarfer yn ystod y pandemig yn nodwedd allweddol o’r trafodaethau hyn. Mae pwysigrwydd lles a ‘pharodrwydd i ddysgu’, ar y cyd â strategaethau i gefnogi symbyliad, ymgysylltiad a rhyngweithio, oll yn dod i’r blaen – efallai mewn ffordd na wnaethant yn flaenorol. Bydd Trafod Addysgeg yn cynnig y lle i ddal rhywfaint o’r meddwl hwn fel y gallwn ei ddefnyddio’n sbardun i gefnogi’n gwaith ar lywio ymhellach y profiadau dysgu rydym am eu gweld yn ein hysgolion ‘ni’ yng Nghymru’r 21ain ganrif.

Gall y Safonau Proffesiynol chwarae rhan hefyd yn llywio’n meddyliau. O ran addysgeg, mae cysyniadau ‘Mireinio Addysgu’, ‘Datblygu Dysgu’ a ‘Dylanwadu ar Ddysgwyr’ wrth wraidd y safonau. Os byddwn ni’n myfyrio ar y datganiadau a ddaw o dan bob un o’r rhain, fel athrawon ac arweinwyr, yna sut gallem ni nawr fod yn meddwl yn wahanol? Ym mha ffyrdd mae ein safbwynt am yr ‘amgylchedd dysgu’ a sut rydym ni’n ei reoli wedi newid wrth i’n stoc o brofiadau dysgu cyfunol dyfu? Sut bydd ein perthnasoedd â rhieni a gofalwyr yn wahanol, wrth i ni ymgysylltu â nhw yn gysylltiedig â’r pedwar diben?

Pan ddechreuais i ymweld ag ysgolion a chael trafodaethau â chydweithwyr haen ganol ar ddechrau 2020, myfyriom ar rywbeth ddywedodd Ken Robinson unwaith:

‘…mae angen newid radical arnom yn y ffordd rydym yn meddwl am ysgol a gwneud ysgol – symud o’r hen fodel diwydiannol i fodel yn seiliedig ar egwyddorion ac arferion cwbl wahanol. Daw pobl o bob lliw a llun, felly hefyd eu galluoedd a’u personoliaethau. Mae deall y gwirionedd sylfaenol hwn yn allweddol i weld sut gellir trawsnewid y system. I wneud hynny, mae’n rhaid i ni newid y stori: mae angen metaffor gwell arnom...’

Pan oeddem ni’n cael y trafodaethau hyn, ni wnaethom ragweld y byddai pandemig byd eang yn dechrau, a’r newidiadau pellgyrhaeddol y byddem oll yn eu hwynebu.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Teams, Google Meet a Zoom wedi’n helpu i feddwl yn wahanol am y ffordd rydym ni’n ‘dod ynghyd’ ac yn cyfathrebu â’n gilydd. Ond, rydym hefyd wedi gweld cyfyngiadau rhyngweithio ar-lein, gan bwysleisio’r rôl ganolog y mae cymdeithasoli wyneb yn wyneb yn ei chwarae yn ein dysgu proffesiynol. Pan fyddwn yn dod ynghyd fel grwpiau (ar ryw adeg yn y dyfodol), sut rydym ni’n sicrhau ein bod yn meithrin cyfarfodydd ysgogol a chynhyrchiol?

Mae llawer ohonom bellach yn dechrau meddwl yn wahanol am y ffordd rydym yn meddwl am ysgol a gwneud ysgol. Mae llawer o bethau rydym am ddychwelyd atynt ac y mae angen i ni ddychwelyd atynt – ond mae pethau y mae angen i ni hefyd roi’r gorau i’w gwneud, ddechrau eu gwneud neu, yn syml, eu haddasu. Bydd Trafod Addysgeg yn caniatáu i ni drafod rhai o’r pethau hyn, fel rhan o’r archwiliad cenedlaethol ehangach o addysgeg.

Ynglŷn â Mark Ford

Ar hyn o bryd mae Mark ar secondiad yn Llywodraeth Cymru yn gweithio ar addysgeg, arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol. working on pedagogy, leadership and professional learning. Bu i Mark weithio mewn ysgolion uwchradd am tua 25 mlynedd cyn ymuno ag ERW fel arweinydd rhanbarthol dros wellinat ysgol i ysgol yn 2016. Mae hefyd wedi ymgymryd â rolau oedd yn ymwneud a chefnogi datblygiad cwricwlwm a dysgu proffesiynol mewn dau awdurdod lleol.