CGA / EWC

About us banner
Paul Glaze - Ymarfer da ym maes gwaith ieuenctid a pham y mae’n bwysig ei rannu
Paul Glaze - Ymarfer da ym maes gwaith ieuenctid a pham y mae’n bwysig ei rannu

Paul Glaze - Ymarfer da ym maes gwaith ieuenctid a pham y mae’n bwysig ei rannu

Polisi ac ymarfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru

Mae'n adeg gyffrous (ac yn lle cyffrous i fod) i’r sector gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Mae'r sector yn darparu ystod eang iawn o wasanaethau a chyfleoedd amrywiol, sy’n cynnwys datblygiad personol a chymdeithasol, celfyddydau mynegiannol, chwaraeon, lles meddyliol ac iechyd meddwl.

Ar sail diwylliant o ddysgu, mae’r sector yn cynnig amgylcheddau ystyriol o bobl ifanc, a arweinir gan bobl ifanc, sy’n darparu profiadau trawsnewidiol trwy amrywiaeth fawr o brosiectau a rhaglenni. Mae'r rhain yn ychwanegu gwerth enfawr i’r arlwy addysgol ehangach i bobl ifanc yng Nghymru.

Ar adeg o newid, her a breguster anhygoel, mae’r sector wedi ymateb yn hynod o dda ac wedi dangos llawer o ddewrder a pharodrwydd i ymaddasu wrth ddatblygu gwasanaethau er mwyn parhau i wneud cyfraniadau hanfodol i fywydau pobl ifanc. Yn y blog hwn, rwyf eisiau rhannu gyda chi y datblygiadau anhygoel sy’n dangos hyn.

Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019

Mae'r rhagair gan y Gweinidog yn nodi y bwriedir i’r Strategaeth ‘wella darpariaeth gwaith ieuenctid a’r hyn yr ydym yn ei gynnig i bobl ifanc’.

Mae'r Strategaeth yn nodi’r angen i ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu Cynllun Datblygu Gweithlu. Mae hefyd yn nodi cynlluniau i adolygu a diweddaru’r Trywydd Cymwysterau Gwaith Ieuenctid yng Nghymru er mwyn gwella dilyniant.

Mae awydd gwirioneddol i gryfhau’r ddarpariaeth er mwyn gwella canlyniadau, ac ar yr un pryd cydnabod bod yn rhaid i waith ieuenctid gael ‘ei gynllunio, ei ddarparu a’i adolygu’. Mae'n hollbwysig i bobl ifanc gael eu grymuso er mwyn i’w lleisiau gael eu clywed yn y broses gynllunio hon.

At hynny, mae angen sicrhau bod hyfforddiant gweithwyr ieuenctid yn cyd-fynd ag anghenion pobl ifanc. Bydd hyn yn ein helpu, nid yn unig i ddeall yn well y cyd-destunau mae gwaith ieuenctid yn digwydd ynddyn nhw, ond hefyd i wella’r archwiliadau o’r fath ddarpariaeth (gan gynnwys sylfaen sgiliau’r sector, ei anghenion o ran sgiliau a sut i fynd i’r afael â’r galw heddiw ac yn y dyfodol).

Y nod yma yw sicrhau bod gweithwyr ieuenctid (cyflogedig a di-dâl) yn cael cymorth parhaus i wella eu hymarfer a datblygu’r ddarpariaeth, i gyd er mwyn cefnogi a gwella canlyniadau. Bydd angen i Gynllun Datblygu’r Gweithlu roi ystyriaeth lawn i’r materion hyn.

Mae'r rhain yn ymrwymiadau pwysig i gynorthwyo â ‘gwella yn hytrach na phrofi’ ymarfer. Mae'r Strategaeth yn cynnig tystiolaeth o effaith darpariaeth trwy awgrymu pecyn cymorth ac adnoddau sy’n canolbwyntio ar hunanwerthuso, monitro effaith, a ‘mesur boddhad pobl ifanc mewn perthynas ag ansawdd y gwaith ieuenctid y maent yn cael profiad ohono’.

