CGA / EWC

About us banner
Urban Circle Casnewydd a Phrifysgol De Cymru - Wynebau, gofodau, lleoedd: Hanes ein partneriaeth hyd yma…
Urban Circle Casnewydd a Phrifysgol De Cymru - Wynebau, gofodau, lleoedd: Hanes ein partneriaeth hyd yma…

USW blog urban circle logoLoren Henry: A minnau’n Brif Weithredwr Urban Circle Casnewydd, rwy’n allweddol o ran sefydlu enw da cryf i’r sefydliad fel hyrwyddwr cymunedau pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Yn ddiweddar, dyfarnwyd Cymrawd Gwadd Prifysgol De Cymru i mi, sy’n cydnabod fy arbenigedd mewn arwain gwaith gwrth-hiliol a gwrth-wahaniaethol. Rwyf hefyd yn aelod o Grŵp Atebolrwydd Allanol Cymru Wrth-hiliol.

USW blog USW logoLisa Taylor: Rwy’n Gyfarwyddwr Addysg yn y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg ym Mhrifysgol De Cymru. Rwy’n arwain ar ddatblygiad parhaus Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon Prifysgol De Cymru (PDC).

Rydym ni (Loren a Lisa) wedi ysgrifennu’r blog hwn i gofnodi taith ein partneriaeth, rhannu rhywfaint o’n dysgu o ddatblygu ein partneriaeth rhwng Urban Circle Casnewydd a Phrifysgol De Cymru, a’r effaith y mae wedi’i chael ar les a datblygiad ein staff, ein partneriaid, a’n myfyrwyr.

Cefndir a chyd-destun

Cydweithio ac ymgysylltu effeithiol sydd wrth wraidd diben craidd Prifysgol De Cymru (PCD). Mae PDC wedi datblygu enw da am ymgysylltu â phartneriaethau cydweithredol gyda sefydliadau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i fynd i’r afael â heriau lleol a chenedlaethol, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Mae un bartneriaeth werthfawr o’r fath gyda Chylch Trefol Casnewydd (Urban Circle Newport) (UCN)) a wnaed yn ffurfiol trwy lofnodi Memorandwm Dealltwriaeth (MD) ym mis Ionawr 2023. Fel un o’r sefydliadau prin sy’n cynrychioli pobl ifanc ddu ac Asiaidd yng Nghasnewydd, mae UCN yn mynd ati i hyrwyddo lleisiau pobl ifanc ac yn hwyluso’r broses o leisio barn a herio anghyfiawnder.

Roedd UCN wedi bod yn gweithio gyda’r tîm Gwaith Ieuenctid a Chymuned yn PDC ac mae’n darparu sefydliad lleoliadau gwaith, gyda mantais staff a chyn-fyfyrwyr cymwys yn gweithio fel goruchwylwyr i weithwyr ieuenctid dan hyfforddiant. Ym mis Awst 2022, roeddem yn ffodus iawn i gael ein cyflwyno i’n gilydd wrth i UCN symud i’r swyddfa cynllun agored lle mae’r tîm addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn gweithio. Roedd angerdd ac ymrwymiad UCN i gyfiawnder cymdeithasol yn amlwg wrth iddynt siarad am y cyfleoedd creadigol y maent yn eu hwyluso ar gyfer pobl ifanc a’u cymunedau. Mae’r bobl ifanc hyn wedi dysgu sgiliau ychwanegol, ac wedi cael eu grymuso i ateb eu cwestiynau eu hunain am eu hunaniaeth a’u treftadaeth trwy greu dwy raglen ddogfen nodedig, sef: Wales Untold a Humanitree.

Cydweithio i fynd i’r afael â heriau ac ysgogi newid

Yn 2022, galwodd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar bartneriaethau AGA ac ysgolion i fod yn gynghreiriaid wrth fynd i’r afael â “systemau toredig” a “chymryd cyfrifoldeb am fynd ati i greu’r newidiadau angenrheidiol” (Llywodraeth Cymru, 2022, tud.16). Mae’r cynllun yn herio pob un ohonom ni i weithio gyda “chryfderau sylweddol ac arweinyddiaeth pobl ethnig leiafrifol” i wneud “gwahaniaeth cadarnhaol a pharhaus.” (Llywodraeth Cymru, 2022, tud.15). Trafodom sut gallai UCN rannu eu profiad bywyd, wedi’i gyfuno â gwybodaeth academaidd, i gynorthwyo PDC i lywio’r newid yn y tirlun hiliol, cyflwyno agenda cyfiawnder cymdeithasol yn lleol ac yn genedlaethol, a chynorthwyo myfyrwyr ac addysgwyr i feddwl a gweithredu mewn ffordd wrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol.

Wrth lofnodi’r MD, siaradodd Mick Conroy, sy’n uwch ddarlithydd Gwaith Ieuenctid a Chymuned, am y ffaith fod y bartneriaeth rhwng UCN a PDC yn un gyfartal. A dyna yn union beth ydyw. Mae addysgwyr yn dysgu oddi wrth greadigrwydd, angerdd, arbenigedd, profiad bywyd, ac ymrwymiad UCN i wasanaethu pobl ifanc a’u cymunedau. Mae UCN yn darparu arweiniad a chymorth i PDC o ran materion yn ymwneud â hanes pobl ddu, adnoddau, deunyddiau a gweithdai gwrth-wahaniaethu ac yn rhannu eu dysgu, eu profiadau a’u hymchwil gyda chydweithwyr mewn cynadleddau mewnol ac allanol. Yn ogystal, trwy ffurfioli’r bartneriaeth, sicrhawyd dyfodol cadarnhaol ar gyfer Strategaeth Hyfforddi a Datblygu’r elusen.

