CGA / EWC

About us banner
Mae gwneud pawb yn gyfrifol am addysg yn allweddol i hybu cynhyrchedd Cymru
Mae gwneud pawb yn gyfrifol am addysg yn allweddol i hybu cynhyrchedd Cymru

Mae gwneud pawb yn gyfrifol am addysg yn allweddol i hybu cynhyrchedd Cymru

Ffotograff-Ian-Price-Rheolwr-Cyfarwyddwr-CBI-WalesMae hyrwyddo ymgysylltiad rhwng busnes a’r sector addysg yn fwy na rhywbeth braf i’w wneud. Mae’n flaenoriaeth hollbwysig os ydym am wireddu potensial llawn economi Cymru. Mae busnesau’n dweud wrthym bob dydd mai mynediad at bobl a sgiliau yw un o’u pryderon mwyaf, felly mae datblygu cronfa o dalent ar gyfer y dyfodol yn bwysicach nag erioed.

Felly, pwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw a’u cyflogwyr yn y dyfodol? Nid dim ond ysgolion, colegau a phrifysgolion yw’r ateb. Mae gan fusnes rôl allweddol i’w chyflawni hefyd. Mae angen i ni weld cwmnïau’n camu i’r adwy ac yn helpu ein hysgolion a’n darparwyr addysg uwch ac addysg bellach i ddatblygu pobl ifanc a’u paratoi ar gyfer byd gwaith sy’n newid yn gyflym.

Un o’r pethau gorau y gall busnesau ei wneud i helpu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr yw cynnig amrywiaeth o ddewisiadau gyrfaol o ansawdd da iddynt, a’u hysbrydoli gyda phrofiad ymarferol. Ond nid dim ond pobl ifanc sy’n elwa.

Mae cwmnïau’n elwa hefyd trwy ymwreiddio’n ddyfnach mewn cymunedau a chael cyfle i ddod yn gyfarwydd â’r bobl ifanc fwyaf dawnus sydd ar gael yn lleol. Ac ni ddylem anghofio am athrawon, darlithwyr a chynghorwyr gyrfaoedd ychwaith. Sawl un ohonom sydd wedi clywed am wasanaethau gyrfaoedd sydd dan bwysau ac addysgwyr o bob math sy’n gorfod siarad am yrfaoedd nad ydynt yn gyfarwydd iawn â nhw? Mae gan fusnesau’r profiad a’r arbenigedd i roi help llaw.

Ond gorau oll, fe all helpu economi Cymru, oherwydd er bod buddsoddi mewn addysg a sgiliau yn gallu rhoi’r argraff o fynd ‘yn ôl i’r hanfodion’, mae’n un o’r pethau y profwyd ei fod yn hybu cynhyrchedd. Ac rydym ni’n sicr yn gwybod bod angen hwb ar gynhyrchedd ledled Cymru.

Felly, beth mae cwmnïau’n ei wneud nawr? Yn ffodus, yr ateb yw eithaf tipyn. Mae rhai rhaglenni gwych yn cael eu cynnal ledled Cymru sy’n cyflawni ar gyfer busnesau, pobl ifanc ac addysgwyr. Ar lefel ysgolion, mae’r rhain yn aml ar ffurf sgyrsiau mewn ysgolion, profiad gwaith ac ymweliadau safle. Ond i’r rhai mewn colegau a phrifysgolion, mae lleoliadau, cynlluniau hyfforddiant galwedigaethol a phrentisiaethau gwych ar gael.

Gadewch i mi roi un enghraifft i chi mewn ysgol, sef SPTS yng Nghasnewydd a’u gwaith gydag Ysgol Gynradd Sant Julian, sydd mewn ardal lle y gwyddom fod llawer o amddifadedd. Mae SPTS yn ymweld â’r ysgol i siarad am yr hyn maen nhw’n ei wneud a’r mathau o swyddi y gallant eu cynnig, ac yna’n mynd â’r plant i’w cyfleuster lleol lle maen nhw’n gweithgynhyrchu offer cyfalaf ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion.

