Eich CGA

Ymunwch â ni am gyfres newydd o weminarau i roi mewnwelediad i gofrestreion i waith Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Bwriad y weminar yw rhoi trosolwg cynhwysfawr i chi am ein rôl a'n cylch gwaith, yn ogystal â'r gwasanaethau ry'n ni'n eu darparu. 

Cofrestrwch ar gyfer eich lle am ddim nawr.

Adnewyddu cofrestru

Os ydych wedi eich cyflogi ar gontract yng Nghymru, dylai eich cyflogwr fod wedi tynnu eich ffi cofrestr blynyddol o'ch cyflog fis Mawrth. Os nad ydych wedi, cysylltwch â'r tîm. Os ydych wedi cael cais i adnewyddu eich ffi ar gyfer 2024/25, a heb ei dalu eto, gallwch dalu ar ywefan nawr.

Eisiau bod yn athro?

Mae nifer o raglenni addysg gychwynnol athrawon ar gael ledled Cymru i'ch helpu i ddilyn llwybr gyrfa eich breuddwydion. I weld pa lwybrau sydd ar gael i chi, ewch i wefan Addysgwyr Cymru, neu cysylltwch â'r tîm.

Cyngor y Gweithlu Addysg yw rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru. Rydym yn cofrestru a rheoleiddio athrawon a staff cymorth dysgu mewn lleoliadau ysgol ac addysg bellach, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Mae’n bwysig eich bod chi, fel llywodraethwr, yn gwybod am y gofynion cyfreithiol penodol ar gyfer eich ysgol/coleg a’i gofrestreion.

Cofrestru

Mae’n ofyniad cyfreithiol, i’r cyflogwr a’r unigolyn, bod yr unigolyn wedi cofrestru yn y categori cofrestru cywir cyn iddo ymgymryd ag unrhyw waith (e.e. athro ysgol, cynorthwyydd addysgu). Dylai eich ysgol/coleg wirio bod eu staff wedi cofrestru gan ddefnyddio’u mynediad i’r gofrestr.

Rheoleiddio

Yn ogystal â chofrestru’r gweithlu addysg, rydym yn gyfrifol am ei reoleiddio hefyd. Gwnawn hyn trwy ein gwaith priodoldeb i ymarfer.

Atgyfeiriadau gan gyflogwyr

Os bydd cyflogwr yn diswyddo cofrestrai, neu os bydd cofrestrai yn gadael ei swydd (e.e. yn ymddiswyddo neu’n cytuno i setliad), ond y byddai’r cofrestrai wedi cael ei ddiswyddo pe na bai wedi gwneud yr uchod, mae dyletswydd gyfreithiol ar y cyflogwr i roi gwybod i ni.

Mae mwy o wybodaeth am y broses atgyfeirio, a rhwymedigaethau cyflogwyr.

Y Cod Ymarfer ac Ymddygiad Proffesiynol

Mae’n ofyniad statudol i CGA gyhoeddi Cod Ymarfer ac Ymddygiad ProffesiynolMae hwn yn amlinellu’r egwyddorion ymddygiad ac ymarfer da allweddol y mae disgwyl i gofrestreion gydymffurfio â nhw. Bwriedir iddo eu hysbysu, eu cefnogi a’u cyfeirio. Gall methu cydymffurfio â’r egwyddorion yn y Cod godi amheuaeth am allu cofrestrai i barhau i ymarfer. Mae’n hanfodol bod eich ysgol/coleg yn atgoffa pob cofrestrai o’u dyletswyddau yn y Cod yn rheolaidd.

Canllawiau, adnoddau a gwasanaethau proffesiynol

Rydym yn darparu cyfres o wasanaethau proffesiynol i gefnogi ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid ehangach (gan gynnwys llywodraethwyr). Rydym yn eich annog chi, a’r staff yn eich ysgol/coleg, i wneud y mwyaf o’r cynnig hwn sy’n cynnwys hyfforddiant a gweithdai, cyfres o ganllawiau ymarfer da, posteri’n amlygu’r Cod, digwyddiadau, a’r Pasbort Dysgu Proffesiynol.

Arbedwch arian a recriwtiwch y goreuon gyda chymorth Addysgwyr Cymru

Mae Addysgwyr Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a ddatblygir gan CGA, yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i ysgolion/colegau. Mae hyn yn cynnwys rhoi eich swyddi gwag (gan gynnwys rolau llywodraethwyr) ar ein porth swyddi Cymru gyfan, gan arbed £1000oedd y flwyddyn mewn costau recriwtio.

I ddysgu rhagor, ewch i wefan Addysgwyr Cymru neu gwahoddwch y tîm i gyfarfod.

Newyddion

Dewch i siarad gyda CGA yr haf yma

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn paratoi i fynd i nifer o ddigwyddiadau a gwyliau ledled Cymru yr haf yma, sy'n gyfle gwych i gofrestreion,...

Y gydnabyddiaeth fwyaf i Wasanaeth Ieuenctid Caerffili

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi derbyn cydnabyddiaeth ffurfiol am ansawdd eu darpariaeth, gan dderbyn y Marc Ansawdd Aur ar gyfer Gwaith...

Cyflwyno cynlluniau CGA at y dyfodol

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Gynllun Strategol 2024-27 a’i Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28. Mae’r ddwy ddogfen yn...

CGA i barhau i gyflwyno’r Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid

Mae Llywodraeth Cymru wedi ailgomisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mewn partneriaeth ag ETS Cymru, i gyflwyno a datblygu’r Marc Ansawdd ar...

