CGA / EWC

About us banner
Sut mae Gwaith Ieuenctid o Ansawdd wedi cyfrannu at atal digartrefedd ymysg pobl ifanc – Nick Hudd
Sut mae Gwaith Ieuenctid o Ansawdd wedi cyfrannu at atal digartrefedd ymysg pobl ifanc – Nick Hudd

Yn ôl yn 2019, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ddogfen o’r enw Lleisiau’r rhai sydd â phrofiadau personol o ddigartrefedd a niwed yng Nghymru: Llywio gwaith atal ac ymateb. Yn un o adrannau’r ddogfen hon, Atal digartrefedd trwy gydol cwrs bywyd, mae’r awduron yn rhagnodi dwy elfen allweddol. Y gyntaf o’r rhain yw Gwydnwch plant – ffactorau gwarchodol. Yma, maent yn rhestru pum elfen allweddol:

  1. perthyn i gymuned
  2. perthynas o ymddiriedaeth gydag oedolyn sefydlog
  3. athrawon a gweithwyr ieuenctid cefnogol
  4. teulu cefnogol
  5. datrys problemau

I’r rhai sy’n darllen hwn sydd eisoes yn gweithio yn y sector gwaith ieuenctid, rwy’n dyfalu’ch bod chi eisoes yn nodio’ch pen yn cytuno.

Ond, cyn archwilio rhai o’r elfennau hyn ychydig yn fanylach, hoffwn fyfyrio ar yr ail elfen y cyfeirir ati: rhwystrau rhag cael cymorth. Eto mae’r awduron yn rhagnodi pum ffactor arwyddocaol:

  1. y ffaith nad oedd neb yn gwrando arnynt
  2. ofni’r canlyniadau
  3. diffyg ymddiriedaeth
  4. methiant i weld y person y tu ôl i’r ymddygiad allanol
  5. a’r plentyn yn methu cydnabod bod ei brofiadau yn rhai niweidiol

Rwy’n rhagweld bod gwybodaeth o’r fath yn fwy o gadarnhad, yn hytrach na datguddiad, i’r bobl sy’n gweithio yn y sector gwaith ieuenctid ac eraill sy’n ymwneud â phobl ifanc.

Dyma ble y mae gan Waith Ieuenctid o ansawdd y potensial i gyfrannu at atal digartrefedd ymysg pobl ifanc mewn ffordd ystyrlon go iawn. Mae croesgyfeirio’r elfennau sy’n cael eu disgrifio uchod yn erbyn ein dogfen Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion yn cynnig eglurder, os yw’r olygfa yn niwlog o hyd.

Rwy’n cynnig y datganiad hwn, o’r cyhoeddiad, fel sylw agoriadol:

“Mae gwaith ieuenctid yn darparu a hwyluso: lleoedd a pherthnasoedd lle gall y bobl ifanc fwynhau eu hunain, teimlo’n ddiogel, derbyn cefnogaeth a chael eu gwerthfawrogi a chael mwy o reolaeth dros eu bywydau, a chydnabod a gwrthsefyll y dylanwadau niweidiol a all effeithio arnynt.”

Gadewch i ni fyfyrio ar elfen y berthynas. Mae gweithwyr ieuenctid nid yn unig yn datblygu’r perthnasoedd dibynadwy gyda phobl ifanc, y mae dogfen ICC yn ei alw’n ffactor gwarchodol, maent yn mynd ymlaen i ddefnyddio’r cysylltiadau hyn i gynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu perthnasoedd adeiladol gyda’u teulu, eu cyfoedion, gweithwyr proffesiynol eraill, ac aelodau o’u cymuned. Cyfeiriad amlwg arall at un o’r ffactorau gwarchodol a ragnodwyd ar gyfer atal digartrefedd.