Mae pecyn cymorth o’r fath wedi cael ei greu gan y Centre for Youth Impact yn ei Youth Programme Quality Intervention (YPQI). Mae YPQI yn hybu diwylliant o welliant parhaus mewn sefydliadau gwaith ieuenctid, gan gynnwys gwelliannau yn y gwaith o werthuso ac arsylwi ar ansawdd y ddarpariaeth, a monitro canlyniadau fel mater o drefn. Nid yw cyfranogiad yn y YPQI wedi bod mor gryf ag y disgwyliwyd yng Nghymru, yn bennaf oherwydd materion yn ymwneud â chapasiti.

Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Yng Nghymru, mae’r Marc Ansawdd hefyd yn offeryn sy’n cael ei ddefnyddio i hysbysu gwelliant ac i sicrhau y gall gwasanaethau fesur a monitro eu heffaith ar bobl ifanc. Mae'r rhaglen yn mynd o nerth i nerth a gwelwyd cynnydd hynod yn nifer y sefydliadau sy’n aelodau o Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol sy’n gwneud cais i ddilyn proses y Marc Ansawdd.

Mae ffigurau diweddar yn dangos bod nifer y sefydliadau y dyfarnwyd y Marc Ansawdd iddyn nhw wedi cynyddu o 17 i 24; bod 72% o’r ymgeiswyr newydd sy’n cael y Marc Ansawdd o’r sector gwirfoddol, a bod 44 o aseswyr ar hyn o bryd (41% ohonyn nhw’n gweithio yn y sector gwirfoddol).

Mae grymuso’r gweithlu i feithrin sgiliau, rhannu dysgu a gwreiddio diwylliant o wella (ac ar yr un pryd cael eu cynorthwyo mewn proses asesu) yn hwyluso datblygiad hyder a gallu, ac ar yr un pryd yn caniatáu i anghenion pobl ifanc gael eu diwallu.

Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion

Mae Gwaith Ieuenctid Yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion yn nodi’r prif egwyddorion sy’n sail i waith ieuenctid ac yn rhoi trosolwg ar ei natur, ei ddibenion a’r gwaith o’i ddarparu. Mae cynnwys y ddogfen yn ymwneud yn benodol â gwaith ieuenctid yng Nghymru ond mae’n debyg o fod yn gyson ag egwyddorion gwaith ieuenctid.

Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru

Mae adroddiad terfynol y Bwrdd yn nodi’n glir ei sylwadau cadarnhaol ynghylch datblygu’r gweithlu yn ogystal â chefnogi parhau i ddatblygu a chyflwyno’r Marc Ansawdd. Mae Argymhelliad 13 yn dweud: ‘Mae angen i Lywodraeth Cymru adeiladu ar ei hymrwymiad i gefnogi a datblygu'r proffesiwn gwaith ieuenctid gyda strwythur gyrfaoedd sy'n cynnig cyfleoedd i gamu ymlaen’ a thrwy greu ‘gweithlu mwy effeithiol’ gyda phwyslais ar ’hyfforddiant, addysg a chyfleoedd ar gyfer DPP’, ‘bydd canlyniadau cadarnhaol o ran ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ar gyfer pobl ifanc Cymru’.

Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol

Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) yw’r corff cynrychioladol i’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol, ac mae’n rhoi llais cyfunol i’r rheiny sy’n darparu gwasanaethau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ar hyn o bryd mae gan CWVYS, sy’n gweithio trwy Gymru gyfan, aelodaeth fywiog ac amrywiol o 137 o sefydliadau ac mae’n ymwneud yn rhagweithiol â datblygiadau strategol a gweithredol i gynorthwyo’r sector a phobl ifanc.

Mae'n darparu gwasanaeth rheng flaen i sefydliadau ieuenctid gwirfoddol a chyfrwng pwysig y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru ac amrywiaeth o brosiectau pwysig trwyddo.