Rydym yn falch o rannu bod Geraint Williams wedi cael ei ethol yn Gadeirydd newydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Etholwyd Geraint, a ymunodd â’r Cyngor gyntaf ym mis Mawrth 2023, i’r rôl gan ei gyd-aelodau yn dilyn y newyddion y bydd y Cadeirydd presennol, sef Eithne Hughes, yn ymddiswyddo.
Mae’n dod â chyfoeth o brofiad i’r rôl ar draws sector addysg Cymru, gan gynnwys ei rôl bresennol fel Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd. Cyn dod yn Brifathro a Phrif Weithredwr, roedd Geraint yn athro gwyddoniaeth ac uwch arweinydd a oedd yn gyfrifol am lywodraethu, diogelu, lles, a gofal bugeiliol yn y coleg.
Wrth longyfarch Geraint ar ei benodiad, dywedodd Prif Weithredwr CGA, Lisa Winstone “Rydym mor falch o groesawu Geraint fel Cadeirydd newydd y Cyngor. Mae ei brofiad yn golygu bod ganddo ddealltwriaeth drylwyr o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r gweithlu yng Nghymru.
“Mae arweinyddiaeth ac ymrwymiad Geraint yn cyd-fynd yn berffaith â gwerthoedd CGA, ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gydag ef wrth iddo arwain y Cyngor â’i waith pwysig.
“Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i’r Cadeirydd sy’n ymadael, sef Eithne, am ei hymroddiad, ei hymrwymiad, a’i chyfraniad gwerthfawr at y Cyngor a gwaith ehangach CGA.”
Dywedodd Eithne Hughes “Bu’n fraint gwasanaethu fel Cadeirydd y Cyngor a gweithio gyda thîm mor ymroddedig a phroffesiynol. Dymunaf bob llwyddiant i Geraint yn ei rôl newydd ac rwy’n gwybod y bydd y Cyngor yn parhau i ffynnu o dan ei arweinyddiaeth.”
Dywedodd y Cadeirydd newydd, Geraint Williams “Mae’n anrhydedd ymgymryd â rôl Cadeirydd Cyngor CGA. Mae’r Cyngor yn cyflawni rôl mor bwysig wrth ddiogelu, cynnal proffesiynoldeb, a hybu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gweithlu addysg.
“Hoffwn ddiolch i Eithne am ei harweinyddiaeth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’m cyd-aelodau ar y Cyngor, staff CGA, a phartneriaid i barhau i gefnogi’r gwaith hollbwysig hwnnw.”
Bydd Geraint yn ymgymryd â rôl Cadeirydd y Cyngor ar 1 Rhagfyr 2025.
