CGA / EWC

About us banner
Hunaneffeithiolrwydd: Atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru
Hunaneffeithiolrwydd: Atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru

Gan Nick Hudd

Fel sy’n wir mewn llawer o rannau eraill o’r byd, mae digartrefedd ymysg pobl ifanc yn bryder cynyddol yma yng Nghymru, sy’n gwneud yr angen am ymyriadau effeithiol yn bwysicach fyth. Mae’r sector gwaith ieuenctid yn cael rôl amlycach gan Lywodraeth Cymru, yn hyn o beth, ac mae fframwaith clir o gymorth ac ymyriadau wedi datblygu. Un o’r strategaethau a ddefnyddir i helpu atal digartrefedd ymysg pobl ifanc yw darpariaeth rhaglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA), sydd wedi’u cyd-ddylunio a’u hwyluso mewn partneriaeth â phobl sydd â phrofiad uniongyrchol, yn y gymdeithas gyfoes, o’r heriau sy’n codi wrth bontio o ddibyniaeth i annibyniaeth. Mewn cyfnod byr, mae’r rhaglenni hyn wedi dod yn offeryn hanfodol i gynorthwyo’r daith i fyd oedolion, gan baratoi pobl ifanc â’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer reoli eu harian, dod o hyd i lety priodol a’i gynnal, cael mynediad at wasanaethau cymorth, a meithrin gwydnwch personol. Fodd bynnag, fel y bu’n broblem oesol mewn ymarfer gwaith ieuenctid, mae mesur effeithiolrwydd yn anodd, weithiau, ond mae’n hanfodol er mwyn sicrhau bod rhaglenni o’r fath yn helpu pobl ifanc yn wirioneddol.

Beth yw hunaneffeithiolrwydd?

Mae hunaneffeithiolrwydd, sef term a fathwyd gan y seicolegydd Albert Bandura, yn cyfeirio at gred unigolyn yn ei allu i gyflawni nodau penodol neu reoli sefyllfaoedd yn effeithiol. Mae’n ffactor allweddol yn natblygiad personol unigolyn, gan ei fod yn dylanwadu ar gymhelliant a gwydnwch. Yng nghyd-destun byw’n annibynnol, gall hunaneffeithiolrwydd gyfeirio at hyder person ifanc yn ei allu ei hun i arfer sgiliau bywyd allweddol fel cyllidebu, coginio, ymgeisio am swyddi, neu lywio’r farchnad dai, a gwasanaethau cymorth cysylltiedig.

Yn achos pobl ifanc sydd wedi profi rhai o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at ddigartrefedd, megis teulu wedi chwalu, camdriniaeth, neu broblemau iechyd meddwl, gall meithrin hunaneffeithiolrwydd cadarn fod yn allweddol i’w helpu i gymryd rheolaeth ar eu bywydau ac osgoi digartrefedd. O ganlyniad, gall mesur hunaneffeithiolrwydd roi dealltwriaeth werthfawr o ba mor dda y mae rhaglenni datblygu sgiliau yn cefnogi twf a datblygiad person ifanc yn y meysydd hyn.

Holiaduron hunaneffeithiolrwydd

Mae holiaduron hunaneffeithiolrwydd yn offer strwythuredig a ddefnyddir i asesu hyder unigolyn yn ei allu i gyflawni ystod o dasgau neu gyrraedd nodau penodol. Gall yr holiaduron hyn fesur agweddau gwahanol ar hunaneffeithiolrwydd, fel rheoleiddio emosiynol neu sgiliau rhyngbersonol. Wrth ddefnyddio’r offer hyn, gall gweithwyr ieuenctid olrhain sut mae pobl ifanc yn gweld eu galluoedd eu hunain dros gyfnod o amser.

  1. Olrhain cynnydd dros gyfnod o amser: Gall holiaduron hunaneffeithiolrwydd fod yn offer adeiladol ar gyfer olrhain cynnydd person ifanc trwy gydol rhaglen SBA. Wrth weinyddu’r holiadur ar ddechrau, canol a diwedd y rhaglen, gall gweithwyr ieuenctid gymharu sgorau er mwyn asesu gwelliannau mewn hunaneffeithiolrwydd. Er enghraifft, os yw person ifanc yn dweud bod ganddynt fwy o hyder ynghylch datrys problemau neu drafod ag eraill erbyn diwedd y rhaglen, gellir ystyried hyn yn llwyddiant.
  2. Addasu ymyriadau ar gyfer anghenion unigol: Gall holiaduron hunaneffeithiolrwydd helpu gweithwyr ieuenctid i nodi meysydd lle gallai fod angen cymorth ychwanegol ar bobl ifanc benodol. Os bydd holiadur yn datgelu bod cyfranogwr yn teimlo’n llai hyderus mewn meysydd penodol, gall gweithwyr ieuenctid addasu ymyriadau i fynd i’r afael â’r meysydd hyn yn fwy effeithiol. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod y rhaglen SBA yn bodloni anghenion unigryw pob cyfranogwr.
  3. Meithrin myfyrdod personol: Mae defnyddio holiaduron hunaneffeithiolrwydd yn annog pobl ifanc i fyfyrio ar eu galluoedd a’u cynnydd eu hunain. Mae’r hunanfyfyrio hwn yn elfen bwysig o ddatblygiad personol gan ei fod yn galluogi pobl ifanc i asesu eu cryfderau a’u heriau eu hunain. Gall ymwybyddiaeth gynyddol o’u hunaneffeithiolrwydd ysgogi pobl ifanc i gymryd camau rhagweithiol tuag at eu nodau a’u targedau.

