CGA / EWC

About us banner
Gwaith ieuenctid a llesiant - Tim Opie a Darrel Williams
Gwaith ieuenctid a llesiant - Tim Opie a Darrel Williams

Gwaith ieuenctid a llesiant

Yn eu blog diweddaraf i CGA, mae Tim a Darrel yn trafod y ffordd mae gwaith ieuenctid yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol ac ymddiriedus a all ddarparu sylfaen i wella llesiant trwy fod yn sail i bum piler gwaith ieuenctid – mynegiannol, addysgol, cyfranogol, grymusol a chynhwysol.

Gan Tim Opie (Swyddog Polisi Dysgu Gydol Oes (Ieuenctid), Cymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru, a Darrel Williams (Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant).


Gwir fesur rhuddin cenedl yw i ba raddau y mae’n gofalu am ei phlant – am eu hiechyd a’u diogelwch, eu sicrwydd materol, eu haddysg a’u cymdeithasu, a’u hymdeimlad eu bod yn cael eu caru, eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yn y teuluoedd a’r cymdeithasau y’u ganwyd iddynt.
UNICEF (2007)

Trwy ei berthynas wirfoddol gyda phobl ifanc 11-25 oed, prif ddiben gwaith ieuenctid yw galluogi pobl ifanc i ddatblygu’n gyfannol, gan weithio gyda nhw i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, i’w galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle mewn cymdeithas, a chyflawni eu llawn botensial (Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid).

Mae llawer o resymau pam y bydd person ifanc yn ymgysylltu â gwaith ieuenctid - perthynas sy’n cael ei harwain gan y person ifanc fel y’i diffinnir gan yr anghenion a’r blaenoriaethau a nodir ganddo. Un o’r rhain yw’r ffordd y gall gweithwyr ieuenctid ymyrryd yn gynnar ac atal problemau o ran iechyd meddwl a llesiant emosiynol negyddol trwy ddefnyddio dull anghlinigol seiliedig ar berthynas.

Mae’r Sefydliad Economeg Newydd, ymysg eraill, yn gwerthfawrogi llesiant fel cysyniad pwysig , gan nodi pum nodwedd bwysig sy’n meithrin llesiant - 1. ‘cysylltu’ â phobl o’n cwmpas; 2. bod yn gorfforol egnïol; 3. cymryd sylw o bethau a bod yn chwilfrydig; 4. parhau i ddysgu am fywyd, ac yn olaf 5. rhoi rhywbeth yn ôl, cyfrannu rhywbeth at bobl eraill (NEF, 2008) - mae’r rhain oll yn werthoedd sy’n sail i’r cynnig gwaith ieuenctid i’n pobl ifanc.

Cyn effeithiau dinistriol y pandemig, roedd effaith cyni a’r sefyllfa economaidd anodd yng Nghymru eisoes yn effeithio’n anghymesur ar bobl ifanc Cymru. Gan gymhlethu’r sefyllfa hon ym fwy byth, cafwyd bod plant Cymru wedi gwneud yn waeth, ar gyfartaledd, na’u cyfoedion yn yr Alban a Lloegr o dan y chwe chanlyniad llesiant (Pedace, dim dyddiad). Rwyf eisiau defnyddio’r blog hwn fel cyfle i ystyried rhai o’r problemau presennol sy’n effeithio ar iechyd a llesiant pobl ifanc a sut y gallai gwaith ieuenctid ymateb.

Beth yw goblygiadau’r pandemig a chyni i bobl ifanc?

Mae'r Fforwm Ieuenctid Ewropeaidd wedi nodi nad oes darpariaeth ddigonol wedi’i gwneud ar gyfer pobl ifanc, ac er eu bod wedi’u haddysgu a’u hysgogi’n well na chenedlaethau blaenorol, maen nhw’n wynebu rhwystrau strwythurol, yn enwedig wrth gyrraedd yr adeg o fynd i mewn i’r farchnad lafur. Mae ar lawer ohonyn nhw angen cymorth ychwanegol er mwyn bod â’r offer i fyw bywyd da, yn barod ar gyfer gwaith a phleserau a heriau bywyd.

