CGA / EWC

About us banner
Blwyddyn arall o ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, cefnogi addysgwyr, a chryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd
Blwyddyn arall o ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, cefnogi addysgwyr, a chryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd

Heddiw, dydd Mercher 15 Gorffennaf, rydym wedi cyhoeddi ein cyfres o adroddiadau blynyddol, gan gynnwys ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026.

Mae’r adroddiad, a osodwyd gerbron y Senedd, yn arddangos blwyddyn arall o gyflawni llawn effaith. Hefyd, mae’n cynnwys cyfrifon manwl ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 sydd wedi cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, gan dderbyn barn archwilio ddiamod.

Mae rhai o’n cyflawniadau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:

  • cynnal cofrestr o dros 91,000 o ymarferwyr
  • prosesu dros 18,000 o geisiadau cofrestru newydd
  • cynnal 358 o achosion priodoldeb i ymarfer i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, a chynnal hyder y cyhoedd
  • dosbarthu dros 2,322 o ddyfarniadau’n gysylltiedig â statws athro cymwysedig a sefydlu statudol
  • cyflwyno 243 o sesiynau cymorth a chyflwyniadau i gofrestreion a rhanddeiliaid ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys ein rôl, y Cod, y Pasbort Dysgu Proffesiynol, ac Addysgwyr Cymru
  • hysbysebu 6,455 o swyddi addysg gwag trwy Addysgwyr Cymru
  • cyfrannu at fwy na 40 o grwpiau llywio cenedlaethol ac ymateb i 24 o ymgynghoriadau a galwadau am dystiolaeth

Yn 2025-26 hefyd, cyhoeddom y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig. Mae’r Cod yn amlinellu’r safonau a ddisgwylir gan ein cofrestreion, gan hefyd roi i ddysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, cyflogwyr a’r cyhoedd ddealltwriaeth glir o’r safonau y gallant eu disgwyl gan ymarferwyr cofrestredig. A ninnau’n adnabod pwysigrwydd sicrhau bod y Cod yn hygyrch i bawb, gwnaethom ei gyhoeddi mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL) am y tro cyntaf.  

Gan fyfyrio ar ei blwyddyn gyntaf fel Prif Weithredwr CGA, dywedodd Lisa Winstone, “Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi gweld yn uniongyrchol ymrwymiad a phroffesiynoldeb cydweithwyr ar draws CGA wrth gyflawni ein rôl reoleiddio bwysig.

“Mae Ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol yn arddangos ehangder ein gwaith, o ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, i gefnogi gweithwyr addysg proffesiynol a chynnal hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

“Wrth i’n rôl esblygu, mae’n bwysig ein bod yn parhau i fod yn gynaliadwy a’n bod yn gallu diwallu ein cyfrifoldebau statudol. Ac wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn ymroi i sicrhau bod y sylfeini cywir ar waith gennym i barhau i gyflawni ein rôl fel rheoleiddiwr addysg annibynnol Cymru yn effeithiol.

“Byddwn yn parhau i wrando, ymgysylltu, a chydweithredu â’n cofrestreion a’n rhanddeiliaid wrth i ni gynllunio at y dyfodol.”

Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2025-26 have wedi cael eu cyhoeddi ochr yn ochr ag Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2025-26, Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2025-26, ac Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2025-26 CGA.

Mae’r gyfres lawn ar gael i’w darllen nawr ar wefan CGA.