Cydnabyddir eisoes bod peidio â gwrando ar bobl ifanc, a bod y bobl yn eu bywyd yn peidio ag edrych y tu hwnt i’r ymddygiad uniongyrchol, yn rhwystr rhag cefnogaeth. Er mwyn i berson ifanc deimlo’n ddiogel, derbyn cefnogaeth a chael ei werthfawrogi, fel y cyfeiriwyd ato yn y ddogfen Egwyddorion a Dibenion, mae’n rhaid i weithwyr ieuenctid edrych y tu hwnt i’r ymddygiad. Gofynnwch ‘pam?’ Nid yn unig rhoi cyfle i bobl ifanc siarad ond sicrhau eu bod yn gwrando arnynt. Os nad yw unigolion yn hyderus i wneud hynny, maent yn gweithio gyda nhw i helpu mynd i’r afael â ffactorau o’r fath. Eto, dyma rôl Gwaith Ieuenctid.

Un o bwyntiau gwerthu unigryw ein proffesiwn a’n dulliau yw’r ffaith ein bod yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni ddatblygu ein perthnasoedd ac ymyriadau dros gyfnod hir, ar sail anghenion unigol. Mae’n cynnig lefel o gysondeb, yr ‘oedolyn sefydlog’ y cyfeirir ato uchod.

Gallaf ategu hyn o brofiad. Fel ymarferwr gwaith ieuenctid sydd wedi gweithio mewn amrywiol leoliadau ers tuag 20 mlynedd, gallaf dystio fy mod wedi dechrau meithrin perthynas gyda rhai o’r bobl ifanc rwy’n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd, sy’n 20 oed a mwy nawr, pan oeddent yn 11 oed ac yn dod i ddarpariaeth clybiau ieuenctid. Nid oes llawer o broffesiynau a all frolio gallu cefnogi unigolion drwy bontio o blentyndod, i oedolaeth, ac i annibyniaeth.

Ar ôl myfyrio ar un o bwyntiau gwerthu unigryw gwaith ieuenctid, hoffwn restru ychydig yn rhagor. Nid mewn ymdrech i ddatgan bod y proffesiwn yn foddion all wella clwyf digartrefedd ymysg pobl ifanc, ond fel galwad yn hytrach i’m cydweithwyr proffesiynol i amlygu ein cryfderau ac mewn ymgais i hysbysu rhanddeiliaid eraill, y gallwn gydweithio â nhw.

Yn ogystal ag ennyn ymgysylltiad pobl ifanc 11-25 oed yn rhagweithiol, rydym hefyd yn mabwysiadu dull cyfranogol, gwneud pethau gyda phobl ifanc yn hytrach nag iddynt. Sicrhau eu bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt, bod grym ganddynt, bod ffydd ynddynt a’u cynnwys nhw yn yr ateb yn hytrach nag ystyried mai nhw yw’r broblem. Rydym ni’n weithwyr ieuenctid a chymunedol, ac mae gennym hanes cyfoethog o asesu a defnyddio asedau cymunedol, gan gydnabod buddion sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo’n rhan o’r man lle maen nhw’n byw, a bod aelodau’r cymunedau hyn yn rhagweithiol wrth helpu i’w datblygu.

Mae gwaith ieuenctid o ansawdd hefyd yn defnyddio dysgu trwy brofiad, gan ganiatáu i bobl sydd wedi cael profiadau personol hysbysu a llywio ymyriadau ystyrlon ac amlygu pobl ifanc i gysylltiad ag amrywiaeth o gyfleoedd dysgu y tu hwnt i leoliadau ffurfiol. Mae’n cofleidio dysgu dirprwyol ac mae’n annog pobl ifanc i ddysgu trwy bobl eraill. Yn olaf, mae dull seiliedig ar hawliau yn sylfaen iddo, gan sicrhau bod gan bobl ifanc y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r gallu i arfer eu hawliau.

Er bod yr erthygl hon wedi canolbwyntio ar agenda digartrefedd ymysg pobl ifanc, mae gwaith ieuenctid o ansawdd yn pontio cymaint o agweddau ar fywyd pobl ifanc. Mae potensial gan waith ieuenctid o ansawdd i gael effaith mor gadarnhaol. Fodd bynnag, er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd hyn, mae angen i ni sicrhau bod dulliau a phrosesau fel Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid CGA yn dysgu oddi wrth ei gilydd, craffu ar ein dulliau ein hunain a rhannu arfer da.