Y berthynas rhwng hunaneffeithiolrwydd ac atal digartrefedd ymysg pobl ifanc

Mae’r berthynas rhwng hunaneffeithiolrwydd ac atal digartrefedd ymysg pobl ifanc wedi’i hen sefydlu. Mae’n bosibl bod pobl ifanc â hunaneffeithiolrwydd isel yn ei chael hi’n anodd ymdopi ag annibyniaeth, a gallant fod yn fwy tebygol o brofi digartrefedd oherwydd heriau wrth reoli bywyd o ddydd i ddydd. Er enghraifft, mae’n bosibl nad oes ganddynt yr hyder i geisio cymorth, pan fo angen, neu efallai eu bod yn wynebu anawsterau wrth reoli cytundeb rhentu neu gadw swydd. Ar y llaw arall, mae’r sawl sydd â hunaneffeithiolrwydd uchel yn fwy tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau cymorth, a gweithredu ar unrhyw hyfforddiant sgiliau annibynnol, a chynnal amgylchiadau byw sefydlog. Wrth fesur, gwella’n rhagweithiol, ac olrhain hunaneffeithiolrwydd, gall rhaglenni SBA roi’r gred i bobl ifanc y gallant lwyddo mewn amgylcheddau byw’n annibynnol, ac mae hyn, yn ei dro, yn helpu i osgoi digartrefedd.

Er y gall holiaduron hunaneffeithiolrwydd fod yn offer pwerus wrth fesur llwyddiant rhaglenni SBA, mae rhai ystyriaethau i’w cadw mewn cof:

  • sensitifrwydd diwylliannol a chymdeithasol: Gall amrywiaeth o ffactorau ddylanwadu ar hunaneffeithiolrwydd, gan gynnwys cefndir diwylliannol, amgylchedd cymdeithasol, a phrofiadau blaenorol. Mae’n bwysig bod gweithwyr ieuenctid yn ystyried y ffactorau hyn wrth ddehongli canlyniadau holiadur, a sicrhau nad ydynt yn camddehongli ymatebion person ifanc ar sail eu cefndir neu eu hamgylchiadau yn unig.
  • dyluniad holiaduron: Mae’n hanfodol bod yr holiaduron hunaneffeithiolrwydd a ddefnyddir yn cael eu dylunio’n ofalus i adlewyrchu’r heriau penodol a wynebir gan bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Rhaid i’r cwestiynau fod yn glir, yn berthnasol, ac yn addas i oedran er mwyn sicrhau canlyniadau cywir.
  • ymgysylltu â phobl ifanc: Gall rhai pobl ifanc fod yn betrusgar ynghylch cymryd rhan mewn asesiadau hunaneffeithiolrwydd, yn enwedig os ydynt yn teimlo y bydd eu hymatebion yn cael eu barnu. Mae’n bwysig bod gweithwyr ieuenctid yn creu amgylchedd diogel, cefnogol lle mae pobl ifanc yn teimlo’n gysurus i fynegi eu meddyliau a’u profiadau.

Casgliad

Mae holiaduron hunaneffeithiolrwydd yn cynnig dull gwerthfawr o asesu effeithiolrwydd rhaglenni sgiliau byw’n annibynnol sydd â’r nod o atal digartrefedd ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Wrth fesur newidiadau yn hyder person ifanc ar draws meysydd allweddol megis rheoli tai, annibyniaeth ariannol, a gwydnwch emosiynol, mae’r offer hyn yn rhoi dealltwriaeth hanfodol o lwyddiant ymyriadau. Wrth ddefnyddio holiaduron hunaneffeithiolrwydd ar y cyd â chymorth pwrpasol ac ymyriadau wedi’u targedu, gall gweithwyr ieuenctid rymuso pobl ifanc i ddatblygu’r hyder sydd ei angen arnynt i fyw’n annibynnol ac osgoi’r risg o ddigartrefedd.

Yn y pen draw, mae’r offer hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth dorri’r cylch digartrefedd a chynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu dyfodol disglair, annibynnol.