CGA / EWC

About us banner
Ystadegau diweddaraf CGA yn rhoi darlun cynhwysfawr o weithlu addysg Cymru
Ystadegau diweddaraf CGA yn rhoi darlun cynhwysfawr o weithlu addysg Cymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2025, ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr y rheoleiddir annibynnol proffesiynol o wybodaeth ar y rheiny sy'n gweithio mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu oedolion/seiliedig ar waith yng Nghymru.

Mae'r data, sy'n dod o Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA, yn cynnwys gwybodaeth am y 91,253 o unigolion sydd wedi eu cofrestru gyda CGA (y nifer mwyaf erioed) ac yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau yn nhwf y gweithlu, dargadwedd, ac amrywiaeth. Am y tro cyntaf, mae hefyd yn cynnwys data ar ymarferwyr dysgu oedolion, a phenaethiaid neu uwch arweinwyr yn gweithio mewn addysg bellach. Mae hyn yn dilyn gofyniad newydd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2024 i'r ymarferwyr hyn gofrestru gyda CGA, a bod yn destun rheoleiddio eu hymddygiad a'u harfer.

Rhai o'r prif dueddiadau yn nata 2025

Wrth ystyried ystadegau 2025, mae'n bwysig nodi bod CGA wedi gwneud gwaith glanhau sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf i wella ansawdd a chyfanrwydd y Gofrestr ymhellach. O ganlyniad, efallai na fydd modd cymharu rhai o'r ffigyrau yn uniongyrchol gyda blynyddoedd blaenorol, yn enwedig lle bod cofnodion dyblyg neu hen gofnodion wedi eu tynnu, neu ddata sydd ar goll wedi ei ychwanegu.

Mae dargadw hirdymor yn gryf ymysg athrawon ysgol

Mae dros 75% o'r rhain oedd wedi cofrestru yn 2020 yn dal i ymarfer bum mlynedd yn ddiweddarach. Yn gyferbyniol, mae dargadw ymysg staff cefnogol addysg bellach ac ymarferwyr dysgu'n seiliedig ar waith yn parhau i fod o dan 50%.

Mae data amrywiaeth ethnig yn gwella'n araf

O ganlyniad i waith glanhau CGA, mae cyfran o unigolion sydd wedi cofrestru mewn rhai categorïau lle nad yw eu hethnigrwydd yn hysbys wedi lleihau cymaint ag 19.3%. Mae'r grwpiau mwyaf amrywiol yn ethnig yn cynnwys gweithwyr cymorth dysgu ysgol (8.1% Du, Asiaidd, neu o leiafrif ethnig), a staff cymorth ysgol annibynnol (8.2%). Fodd bynnag, mae'r mwyafrif o'r gweithlu ar draws pob sector yn parhau i uniaethu fel Gwyn.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn amrywio'n fawr

Tra bod traean o athrawon ysgol yn datgan eu bod yn medru'r Gymraeg, dim ond 9.8% o athrawon ysgol annibynnol, a 9.2% o ymarferwr dysgu oedolion sy'n gwneud. Mae llai fyth yn datgan eu bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Wrth ryddhau'r adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr dros dro CGA, Lisa Winstone "Ry'n ni'n falch o gyflwyno ein Ystadegay Blynyddol y Gweithlu Addysg ar gyfer 2025. Mae'r wybodaeth yn hanfodol i'n helpu i ddeall sut mae'r gweithlu addysg yn esblygu, a ble mae angen mwy o ffocws.

"Drwy rannu'r data yma, ry'n ni am gefnogi trafodaeth gadarnhaol a phroses penderfynu yn seiliedig ar dystiolaeth ym myd polisi addysg, gan gynnwys mewn meysydd allweddol fel chwarae ein rhan yn cefnogi cylfawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol."

Bydd CGA hefyd yn cynnal digwyddiad briffio ym mis Hydref i edrych yn fanylach ar y data, ac i ddeall unrhyw dueddiadau sy'n ymddangos. Bydd gwybodaeth am y digwyddiad, gan gynnwys sut i gadw'ch lle, ar gael drwy sianeli CGA.

Mae Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2025 ar gael i'w darllen nawr ar wefan CGA.