Mae mynd â phlant i’r ystafell lân a gwisgo’r siwtiau amddiffynnol yn llawer o hwyl – crwydro o amgylch y safle fel cymeriadau o ffilm gwyddoniaeth ffuglen. Ac nid dim ond y plant sy’n mwynhau’r profiad, mae’r athrawon a staff SPTS yn cymryd rhan hefyd, ar yr un pryd â chreu argraff gadarnhaol o’r hyn y gallai gyrfa ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu ei gynnig.

Un enghraifft yn unig yw honno. Fe allwn i fod wedi sôn yn rhwydd am gynllun Dosbarth Busnes BITC, y fenter Ymrwymiad Caerdydd a gynhelir gan Gyngor Caerdydd neu’r amryw brentisiaethau a rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol gwych ledled y wlad. Er bod gennym ni lawer o enghreifftiau o arfer da iawn, mae angen cysondeb.

Os ydych chi’n cynnal busnes ac eisiau dechrau sefydlu cysylltiadau ffurfiol ag ysgolion neu golegau lleol, i ble rydych chi’n mynd am wybodaeth? Ydych chi’n dechrau siarad â nhw a gobeithio y dewch chi ar draws rhywbeth sy’n gweithio? Ond beth os nad ydych chi’n gwybod beth mae arnyn nhw, neu’r bobl ifanc, ei angen mewn gwirionedd neu sut gallai rhaglen gydweddu â chwricwlwm sydd eisoes wedi’i ymestyn? Oni fyddai’n wych petai ryw fath o ‘siop un stop’ ar gael i chi ar gyfer gwybodaeth a chyngor?

Rwy’n credu y gallwn ni ateb y cwestiynau hynny, ac un o’n hasedau mwyaf yw ein maint. Ydy, mae Cymru’n lle eithaf bach, ond mae hynny’n rhoi’r cyfle i ni fod yn fentrus a rhoi cynnig ar bethau na fyddent yn ymarferol mewn economïau mwy. Beth am i ni ymrwymo i ymgysylltu ar y cyd rhwng busnes ac addysg, dysgu oddi wrth ein gilydd a rhannu arfer gorau?

Byddai ychydig o gydlynu cenedlaethol o gymorth mawr i fusnesau sy’n ceisio cyflawni eu rhwymedigaethau cymdeithasol ac addysgol, yn ogystal â dod o hyd i gyflogeion addawol ar gyfer y dyfodol. Nid breuddwyd amhosibl yw hynny, yn fy marn i. Byddem wrth ein bodd yn gweld asiantaethau Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn fwy rheolaidd â busnesau, ysgolion, colegau a phrifysgolion i wireddu hynny. Yn CBI, rydym ni’n fwy na pharod i weithredu fel cyfryngwr.

Felly, beth ydw i wir eisiau ei gyfleu am ymgysylltiad rhwng busnes ac addysg? Gall busnesau, ni waeth beth fo’u maint neu eu sector, gael effaith fawr ar fywyd person ifanc a dylent chwarae rôl bwysicach. Felly, os ydych yn credu y gallech chi neu eich busnes helpu i ysbrydoli gweithwyr y dyfodol, peidiwch ag ofni codi’ch llaw. Efallai ein bod ni’n parhau i weithio ar seilwaith gwell ar gyfer ymgysylltu, ond, fel y mae eraill wedi’i ddangos, mae’n bosibl gwneud gwahaniaeth ac mae’r buddion yn enfawr i bawb.

Ian Price

Ian Price yw Rheolwr Gyfarwyddwr CBI Wales, sef llais busnesau yng Nghymru. Decrheuodd ei rôln yn Ionawr 2017 ar ôl 11 mlynedd o fod yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Cymru a de-orllewin Lloegr.