CGA / EWC

About us banner
Yr Athro Mick Waters - Dysgu Cyfunol: beth sydd yn y gymysgedd?
Yr Athro Mick Waters - Dysgu Cyfunol: beth sydd yn y gymysgedd?

Yr Athro Mick Waters - Dysgu Cyfunol: beth sydd yn y gymysgedd?

Mick WatersCymerodd technoleg ddigidol, sef adnodd ac iddo addewid ers i gyfrifiaduron gael eu cyflwyno mewn ystafelloedd dosbarth yn y 1980au, gam mawr ymlaen yn sydyn wrth i ysgolion (ynghyd â gweddill cymdeithas) geisio dygymod ag amgylchiadau’r clo.

Defnyddiodd llawer o ysgolion mewn llawer o wledydd dechnoleg i helpu eu disgyblion i ddysgu gan ddefnyddio gwefannau i gynnal gweithgaredd dysgu neu wersi ar-lein byw. Wrth i fyd addysg ddisgwyl dyfodol agos ansicr gyda’r posibilrwydd o gyfyngiadau symud lleol, swigod cwarantin a phatrymau presenoldeb anwadal, rhoddir mwy a mwy o ystyriaeth i bosibiliadau digidol. Yn ddiddorol, cyfeirir yn gyffredin bellach at y cydbwysedd rhwng dysgu yn yr ysgol a dysgu gartref, o bell fel ‘dysgu cyfunol’.

Wrth gwrs, mae ‘dysgu cyfunol’ ychydig yn fwy cymhleth na hynny.

Yn yr adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’, rhestrodd Graham Donaldson ddeuddeg egwyddor addysgol a fyddai’n sail i lwyddiant y Cwricwlwm Newydd i Gymru. Yn yr wyth tudalen ar y deuddeg egwyddor hynny, mae’r gair ‘cyfuno’ yn ymddangos deirgwaith yn unig, ac nid yw’r geiriau ‘cyfrifiadur’, ‘technoleg’, ‘digidol’ neu ‘rithwir’ yn ymddangos o gwbl. Efallai bod y cysyniad o ‘ddysgu cyfunol’ yn haeddu sylw pellach, yn enwedig gan fod y drafodaeth ar addysgeg yn codi stêm wrth i’r Cwricwlwm i Gymru ddod yn realiti.

Roedd Graham yn sôn am y ffordd y mae angen i’n haddysgeg ddwyn ynghyd, neu gyfuno, ystod o wahanol ddulliau addysgu, wedi’u hymarfer yn dda. Roedd yn pwysleisio bod y dadleuon polareiddiedig hynny ynglŷn â thechnegau blaengar a thraddodiadol neu ddulliau didactig a darganfod yn ofer, a’r hyn y mae arnom ei angen yw athrawon sydd â stoc eang o  addysgeg sy’n defnyddio’r dull iawn ar yr adeg iawn gyda’r dysgwyr iawn at y diben iawn. Dyna pam mae defnyddio technoleg i gysylltu dysgu rhwng y cartref a’r ysgol yn rhan o ymagwedd gyfunol, ond nid y cyfan ohoni.

Wrth gwrs, cymysgedd yw ‘cyfuniad’, yn syml. Mae’r sefyllfa dysgu cyfunol bresennol yn debyg i ddatblygiadau ym myd ffasiwn pan grëwyd Viyella yn y 1890au. Parwyd ysgafnder cotwm â chryfder gwlân i wneud dillad ffasiynol a chynnes; ‘y gorau o ddau fyd’, fel petai. Defnyddir math arall o gymysgu wrth gynhyrchu te a choffi, lle y ceisir sicrhau blas cyson i’r defnyddiwr. Yr her i ysgolion yw cymysgu’r amryw ddisgyblaethau pwnc, trwy Feysydd Profiad Dysgu, yn brofiad ysgol cyson i bobl ifanc sy’n eu paratoi’n dda ar gyfer y dyfodol ar yr un pryd â’u galluogi i fwynhau eu presennol.