Wynebau

USW blog image2Fel addysgwyr, cydnabuom ba mor werthfawr fyddai’r rhaglenni dogfen o ansawdd uchel, Wales Untold a Humanitree, fel adnoddau dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon o bob sector oedran. Gallem weld sut gallent hwyluso sgyrsiau beirniadol am hil, amrywiaeth, cynwysoldeb, treftadaeth, hanes gwirioneddol (fel sgyrsiau dilys am Cynefin), a hunaniaeth i ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd ac ymdeimlad o berthyn mewn ystafelloedd dosbarth. Roedd y cyllid a sicrhawyd i greu’r rhaglenni dogfen cyfoethog hyn wedi dod i ben, felly nid oedd adnodd i fwrw ymlaen â nhw. Gyda’n gilydd, gofynnom i Lywodraeth Cymru am gyllid i greu adnoddau dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon, ac fe’n cyfeiriwyd at DARPL a Chantelle Haughton, sy’n ysbrydoledig. Ar ôl cyfarfodydd manwl, athronyddol a boddhaus, dyfarnwyd cyllid i ni er mwyn creu adnoddau dysgu proffesiynol gwrth-hiliol yn seiliedig ar Wales Untold a Humanitree. Hefyd, sicrhaodd UCN gyllid gan PDC i ddatblygu adnoddau i hwyluso gweithdai gwrth-hiliol ar draws PDC. Cafodd perthnasoedd cryf eu meithrin yn fewnol ac yn allanol ar sail ymddiriedaeth, cymorth ar y ddwy ochr a pharch.

Gofodau

USW blog image1Gofodau dewr. Dechreuwyd sgyrsiau gyda grŵp o addysgwyr athrawon ac arweinwyr UCN gan edrych ar y cyd ar y cwricwlwm addysg gychwynnol athrawon a gofyn cwestiynau gonest am ba mor amrywiol a chynhwysol yw ein cwricwlwm a’n hadnoddau. Arweiniodd UCN weithdai arfer gwrth-hiliol ar gyfer staff a myfyrwyr AGA. Estynnwyd gwahoddiad i athrawon dan hyfforddiant i berfformiad gan Urban School of Arts, sef sioe wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan bobl ifanc am wirioneddau tyfu i fyny yng nghanol dinas Casnewydd. Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y sioe, lle gallai athrawon dan hyfforddiant ofyn cwestiynau i’r bobl ifanc.

Mae Brownsword (2019) yn dadlau nad oes gan lawer o athrawon dan hyfforddiant ddealltwriaeth o’u breintiau eu hunain fel pobl wyn. Bydd hyfforddiant o ansawdd da mewn hil ac amrywiaeth yn eu galluogi i herio amgyffrediadau hiliol a’u hannog i archwilio a mynd i’r afael â rhwystrau mewn ysgolion. Nid ydym yn gwybod am yr hyn nad ydym ni’n ei wybod, ond rydym yn cydnabod hyn trwy weithio gyda UCN i gyd-greu gofodau dewr ar gyfer cynnal trafodaethau gonest, archwilio a dysgu. Mae Davies (2021) yn cynnig bod y syniad o hil o fewn addysg mor astrus fel ei fod yn aml yn cael ei osgoi yn fwriadol, sy’n gwanhau’r effaith bosibl ar athrawon a’r system addysg yn y dyfodol. Gwyddom fod angen newid hyn, trwy gael un sgwrs feirniadol ac un gofod dewr ar y tro. Mae tosturi, empathi a dealltwriaeth ar y ddwy ochr yn datblygu. Fel y dywed Loren, “Mae go iawn yn golygu go iawn”.

Lleoedd

Mae UCN wedi ymrwymo i ddarparu lleoedd i gynorthwyo pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau, a rhoi cyfleoedd iddynt ffynnu. Mae’r brifysgol yn darparu sylfaen ar gyfer UCN, a gall UCN archebu ystafelloedd addysgu, darlithfeydd, y stiwdio ddawns, ac ystafelloedd y cyfryngau ar gyfer sesiynau a digwyddiadau. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithredu i alluogi’r gymuned i weld y brifysgol fel lle y maent yn perthyn iddo. Rydym yn codi dyheadau, yn grymuso pobl ifanc i ennill cymwysterau a deilliannau, ac yn meithrin arweinwyr newydd sy’n gweld y brifysgol fel eu lle nhw.

Beth nesaf?

Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i gyflawni ein gweledigaeth, i ddatblygu a rhannu adnoddau a darparu dysgu ar gyfer ein myfyrwyr, ein staff a’n partneriaeth. Fodd bynnag, mae hon yn broses hir; nid oes ateb cyflym. Mae’n waith calonogol, ac mae llawer o rwystrau a heriau i’w goresgyn. Rydym yn gwerthfawrogi cryfder ein perthnasoedd, ein dealltwriaeth ar y ddwy ochr, a’n hymddiriedaeth i gymryd camau bach ond pwysig i ysgogi newid. Ac rydym ni yn gweld newid. Mae go iawn yn golygu go iawn.

Fel y dywedodd Chantelle i gloi cynhadledd Arweinyddiaeth Genedlaethol DARPL ym mis Mehefin, 2023:

“Nid diferyn yn y cefnfor ydym ni; ni yw’r cefnfor mewn un diferyn.”
(“We are not a drop in the ocean, we are the ocean in one drop.”) Rumi (13eg Ganrif)