CGA / EWC

About us banner
CGA yn mynychu lansiad Cynllun Strategol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
CGA yn mynychu lansiad Cynllun Strategol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Yn ddiweddar, mynychodd ein Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi, Bethan Holliday-Stacey, lansiad Cynllun Strategol 2026-31 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cyn y lansiad, fe wnaethom gyflwyno ein hymateb i ymgynghoriad y Coleg ar y cynllun drafft, gan groesawu ei weledigaeth i gryfhau addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a chefnogi uchelgeisiau Cymraeg 2050. 

Mae prif bwyntiau ein hymateb yn cynnwys:

  • amlygu pwysigrwydd datblygu gweithlu medrus a chynaliadwy i gefnogi twf darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y sector drydyddol
  • croesawu pwyslais y Cynllun ar ddatblygu'r gweithlu, cynllunio strategol, a chydweithio rhwng partneriaid i helpu i gyflawni uchelgeisiau cenedlaethol hirdymor
  • pwysleisio gwerth deallusrwydd cadarn am y gweithlu wrth gefnogi cynllunio effeithiol, gan gynnwys yr angen am ddulliau cyson o ddeall a chofnodi sgiliau iaith Gymraeg ar draws y gweithlu
  • amlinellu sut, a ninnau’n rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, y gall ein data a'n harbenigedd unigryw helpu i lunio darlun cliriach o sgiliau a chapasiti’r Gymraeg ar draws y sector, gan lywio cynllunio a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol
  • amlygu pwysigrwydd recriwtio ymarferwyr sy’n siarad Cymraeg a chefnogi'r gweithlu presennol i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder Cymraeg drwy gydol eu gyrfaoedd, gan helpu i ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y sector addysg
  • croesawu ffocws cryf y Cynllun ar weithio mewn partneriaeth ac ailddatgan ein hymrwymiad i weithio'n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a rhanddeiliaid eraill i helpu i ddatblygu gweithlu dwyieithog cynaliadwy, hynod fedrus i Gymru

Gallwch ddarllen yr ymateb llawn ar ein tudalen we ymatebion i ymgynghoriadau.