Wrth goginio, ac ychwanegu llaeth at y roux, mae defnyddio chwisg i gael yr aer i mewn i’r saws wedi’i gyfuno yn sicrhau ei fod yn llyfn heb unrhyw lympiau. Yn y 1920au, dyfeisiwyd cymysgwyr bwyd, sy’n ein helpu i wneud rhai bwydydd yn haws i’w llyncu. A ddylem ni fod yn cymysgu cynnwys ein cwricwlwm trwy ei chwisgo i’r fath raddau ei fod yn cael ei hylifo’n biwrî, neu ‘smwddi dysgu’, neu a oes angen i ni sicrhau bod rhywbeth i’w gnoi? Rydym yn gwybod bod arnom angen ffibr; mae bara brown yn well i ni na bara gwyn lle mae’r grawn wedi cael ei brosesu a’i gyfuno. Mae angen i ni gynnig dysgu sy’n darparu ‘rhywbeth i roi’ch dannedd ynddo’ ar yr un pryd â sicrhau ei fod yn flasus ac yn atyniadol o lyfn. Sut gallwn ni ddatblygu profiad dysgu sy’n cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ar yr un pryd â datblygu sgiliau, yn ogystal ag agweddau a pherthnasoedd cadarnhaol?

Gallai’r diddordeb presennol mewn dysgu cyfunol ein helpu i feddwl am agweddau eraill ar y cymysgedd dysgu. A allwn ni gynyddu ein hymdrechion i ennyn diddordeb plant gartref i gyrraedd ymhellach a bod yn fwy buddiol? A allem achub ar y cyfle hwn i ystyried gwaith cartref o ddifrif? Er bod rhai ysgolion wedi newid ei enw, gwaith cartref yw un o’r elfennau hynny o addysg rydym fel petaem yn gwybod nad yw’n iawn. A allem ei wneud yn werth chweil trwy wneud rhywbeth i greu cyfuniad cyson â dysgu yn yr ysgol?

Go brin y bydd byth yn destun ymchwil, ond mae llawer o enghreifftiau o bobl ifanc a ddefnyddiodd y we yn ystod cyfnod y clo i archwilio’r dysgu gartref a gynigiwyd gan ysgolion heblaw am eu rhai nhw. Yn yr un modd, mae llawer o enghreifftiau o blant yn ‘rhoi cynnig’ ar ddysgu a fwriadwyd ar gyfer plant mewn grwpiau blwyddyn dipyn yn hŷn neu’n iau na’u rhai nhw. A yw’n bryd mynd i’r afael â’r ffordd y mae dysgu’n cael ei anelu at blant a anwyd rhwng dau fis Awst fel y ffordd orau o drefnu, ac yn lle hynny cyfuno’r addysg a gynigiwn yn well i weddu i wahanol lefelau aeddfedrwydd mewn plant?

O ran technoleg fel cyfrwng dysgu, sut gallwn ni gyfuno’r defnydd o brofiad rhithwir â’r cyfle i bobl ifanc ymgysylltu ag eraill mewn lleoliadau dilys, fel cyflogaeth, prifysgolion, ysgolion mewn mannau eraill a phlant mewn gwledydd gwahanol?

Mae’r gwahanol ddatblygiadau yn ymwneud â’r cwricwlwm yn ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ yn dod at ei gilydd. Mae’r cwricwlwm ei hun yn cael ei gefnogi gan yr holl ddatblygiadau hynny sydd wedi bod yn yr arfaeth am bedair blynedd: Addysg Gychwynnol i Athrawon, safonau proffesiynol, Anghenion Dysgu Ychwanegol, arolygu, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, dysgu proffesiynol a mwy yw’r cynhwysion yr aethpwyd i’r afael â nhw i gyfuno â bwriad ac uchelgais y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’n gymysgedd cryf!

Wrth i’r agenda symud yn bendant tuag at bwyslais ar addysgeg ar gyfer y cwricwlwm newydd, mae’n hollbwysig bod arbenigedd pawb sy’n gysylltiedig yn cyfuno i roi bywyd i’r cwricwlwm. Yn wir, mae’n debyg mai’r cyfuniad pwysicaf ym myd addysg yng Nghymru ar hyn o bryd yw’r cymysgedd cynhyrchiol o athrawon ac arweinwyr ysgol ac asiantaethau amrywiol: AGA, SAU, NAEL, ESTYN, LlC, NAPL, ALl, RSIO, CBAC, CGA a’r holl rai eraill. Bydd yr holl asiantaethau hyn yn gweithio gyda’i gilydd, gydag ysgolion ac wrth eu hochr i gyfuno eu gwybodaeth a’u dysgu eu hunain, yn sicrhau’r wobr a geisiwn ar gyfer ein pobl ifanc: Dyfodol Llwyddiannus.

 

Yr Athro Mick Waters

Mae Mick Waters yn gweithio gydag ysgolion yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr wrth godi safonau. Mae hefyd wedi bod gweithio ar lefel genedlaethol gyda Llywodraeth Cymru gan gynnig cyngor a chefnogaeth i'r agenda diwygio addysg ac mae wedi chwarae rhan hanfodol yn natblygiad y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu.