Rydym wedi lansio animeiddiad newydd i helpu tystion i ddeall beth i’w ddisgwyl wrth fynychu gwrandawiad priodoldeb i ymarfer.
Datblygwyd y fideo byr yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i wneud ein prosesau priodoldeb i ymarfer mor glir, hygyrch a chefnogol â phosibl i bawb sy’n gysylltiedig.
Mae tystiolaeth tystion yn chwarae rhan bwysig mewn helpu pwyllgorau priodoldeb i ymarfer i ddod i benderfyniadau gwybodus. Mae’r animeiddiad newydd hwn yn darparu golwg cam wrth gam ar y broses gwrandawiadau, gan helpu tystion i deimlo’n fwy parod a hyderus cyn dod i wrandawiad.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am beth sy’n digwydd cyn gwrandawiad, gan gynnwys y cymorth sydd ar gael gan y cyfreithiwr sy’n gyfrifol am yr achos, a’r arweiniad y bydd tystion yn ei gael ymlaen llaw. Yn ogystal, mae’r animeiddiad yn arwain gwylwyr drwy’r hyn y gallant ei ddisgwyl ar ddiwrnod gwrandawiad.
Meddai David Browne, Cyfarwyddwr Rheoleiddio CGA, adeg lansio’r fideo, “rydym yn cydnabod bod mynychu gwrandawiad priodoldeb i ymarfer fel tyst yn gallu teimlo’n frawychus, yn enwedig i’r rhai sydd erioed wedi cymryd rhan mewn gwrandawiad o’r blaen. Rydym wedi creu’r animeiddiad hwn i roi gwybodaeth glir ac ymarferol, gan helpu tystion i ddeall y broses a theimlo bod ganddynt gefnogaeth trwy gydol eu cysylltiad."
Mae gwrandawiadau priodoldeb i ymarfer yn rhan bwysig o rôl reoleiddiol CGA, gan helpu i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg yng Nghymru, a sicrhau bod gweithdrefnau teg a thryloyw yn cael eu dilyn ar yr un pryd.
Mae’r animeiddiad ar gael ar ein sianel YouTube.
Os oes gennych gwestiynau am fynychu gwrandawiad fel tyst, gallwch gysylltu â thîm priodoldeb i ymarfer CGA ar 029 2046 0099 neu drwy e-bostio
