gan Russell Grigg, Cyfarwyddwr TAR Cynradd, Prifysgol Abertawe
Mae adroddiad blynyddol 2024-25 Estyn yn amlygu bod hunanwerthuso yn her ar draws AGA yng Nghymru. Dyma fu’r achos ers blynyddoedd lawer. Un rheswm allweddol yw bod y data cyson, o ansawdd uchel, a ddylai fod yn sylfaen i hunanwerthuso effeithiol sydd ar gael, yn brin. Ond mae rhywfaint o newyddion da. Mae gennym offeryn yn barod sy’n cynnig ffynhonnell gyffredin, system gyfan, o dystiolaeth i feithrin ein dealltwriaeth o beth sy’n gweithio’n dda a beth y mae angen ei gryfhau: y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Mae’r blog hwn yn dangos pam mae gan y PDP botensial sylweddol, heb ei gyffwrdd, i gefnogi ymagwedd fwy dibynadwy, wedi’i llywio gan dystiolaeth, at hunanwerthuso ar draws AGA.
Y PDP: mwy grymus nag y mae’n ymddangos i ddechrau
Y PDP yw platfform digidol cyntaf Cymru ar gyfer cofnodi, trefnu a myfyrio ar ddysgu proffesiynol. I athrawon dan hyfforddiant, mae’n cynnig man diogel i lanlwytho tystiolaeth o’u cynnydd tuag at fodloni safonau Statws Athro Cymwysedig (SAC). Yn ein rhaglen TAR Cynradd ym Mhartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe, rydym wedi bod yn archwilio’r defnydd o ddata’r PDP i ennill cipolwg cliriach i gynnydd athrawon dan hyfforddiant a pha mor dda maen nhw’n cael eu cefnogi gan fentoriaid.
I wneud hyn, rydym yn edrych yn fanylach ar yr hyn sydd y tu cefn i’r PDP. Yn dawel bach, mae’r gweithlyfr yn storio gwybodaeth ychwanegol sy’n cael ei lanlwytho gan ddefnyddwyr. O’i ddadansoddi’n ofalus, mae’r data hwn yn rhoi golwg fanwl i ni o sut mae prosesau ein partneriaeth yn gweithio yn ymarferol. Gan gydnabod y potensial hwn, rydym yn defnyddio data’r PDP yn fwy fforensig i gefnogi gwerthuso ar lefel rhaglen.
Sut gallwn ni ddefnyddio’r data: dull cam wrth gam syml
-
Dewis ffocws gwella
Ein man cychwyn yw dewis maes o’n cynllun gwella. Oherwydd bod cysondeb ansawdd mentora yn flaenoriaeth strategol, eleni, rydym wedi canolbwyntio ar y targedau ffurfiannol y mae mentoriaid yn eu gosod i athrawon dan hyfforddiant ar ôl arsylwi eu gwersi. Roeddem yn amau bod ansawdd y targedau hyn yn amrywio, ond roedd angen tystiolaeth gliriach arnom o’r patrwm: pwy oedd yn ei chael hi’n gywir, ble’r oedd y bylchau, a ble dylid targedu cymorth.
-
Lawrlwytho’r templed perthnasol
Er bod mentoriaid yn gosod targedau mewn cyd-destunau gwahanol, mae ein dadansoddiad yn canolbwyntio ar gofnodion ffurfiol arsylwadau gwersi, yr ydym yn eu lawrlwytho ar ffurf ffeiliau CSV o’r gweithlyfr.

Ffigur 1. Gweithlyfr yn y Pasbort Dysgu Proffesiynol.
-
Defnyddio Microsoft Copilot i ddadansoddi’n gyflym
Yna, byddwn yn lanlwytho’r ffeiliau CSV i Microsoft Copilot ac yn defnyddio ysgogiad syml fel: “Dadansoddwch y targedau yng ngholofn AD yn y ffeil atodedig.” Yn ôl yr arfer wrth ddefnyddio AI cynhyrchiol, rydym yn trin y dadansoddiad gyda gofal, gan wybod bod angen gwirio cywirdeb yr allbynnau. Rydym yn gwirio synnwyr y canlyniadau trwy gynnal yr ymholiad eto gyda geiriad mymryn yn wahanol, gan gymharu’r enghreifftiau gyda’r data crai a gwirio nad oes unrhyw anghysondebau (‘rhithweledigaethau’) yn ymddangos. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y dadansoddiad mor ddibynadwy â phosibl.
-
Archwilio’r data yn fanylach
Yn dibynnu ar ein hymholiad, rydym yn defnyddio ysgogiadau ychwanegol i dyrchu’n fanylach i’r data, gan archwilio amrywiadau posibl ar draws rhwydweithiau, lleoliadau ac ysgolion unigol. Er enghraifft, rydym yn edrych ar gymharu targedau mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg. Hefyd, nodwn y targedau mwyaf cyffredin sy’n cael eu gosod i athrawon dan hyfforddiant fel y gallwn sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n dda ar gyfer y lleoliad nesaf.
-
Defnyddio’r canfyddiadau i fireinio ymarfer
Mae’r cipolygon hyn yn ein helpu i lunio sesiynau yn y brifysgol ar gyfer y lleoliad nesaf, fel ein bod yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion o bwys. Hefyd, rydym yn defnyddio’r canfyddiadau wrth gynllunio a chynnal sesiynau datblygu mentoriaid ac yn diweddaru ein canllawiau i fentoriaid. Rydym yn creu crynodebau o’r data (Ffigur 2) ac yn cynhyrchu adroddiadau byr fel y gall arweinwyr y rhwydwaith ysgolion ddefnyddio’r wybodaeth i lywio trafodaethau mentoriaid o fewn eu rhwydweithiau er mwyn cyflawni ein nod, sef codi safon mentora.

