CGA / EWC

About us banner
Arweinyddiaeth, proffesiynoldeb, ac ymddiriedaeth y cyhoedd: beth mae’r Cod yn ei olygu i arweinwyr mewn addysg
Arweinyddiaeth, proffesiynoldeb, ac ymddiriedaeth y cyhoedd: beth mae’r Cod yn ei olygu i arweinwyr mewn addysg

Mae arweinyddiaeth mewn addysg yn cario pwysau unigryw o ran cyfrifoldeb. Mae arweinwyr yn creu diwylliant, yn gosod disgwyliadau, ac yn chwarae rhan ganolog mewn diogelu dysgwyr a phobl ifanc. Boed yn gweithio mewn rolau arweinyddiaeth uwch neu ganol, mae’r cyfrifoldebau hynny’n ymestyn ymhell y tu hwnt i wneud penderfyniadau gweithredol. Maent yn ganolog i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Felly, mae’n hanfodol eich bod chi, fel arweinydd, yn glir ynghylch y disgwyliadau proffesiynol a roddir arnoch chi. Dyma ble mae’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) yn chwarae rhan hanfodol.

Arweinyddiaeth a’r Cod

Mae’r Cod yn nodi’r egwyddorion allweddol y disgwylir i bob cofrestrai CGA eu cynnal. I arweinwyr, mae’r disgwyliadau hyn yn arbennig o arwyddocaol. Mae dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, cydweithwyr, a’r cyhoedd ehangach, yn edrych arnoch chi fel modelau rôl.

Mae pedwaredd egwyddor y Cod, Arweinyddiaeth, yn ei gwneud yn glir bod rhaid i gofrestreion sydd â chyfrifoldebau arweinyddiaeth a rheolaeth:

  • ymgorffori’r Cod ac arwain trwy esiampl
  • hyrwyddo diwylliant sefydliadol cadarnhaol o barch, unplygrwydd, atebolrwydd, a phroffesiynoldeb
  • rheoli staff, adnoddau a risg yn effeithiol, gan sicrhau cymorth, hyfforddiant, a goruchwyliaeth briodol
  • bod yn atebol am benderfyniadau ac am ddirprwyo tasgau

Mae’r disgwyliadau hyn yn berthnasol ar draws pob lleoliad a phob sector o’r gweithlu addysg.

Deall risg ac atebolrwydd

Gall hyd yn oed yr arweinwyr mwyaf profiadol a myfyriol, ar adegau, wneud camgymeriadau neu gamfarnau. Gan dynnu ar ein profiad o reoleiddio, rydym yn gwybod bod problemau’n codi, fel arfer, nid oherwydd diffyg ymrwymiad, ond wrth fethu cydnabod risg yn gynnar, wrth fethu dilyn gweithdrefnau sefydledig, neu wrth fethu gweithredu’n bendant pan mae pryderon yn codi.

Mae themâu cyffredin a welwn yn ein gwaith achos sy’n ymwneud ag arweinwyr yn cynnwys:

  • camreoli ariannol
  • methiannau mewn llywodraethu ac atebolrwydd
  • camddefnyddio pŵer, a ffiniau proffesiynol aneglur
  • methiannau diogelu neu risgiau iechyd a diogelwch heb eu rheoli
  • anonestrwydd neu ddiffyg tryloywder

Mae ymwybyddiaeth o’r risgiau hyn yn helpu arweinwyr i warchod dysgwyr a phobl ifanc, i gefnogi staff, a diogelu eu henw da proffesiynol eu hunain.

Gweithredu’n gynnar a cheisio cymorth

Mae’r Cod yn ei gwneud yn glir y gall diffyg gweithredu ynddo’i hun osod cofrestrai mewn sefyllfa lle mae’n torri disgwyliadau proffesiynol. Anogir arweinwyr i weithredu’n gynnar pan mae problemau’n codi, i fod yn onest am yr hyn sydd wedi digwydd, ac i gymryd cyfrifoldeb, lle bo angen.

Gall ceisio cyngor neu gymorth proffesiynol, boed gan undeb llafur, mentor, rhwydwaith proffesiynol, neu uwch arweinydd arall, fod yn gam pwysig i ddatrys sefyllfaoedd yn briodol. Mae myfyrio, dysgu ac atebolrwydd i gyd yn hanfodol ar gyfer cynnal uniondeb proffesiynol.

Mewn rhai amgylchiadau, gall hunangyfeirio at CGA fod yn briodol, ac yn arwydd o broffesiynoldeb a chyfrifoldeb.

Cymorth ychwanegol

Mae arweinyddiaeth yn chwarae rhan ganolog mewn creu amgylcheddau dysgu diogel, parchus a phroffesiynol. Wrth ddeall a chymhwyso’r Cod, mae arweinwyr yn helpu i sicrhau bod ymddiriedaeth, uniondeb ac atebolrwydd yn parhau i fod wrth wraidd addysg yng Nghymru.

I gefnogi hyn, rydym yn cynnig cyflwyniadau sy’n canolbwyntio ar nifer o feysydd gan gynnwys y Cod. Gellir eu cyflwyno ar-lein neu yn eich gweithle, ac maent wedi’u cynllunio i helpu arweinwyr a staff i ddeall yn well y disgwyliadau sydd arnynt, a sut i’w cymhwyso’n ymarferol.

Yn ogystal, gall unigolion gael cymorth gan Dysgu, sef y corff newydd sy’n gyfrifol am ddysgu proffesiynol cenedlaethol ac arweinyddiaeth mewn addysg ledled Cymru.

Cenhadaeth Dysgu yw sicrhau bod pob addysgwr yng Nghymru yn cael eu cefnogi i ffynnu, arwain gyda hygrededd, a chreu amodau lle bo pob dysgwr yn gallu llwyddo. Mae ei rôl yn darparu cyfleoedd cydlynol, o ansawdd uchel ar gyfer dysgu proffesiynol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol a realiti ymarfer. Ar gyfer arweinwyr, gall hyn gynnwys cefnogaeth ar bob cam o'r siwrnai arweinyddiaeth, o ddatblygiad arweinyddiaeth gynnar, i'r  Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) yng Nghymru, yn ogystal â dysgu proffesiynol parhau sy'n canolbwyntio ar feysydd fel ADY, lles, llythrennedd, a rhifedd. Maent yn gweithio'n agos gydag ysgolion, lleoliadau, a phartneriaid lleol a chenedlaethol i sicrhau bod arweinwyr yn gallu cael mynediad i raglenni a hysbysir gan dystiolaeth, adnoddau dwyieithog, a rhwydweithiau proffesiynol sy'n eu helpu i lywio gofynion cymhleth arweinyddiaeth.