Hyd yn oed o edrych ar ddeilliannau addysg ffurfiol, nid yw pobl ifanc yng Nghymru mewn sefyllfa gref o gymharu â phobl ifanc ar draws y byd datblygedig. Er y gwelwyd rhywfaint o gynnydd yn ddiweddar, mae canlyniadau PISA 2018 yn dangos bod sgôr darllen Cymru (483) heb newid ers 2006, gyda 22 o wledydd o’i blaen (o gymharu â 30 yn 2015). Perfformiodd 23 o wledydd yn well na Chymru ym maes mathemateg, a pherfformiodd 19 o wledydd yn well ym maes Gwyddoniaeth (Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)). Canfu’r astudiaeth hefyd fod disgyblion yn holl wledydd y Deyrnas Unedig yn llai bodlon ar eu bywydau na disgyblion yng ngwledydd eraill yr OECD. A bod gan ddisgyblion yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddisgwyliadau is o’u lefel uchaf o addysg na disgyblion ar draws gwledydd yr OECD (t. 173). Felly, er y gwaith enfawr i ddiwygio addysg sydd ar y gweill, gallwn weld nad yw pobl ifanc yng Nghymru’n cyflawni’r deilliannau o addysg ffurfiol a fydd yn galluogi’r wlad i wella’n fawr ei safle ar restr llwyddiant yr OECD, yn anffodus. Gallai canlyniadau hyn gynnwys parhad yn y diffyg twf mewn cyfleoedd swydd ac ansawdd bywyd ar gyfer pobl ifanc.

Beth all gwaith ieuenctid ei wneud i gyfyngu ar rai o’r problemau hyn ac i wella llesiant?

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn cydnabod gwaith ieuenctid fel ymyrraeth anghlinigol gynharach/ataliol hollbwysig,. Yn ei adroddiad Cadernid Meddwl (2018), a arweiniodd at ganllawiau statudol diweddar Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant, nododd y Pwyllgor... “nad athrawon yn unig sy’n gyfrifol - mae gweithio ar y cyd rhwng gweithwyr proffesiynol o bob sector (iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, gwaith ieuenctid ac eraill) yn allweddol i gyflwyno dull ysgol gyfan” (t. 34). Aeth ymlaen i ddweud “Soniodd nifer o randdeiliad am y rôl bwysig sydd gan weithwyr ieuenctid i’w chwarae mewn perthynas â lles emosiynol mewn ysgolion” (t. 43) a “gallai cael gweithwyr eiriolaeth a gweithwyr ieuenctid arbenigol fel rhan o dîm argyfwng helpu i arbed amser yr heddlu, galluogi argyfyngau i gael eu rheoli gartref, gweithio’n adferol, a chynnal hawliau a rhyddid” (t. 116).

Gall gwaith ieuenctid wella llesiant pobl ifanc, ond mae yna gwestiynau mawr ar gyfer gwaith ieuenctid ynghylch ei rôl a’r hyn mae’r rhai sydd wrth y llyw eisiau iddo ei gyflawni. Mewn ffordd, nid yw hyd yn oed arweinwyr gwaith ieuenctid yn deall yn llawn yr hyn y gall gwaith ieuenctid ei gynnig i fywydau pobl ifanc, i’w cymunedau ac i’r gymdeithas yn y pen draw, o ran newid diwylliannol.

Os ydym ni, fel gweithwyr ieuenctid, yn dechrau gweld y darlun ehangach hwn o’r hyn y gall gwaith ieuenctid ei fod – sy’n rhyddhau, sy’n grymuso, sy’n codi ymwybyddiaeth (chwedl Paulo Freire), gallwn ddechrau datblygu’r weledigaeth honno o lesiant, o ffyniant dynol ac, yn y pen draw, o ba werthoedd rydym eisiau i’n cymdeithas eu trosglwyddo i bobl ifanc. Mae pum piler gwaith ieuenctid (fel y’u disgrifir uchod) yn rhoi sylfaen eglur a chadarn i’r amodau y mae eu hangen i wella bywydau ifanc fel hyn.

Wedyn mae cwestiwn ynghylch pa werthoedd sydd wir yn bwysig - beth ydym ‘ni’, fel cymdeithas, yn credu sydd wir yn bwysig - ai swyddi, twf economaidd parhaus gyda’r holl bwysau sydd ynghlwm â hynny i unigolion, y gymdeithas a’r amgylchedd? A ddylem ni ddechrau meddwl yn wahanol am beth yw ystyr ‘llwyddiant’? Neu oes yna drydedd ffordd, cyfaddawd rhwng y ddau safbwynt hyn sydd, o bosibl, yn cystadlu â’i gilydd? Yr hyn sy’n hanfodol i’r drafodaeth hon yw’r ffordd y caiff y cwricwlwm newydd (ac felly ein pobl ifanc) ei asesu. Cydnabuwyd nad yw ein cwricwlwm presennol yn diwallu anghenion cyflogwyr, pobl ifanc na’r gymdeithas yn gyffredinol, ac nid yw llawer o bobl ifanc yn cyflawni o ganlyniad. NID yw hyn yn golygu nad oes gan lawer o bobl ifanc y setiau sgiliau neu allu mawr - mae’n golygu nad yw’r system bresennol yn darparu ar eu cyfer, yn eu cydnabod nac yn eu dathlu.