Ffigur 2. Crynodeb gweledol o’r data ar osod targedau i athrawon dan hyfforddiant gan fentoriaid
-
Diweddaru ein cynllun gwella rhaglenni
Mae ein cynllun gwella rhaglenni yn ddalen Excel syml sy’n gofnod treigl o benderfyniadau sy’n gysylltiedig â’n hamcanion strategol. Mae’n angori ein cyfarfodydd tîm, gan ein helpu i ddefnyddio data’r PDP i weld beth sy’n gweithio, nodi cwestiynau heb eu hateb a chytuno ar ein camau nesaf.
Gwerth y PDP
Pan gaiff ei ddefnyddio’n dda, mae’r PDP yn darparu rhywbeth sy’n brin ym maes AGA: tystiolaeth gyson, mewn amser real, gan bob myfyriwr yn y garfan. Hefyd, mae’n tynnu ein sylw at broblemau a allai ddigwydd heb i neb sylwi arnynt. Er enghraifft, dro ar ôl tro, roedd nifer o fyfyrwyr yn ysgrifennu ymyriadau dysgu yn canolbwyntio ar dasg (e.e., ‘Creu glôb eira’, ‘Ysgrifennu e-bost i Amazon’). Roedd y datganiadau hyn yn disgrifio beth fyddai disgyblion yn ei wneud, yn hytrach na beth fydden nhw’n ei ddysgu. Roedd adnabod hyn yn gynnar yn golygu y gallem ddarparu cymorth targedig a chryfhau eu hymagwedd at gynllunio.
Yr un mor bwysig, mae’r PDP yn ein helpu i weld patrymau ar lefel carfan. Er enghraifft, fe wnaeth data oriau addysgu ganiatáu i ni gynhyrchu map gwres o’r pum wythnos gyntaf ar leoliad (Ffigur 3). Roedd yr amrywiad ymddangosiadol yn bryder i ddechrau. Serch hynny, fe wnaeth archwilio manylach ddangos bod llawer o fylchau wedi’u hachosi am nad oedd myfyrwyr yn cofnodi eu horiau fel y dylent. Fe wnaeth neges atgoffa fer gywiro hyn a gwella monitro wedi hynny.

Ffigur 3. Deholiad o Fap Gwres o amser addysgu athrawon dan hyfforddiant. Mae pob rhes yn cynrychioli oriau addysgu athro dan hyfforddiant.
Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut mae data’r PDP yn ein helpu i nodi problemau unigol a phroblemau ehangach, gan alluogi gwella’n gynt ac yn fwy cywir. Wrth gwrs, mae ansawdd ein dadansoddiad yn dibynnu’n llwyr ar yr hyn sy’n cael ei lanlwytho: mae mewnbwn cadarn yn arwain at gipolygon cadarn; nid felly yn achos mewnbwn gwan.
Casgliad
Rydym yn cydnabod nad yw data’r PDP yn adrodd y stori’n llawn. Er enghraifft, mewn meysydd fel gosod targedau, mae rhai mentoriaid yn rhoi adborth rhagorol ar lafar nad yw’n cael ei ddal yn y cofnod ysgrifenedig. Am y rheswm hwn, defnyddiwn ddata’r PDP fel man cychwyn ar gyfer deialog, nid fel mesur pendant o ansawdd. Serch hynny, mae’r PDP yn dwyn cydlyniad i system bartneriaeth gymhleth ac mae’n ein helpu i weld patrymau a fyddai’n aros yn gudd, fel arfer. Ar gyfer ein rhaglen, mae eisoes yn ail-lunio sut rydym yn deall cynnydd, sut rydym yn cefnogi mentoriaid a sut rydym yn cynllunio gwelliannau. Mewn sector lle mae hunanwerthuso wedi bod yn her ers tro, mae’r PDP yn cynnig llwybr realistig a chynaliadwy i hunanwerthuso cryfach ac, yn y pen draw, at gefnogaeth well i’n hathrawon dan hyfforddiant a’n hysgolion partner.
