CGA / EWC

About us banner
Dewch â’ch safbwynt i reoleiddio addysg yng Nghymru
Dewch â’ch safbwynt i reoleiddio addysg yng Nghymru

Mae recriwtio wedi agor ar gyfer aelodau newydd i’n Cyngor.

Rydym ni’n rheoleiddio gweithlu mawr ac amrywiol sy’n gwasanaethu dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a chymunedau ar draws Cymru. I gyflawni’r rôl hon yn effeithiol ac er budd y cyhoedd, mae’n bwysig bod ein Cyngor yn elwa o amrywiaeth eang o safbwyntiau, profiadau a ffyrdd o feddwl.

Mae Cyngor amrywiol yn helpu i wneud penderfyniadau’n gryfach, herio rhagdybiaethau a chynnal hyder y cyhoedd yn nhegwch ac uniondeb rheoleiddio. Am y rheswm hwn, rydym yn awyddus i weld ceisiadau gan bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd proffesiynol a phrofiadau bywyd, gan gynnwys y rhai sydd heb ystyried penodiad cyhoeddus, yn draddodiadol. 

Mae’r rôl yn galw am feddwl annibynnol, cyfraniad adeiladol at drafodaethau strategol, uniondeb, ac ymrwymiad cadarn i gydraddoldeb, cynhwysiant a’r Gymraeg.

Beth sydd ynghlwm?

  • Ymrwymiad o hyd at 12 diwrnod y flwyddyn
  • Cyfuniad o gyfarfodydd ar-lein a rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd
  • Mae’r rôl yn ddi-dâl, ond mae teithio a chynhaliaeth yn cael ei ad-dalu

Mae aelodau’r Cyngor yn gweithredu fel unigolion, nid fel cynrychiolwyr sefydliadau, a chânt eu cefnogi gyda phroses sefydlu lawn.

Gwneir penodiadau gan Weinidogion Cymru trwy broses penodiadau cyhoeddus sy’n deg ac yn cael ei rheoleiddio.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Chwefror 2026 am 16:00. I ddysgu rhagor a gwneud cais, ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.