CGA / EWC

About us banner
Keith Towler - Gwaith ieuenctid yn parhau i gefnogi pobl ifanc wrth oresgyn heriau COVID-19
Keith Towler - Gwaith ieuenctid yn parhau i gefnogi pobl ifanc wrth oresgyn heriau COVID-19

Keith Towler - Gwaith ieuenctid yn parhau i gefnogi pobl ifanc wrth oresgyn heriau COVID-19

Keith Towler squareFe gyhoeddodd y Prif Weinidog Cymru nifer o newidiadau yn ddiweddar, gan gynnwys ail agor canolfannau cymunedol o 20 Gorffennaf. Mae Datganiad ysgrifenedig Prif Weinidog Cymru sy’n mynd gyda’r cyhoeddiad hwn hefyd yn cyfeirio at rôl hanfodol gwasanaethau gwaith ieuenctid ar draws y sectorau gwirfoddol ac awdurdodau lleol, ac yn nodi fod canllawiau ar gyfer y sector i ddod. Dwi’n hapus i’ch diweddaru ein bod wedi cynnal y cyfarfod cyntaf o’r gweithgor sydd wedi cael ei alw i ddatblygu’r canllawiau hyn fydd yn cynorthwyo’r Sector Gwaith Ieuenctid i gynllunio er mwyn cynyddu gwasanaethau yn raddol.

Un o rannau mwyaf buddiol y dydd oedd cyflwyniad gan Gyd-Gadeirydd Cell Gynghori Dechnegol Covid-19, Fliss Bennée. Roedd rhai o’i negeseuon yn sobri rhywun o ddifrif, dydyn ni ddim allan o berygl eto yn bendant. Er hynny roedd hi’n galonogol clywed am sut mae’r cyfyngiadau symud wedi cael effaith sylweddol ar leihau marwolaethau, a gwybod bod yr aberthau sydd wedi’u gwneud gan bawb yng Nghymru wedi achub miloedd o fywydau. Mae gennym ni rôl bwysig fel sector yma, i helpu’n pobl ifanc (a’n cydweithwyr) i ddeall pwysigrwydd y dewisiadau a wnânt i ddiogelu eu hunain a diogelu pobl eraill, a byddwn yn cyfeirio at hyn yn ein canllawiau.

Sgiliau a chyflogadwyedd pobl ifanc

Mae’r rhifyn diweddaraf hwn o’r bwletin yn canolbwyntio ar Sgiliau a Chyflogadwyedd. Effaith economaidd y pandemig yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein pobl ifanc ar hyn o bryd yn bendant, cywasgodd economi Prydain 2.2% yn nhri mis cyntaf 2020 – ei ddirywiad mwyaf mewn dros 40 mlynedd. Mae yna dystiolaeth mai gweithwyr ifanc sy’n fwyaf tebygol o golli gwaith yn sgil ffyrlo, colledion swyddi a lleihad mewn oriau. Mae Llywodraeth Cymru’n cymryd camau i gefnogi pobl i gyflogaeth neu hunangyflogaeth, gan sicrhau dilyniant a datblygiad dysgwyr yn y farchnad lafur gydol y pandemig hwn.

Serch hynny, mae pobl ifanc yn teimlo’n bryderus ac anfrwdfrydig. Bydd pryder em eu dyfodol yn cael ei ddwysáu gan effaith y cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl a llesiant cyffredinol pobl ifanc.

Rwy’n cydnabod na all gwaith ieuenctid fod yn ateb i’r holl broblemau hyn. Serch hynny, rydym yn dal i fod yno i bobl ifanc, ac mae gennym gyfraniad pwysig i’w wneud. Mae gweithwyr ieuenctid yng Nghymru eisoes yn gwneud cyfraniad allweddol fel gweithwyr arweiniol, yn cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu llu o rwystrau i gael mynediad i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a hynny drwy’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Mae gwaith ieuenctid ehangach hefyd yn cyfrannu at yr agenda hwn. Rydym yn cefnogi llesiant ac iechyd meddwl pobl ifanc, ni yw’r oedolyn dibynadwy y mae pobl ifanc yn ymddiried ynddo. Rydym yn eu hannog i fod yn optimistig, i dyfu a datblygu, i fachu ar gyfleoedd a dysgu sgiliau newydd, trwy brofiadau, hyfforddiant a gwirfoddoli. Mae rhifyn diweddaraf y Bwletin Gwaith Ieuenctid yn adeiladu ar hyn ac yn rhoi blas ar yr hyn mae'r sector yn ei gynnig i hybu sgiliau a chyflogadwyedd. builds on this and gives a flavour of what the sector offers to boost skills and employability.

I gadw i fyny â datblygiadau o fewn y sector gwaith ieuenctid, tanysgrifiwch i'r Bwletin Gwaith Ieuenctid

 

Keith Towler

Keith Towler yw cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Bu Keith yn Gomisiynydd Plant Cymru (2008 – 2015) ac mae nawr yn Ymgynghorydd Annibynnol. Mae’n arbenigwr uchel ei barch ar hawliau plant gyda thros 30 mlynedd o brofiad mewn swyddi gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid.