Yn ein blog diweddaraf, mae cydweithwyr o PMAC yn archwilio pam mae niwrwahaniaeth yn bwysig ar ddwy ochr addysg, ac yn archwilio ffyrdd ymarferol y gallwn wneud dysgu a gweithio yn fwy hygyrch.
Niwrowahaniaeth mewn Addysg: cefnogi'r bobl sy'n dysgu a'r bobl sy'n addysgu
Dychmygwch eich bod yn gwybod yr ateb ond yn cael trafferth ei esbonio. Neu’n treulio trwy'r dydd yn cefnogi eraill tra'n brwydro’n dawel yn erbyn amgylchedd sy'n llethu eich egni. I lawer o ddysgwyr ac ymarferwyr addysg niwrowahanol, dyma eu bywyd bob dydd.
Yn ffodus, gall addasiadau bach, ymarferol wneud dysgu a gweithio yn fwy hygyrch. Trwy ddeall niwrowahaniaeth, gallwn adnabod rhwystrau cudd, cefnogi anghenion gwahanol a chreu amgylcheddau addysg mwy cynhwysol.
Felly, sut olwg sydd ar hyn yn ymarferol, a sut y gall mwy o ymwybyddiaeth helpu pawb i ffynnu?
Gadewch i ni archwilio ymhellach.
Pam mae niwrowahaniaeth yn bwysig ar ddwy ochr addysg
Meddyliwch am faint o ymdrech y gall ei gymryd i fynd trwy ddiwrnod pan nad yw'ch amgylchedd yn gweithio i chi. Efallai eich bod chi'n ceisio dilyn gwers tra bod pobl yn siarad o'ch cwmpas, neu ddod o hyd i'r geiriau cywir pan fydd cydweithiwr yn gofyn cwestiwn i chi mewn ystafell staff brysur.
Nawr, dychmygwch wynebu'r heriau hyn bob dydd wrth geisio dysgu, addysgu neu gefnogi eraill.
Ar gyfer pobl niwrowahanol, gall ffyrdd gwahanol o brosesu gwybodaeth a phrofi'r byd siapio profiadau bob dydd mewn ffyrdd nad ydynt bob amser yn amlwg i'r rheiny o'u cwmpas. Gallai hyn effeithio ar sut mae rhywun yn:
- Prosesu gwybodaeth: Gall dysgwr ei chael hi'n anodd dilyn sawl cyfarwyddyd llafar ar unwaith. Efallai y bydd darlithydd yn ei chael hi'n anodd newid yn gyflym rhwng addysgu, ateb cwestiynau a rheoli tasgau gweinyddol.
- Profi eu hamgylchedd: Gall sŵn cefndir mewn ystafell ddosbarth brysur, goleuadau llachar mewn gofod dysgu neu weithgarwch cyson canolfan ieuenctid wneud canolbwyntio'n anoddach i rai pobl.
- Cyfathrebu a chysylltu: Efallai y bydd angen amser ychwanegol ar ddysgwr i ateb cwestiwn yn y dosbarth, tra gall gweithiwr ieuenctid weld trafodaethau tîm anstrwythuredig neu ddisgwyliadau cymdeithasol penodol yn hynod llethol.
- Trefnu tasgau a rheoli newid: Gallai newid ystafell yn annisgwyl aflonyddu dysgwr sy'n dibynnu ar drefn. Yn yr un modd, gall cynorthwy-ydd addysgu sy’n jyglo ceisiadau cystadleuol gael trafferth pan fydd blaenoriaethau’n newid heb rybudd.
Pan fyddwn yn anwybyddu'r gwahaniaethau hyn, mae'n hawdd camgymryd anhawster dysgwr i ddechrau tasg am ddiffyg cymhelliant. Neu angen cydweithiwr am gyfarwyddiadau ysgrifenedig am anallu i wneud eu gwaith. Nid yw'r naill na'r llall yn dweud y stori lawn wrthym.
Yn hytrach na gwneud rhagdybiaethau am ymddygiad neu alluoedd rhywun, gallwn ofyn cwestiwn mwy defnyddiol: Beth gallai fod ei angen ar y person hwn i ddysgu, cyfrannu neu wneud ei waith gorau? Mae'r newid hwnnw mewn persbectif yn gam cyntaf ystyrlon tuag at amgylchedd addysg mwy cynhwysol.
Addasiadau bach sy'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon
Y lle gorau i ddechrau yw gwrando ar y bobl sy’n cael eu heffeithio. Mae anghenion pawb yn wahanol, ond dyma rai newidiadau ymarferol y gall ymarferwyr addysg eu hystyried.
Gwneud cyfarwyddiadau'n glir ac yn rhagweladwy
Pan fydd rhywun yn gorfod cofio sawl cyfarwyddyd llafar ar unwaith, mae'n hawdd i fanylion pwysig fynd ar goll. Ceisiwch rannu tasgau yn gamau hawdd, rhannu cyfarwyddiadau ysgrifenedig a rhoi amser i bobl brosesu'r hyn a ddisgwylir.
Er enghraifft, gallai gweithiwr ieuenctid rannu'r cynllun ar gyfer sesiwn ymlaen llaw, tra gallai darlithydd ddilyn cyfarfod gyda chrynodeb o'r camau y cytunwyd arnynt.
Lleihau pwysau synhwyraidd diangen
Gall ystafelloedd dosbarth prysur, coridorau swnllyd ac ystafelloedd wedi'u goleuo'n llachar wneud canolbwyntio'n anoddach i rai pobl niwrowahanol. Lle bo'n bosibl, ystyriwch ardaloedd gwaith tawelach, trefniadau eistedd hyblyg neu fynediad i ofod llai ysgogol.
Gall y newidiadau hyn fod o fudd i staff, hefyd. Efallai y bydd ymarferydd sy'n gweld yr ystafell staff yn llethol yn gwerthfawrogi lle tawelach i gwblhau tasgau â ffocws.
Cynnig ffyrdd gwahanol i gymryd rhan
Nid yw pawb yn teimlo'n gyfforddus yn meddwl ar goedd, ateb cwestiynau ar unwaith neu siarad o flaen grŵp. Rhowch amser i bobl brosesu gwybodaeth, a lle bo'n briodol, cynnig dewisiadau amgen fel ymatebion ysgrifenedig, trafodaethau pâr neu gyfleoedd i gyfrannu ar ôl sesiwn.
Er enghraifft, gallai tiwtor addysg bellach wahodd dysgwyr i gyflwyno cwestiynau yn ysgrifenedig cyn trafodaeth. Yn ystod cyfarfodydd tîm, gallai cydweithwyr hefyd rannu syniadau trwy e-bost yn ddiweddarach yn hytrach na gorfod ymateb yn y fan a'r lle.
Adeiladu hyblygrwydd i mewn i arferion bob dydd
Gall newidiadau annisgwyl fod yn anodd eu rheoli, yn enwedig pan fydd rhywun yn dibynnu ar arferion rhagweladwy i drefnu eu diwrnod. Gall rhannu newidiadau amserlen cyn gynted â phosibl, defnyddio calendrau a rhestrau gwirio, a rhannu tasgau mwy yn gamau llai helpu pobl i deimlo'n fwy parod.
Gallai ysgol arddangos amserlen y dydd ac amlygu newidiadau’n glir. Yn y cyfamser, gallai rheolwr roi rhybudd ymlaen llaw o gyfarfodydd staff ac anfon agendâu ymlaen llaw.
Ni fydd yr addasiadau hyn yn addas i bawb, ac ni fyddant yn dileu pob rhwystr. Dyna pam mae'n werth gofyn i bobl beth fyddai'n helpu yn hytrach na chymryd yn ganiataol ein bod eisoes yn gwybod. Gall sgwrs syml ddatgelu ateb ymarferol a allai fod wedi cael ei anwybyddu, fel arall.
Gwneud cynhwysiant yn rhan o addysg bob dydd
Mae pob dysgwr ac ymarferydd addysg yn haeddu amgylchedd lle gallant gyfrannu heb wario egni diangen yn gweithio o gwmpas rhwystrau nad yw eraill hyd yn oed yn sylwi arnynt. Yn aml, mae creu'r amgylchedd hwnnw'n dechrau gyda rhywbeth syml: gwrando, parhau’n chwilfrydig a bod yn barod i fynd i'r afael â phethau'n wahanol.
Gall hyfforddiant ymwybyddiaeth niwrowahaniaeth helpu gweithwyr proffesiynol addysg i adnabod y rhwystrau hyn a theimlo'n fwy hyderus wrth ymateb i anghenion gwahanol. Fodd bynnag, mae newid parhaol hefyd yn dibynnu ar greu diwylliant lle mae pobl yn teimlo'n gyfforddus yn gofyn am gefnogaeth a thrafod beth sy'n gweithio iddyn nhw.
P'un a ydych chi'n cefnogi dysgwr, yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr neu'n arwain tîm, ystyriwch un newid bach y gallech ei wneud yr wythnos hon. Weithiau, gall ychydig mwy o ddealltwriaeth wneud gwahaniaeth ystyrlon i brofiad rhywun o addysg.