Datganiad CGA ar ffioedd 2024/25 - neges i gofrestreion

O dan ddeddfwriaeth, y ffi flynyddol i'r rheiny sydd angen cofrestru gyda CGA yw £46, waeth bynnag fo'r categori cofrestru. Mae hyn yn golygu mai...

Derbynwyr diweddaraf dyfarniad ieuenctid

Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerffili a Chastell-nedd Port Talbot wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid...

CGA yn cyhoeddi canllawiau wedi eu diweddaru i gofrestreion

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi diweddaru eu canllawiau arfer da, i adlewyrchu'r arferion gorau a'r tueddiadau diweddaraf o bob cwr o'r...

Newidiadau cofrestru i weithlu addysg Cymru

Bydd nifer o newidiadau’n dod i rym i’r rhai sy’n gweithio mewn addysg bellach (AB) a dysgu oedolion ar draws Cymru. Bydd y newid cyntaf yn gofyn...

CGA yn lansio ymgynghoriadau ar gynlluniau drafft

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio dau ymgynghoriad heddiw (12 Chwefror 2024), yn ceisio barn ar eu Cynllun Strategol drafft 2024-27,...

Cydnabyddiaeth fawreddog i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Cyhoeddwyd mai Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yw’r diweddaraf i dderbyn y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, gan dderbyn y dyfarniad...

Derbynwyr diweddaraf gwobr ieuenctid

Mae Urban Circle Casnewydd a MAD Abertawe wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru....

Edrych yn ôl ar 2023

Ionawr Siarad yn Broffesiynol 2023 gyda'r Athro Michael Fullan, yn archwilio'r cysyniad fod plant a phobl ifanc yn gallu bod yn 'newidwyr i'r...

Defnyddia Dy Gymraeg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymuno â sefydliadau eraill ledled Cymru i gymryd rhan yn ymgyrch Defnyddia Dy Gymraeg. Mae’r ymgyrch, sy’n...

CGA yn gwneud sylwadau ar newidiadau arfaethedig i bwyllgorau priodoldeb i ymarfer

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi croesawu cynigion gan Lywodraeth Cymru sydd am ddiwygio Rheoliadau sy'n llywodraethu aelodaeth pwyllgorau...

Cyhoeddi ymateb CGA i newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnig newidiadau i reoleiddio addysg yng...

Derbynwyr diweddaraf gwobr ieuenctid

Mae ProMo Cymru, Youth Cymru a YMCA Abertawe wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru....

Sgwrsio gyda CGA – Amrywio'r gweithlu addysg yng Nghymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi rhyddhau'r bennod ddiweddaraf o'i bodlediad, Sgwrsio gyda CGA . Yn y bennod arbennig hon i ddathlu Mis Pobl...

Safonau arweinyddiaeth newydd ar gyfer y gweithlu ôl-16

Mae set newydd o safonau arweinyddiaeth proffesiynol wedi eu cyhoeddi ar gyfer gweithlu ôl-16 Cymru. Mae'r safonau, oedd yn gynwysedig yn y...

Cydnabod rhagoriaeth sefydliadau ieuenctid

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy a Vibe Youth wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru....

CGA yn rhyddhau podlediad gyda chyngor ar ddelio gydag aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn lleoliadau addysg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi rhyddhau'r ail bennod o'i bodlediad, Sgwrsio gyda CGA . Yn y bennod hon, Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr...

Cyhoeddi’r ystadegau diweddaraf ar y gweithlu addysg yng Nghymru

Heddiw (5 Medi 2023), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei ddata diweddaraf am y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae Ystadegau Blynyddol...

CGA yn arwyddo addewid gwrth-hiliaeth

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cadarnhau ei safbwynt ar hiliaeth drwy arwyddo addewid Dim Hiliaeth Cymru . Drwy ymuno gyda dros 1,500 o...

CGA yn ymateb i ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Bil Addysg y Gymraeg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi rhoi adborth i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Bil Addysg y Gymraeg. Rhoddodd yr...

Cyflawniadau allweddol CGA i’w gweld yn yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023. Mae’r...

Fframwaith newydd i gefnogi ymarferwyr AB, DSW ac addysg oedolion

Mae fframwaith dysgu a datblygiad proffesiynol newydd i ymarferwyr mewn addysg bellach (AB), dysgu seiliedig ar waith (DSW) ac addysg oedolion...

Cyhoeddi adroddiad Priodoldeb i Ymarfer CGA 2022-23

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2022-23 heddiw (dydd Llun 10 Gorffennaf 2023). Mae'r...

Rhyddhau canlyniadau arolwg AB/DSW 2023

Mae canfyddiadau Arolwg y Gweithlu Addysg Bellach a Dysgu'n Seiliedig ar Waith 2023 wedi eu rhyddhau heddiw (30 Mehefin 2023). Hwyluswyd yr arolwg...

CGA yn lansio podlediad newydd

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio ei bodlediad newydd heddiw (28 Mehefin 2023) - Sgwrsio gyda CGA . Ym mhob pennod, byddwn CGA yn cael...

Sefydliadau ieuenctid yn cael cydnabyddiaeth am eu rhagoriaeth

Cyhoeddwyd mai Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru a Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd yw enillwyr diweddaraf y Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith...

CGA yn croesawu categorïau cofrestru newydd

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi croesawu cyflwyno pedwar categori cofrestru newydd i'r Gofrestr o Ymarferwyr Addysg yng Nghymru. Er mwyn...