Yng Nghymru, ochr yn ochr â diwygiadau enfawr i’r cwricwlwm, rydym hefyd yn ail-gyflunio ein hymagwedd at iechyd meddwl a lles emosiynol trwy symud at ddefnyddio Dull Ysgol Gyfan, gyda’r Dull Ysgol Gyfan yn rhan annatod o’r Fframwaith NEST (meithringar, grymus,
diogel, yr ymddiriedir ynddo - wedi’i seilio ar y dull Dim Drws Anghywir), sy’n cyseinio’n amlwg â phum piler gwaith ieuenctid. Gan fod y cwricwlwm newydd ar waith erbyn hyn, y cam pwysig nesaf yw sicrhau bod y prosesau asesu ategol yn diwallu anghenion y ‘system’ a rhai pobl ifanc, trwy gydnabod ystod ehangach o sgiliau a thueddfrydau. Gall gwaith ieuenctid chwarae rhan bwysig yn hyn i gyd, os rhoddir cyfleoedd priodol iddo...

Beth all gwaith ieuenctid ei wneud i wrthsefyll rhai o’r effeithiau hyn?

Mae’r Fforwm Ieuenctid Ewropeaidd yn cynnig bod sefydliadau gwaith ieuenctid, trwy eu hymagwedd egwyddorol at addysg heb fod yn ffurfiol, yn helpu i feithrin y math o rinweddau y mae eu hangen i weithio gydag eraill, y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt gan bobl ifanc mor aml ac yn cwyno mor aml am eu diffyg. Byddai gweithwyr ieuenctid, o’u holi, yn cytuno bod y sgiliau meddal hyn (term nad yw’n gwneud llawer i amlygu eu diffyg ymysg pobl ifanc) fel y’u disgrifir yn aml, yn rhan hanfodol o waith ieuenctid, lle mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n eu helpu i ddysgu ymrwymiad, gwneud pethau o’u pen a’u pastwn eu hunain a chymryd cyfrifoldeb. At hynny, mae gwaith ieuenctid yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc o ran rhyngweithio rhyngbersonol, datrys gwrthdaro, arweinyddiaeth, rheoli, cynllunio, sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau datrys problemau (Fforwm Ieuenctid Ewropeaidd, 2011).

Mae gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi’i seilio ar ddysgu heb fod yn ffurfiol, a ddisgrifir fel:
dysgu wedi’i wreiddio mewn gweithgareddau addysg cynlluniedig, trefnedig a pharhaus sydd y tu allan i sefydliadau addysg ffurfiol. Diben addysg heb fod yn ffurfiol yw darparu cyfleoedd dysgu amgen i’r rhai sydd heb fynediad at addysg ffurfiol neu sydd angen gwybodaeth a sgiliau bywyd penodol er mwyn goresgyn rhwystrau gwahanol. Mae dysgu heb fod yn ffurfiol hefyd yn fwriadol o safbwynt y dysgwr, yn wahanol i fathau o ddysgu anfwriadol neu ar hap (UNESCO, 2006, t.39).

Mae gan y math hwn o ddysgu y potensial i ategu addysg ffurfiol ac i ymateb i bobl ifanc ar adegau ac mewn lleoliadau nad ydyn nhw’n gysylltiedig yn draddodiadol â dysgu. Er hynny, un o elfennau allweddol sicrhau deilliant llwyddiannus o ddysgu heb fod yn ffurfiol yw bod y rhai sy’n cymryd rhan ynddo yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi potensial y broses maen nhw’n cyfranogi ynddi.

Mae’r Strategaethau Cenedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru wedi pennu canlyniadau a ddymunir ar gyfer gwaith ieuenctid, sef mynd ati i gymryd rhan, datblygu sgiliau a gwell cymhwysedd emosiynol (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2007, Llywodraeth Cymru, 2014, 2019).

Mae’r canlyniadau hyn yn gwbl gyson â dull sy’n blaenoriaethu llesiant a gwella sgiliau meddal. Mae’r strategaethau’n awgrymu y dylai darparwyr gwaith ieuenctid gynnig cyfleoedd trwy gyfranogiad gweithredol i bobl ifanc fwynhau eu hunain, cyfrannu at y gymdeithas, gwella eu hiechyd, ffitrwydd a llesiant, dysgu sgiliau newydd, gwella eu gwybodaeth a dysgu sut i reoli risg (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2007).

Mae maes gwaith ieuenctid mewn sefyllfa ddelfrydol i hybu a meithrin cyfranogiad pobl ifanc mewn bywyd cymdeithasol, p’un ai ar y lefel fwyaf sylfaenol o fwynhau eu hunain trwy roi cynnig ar weithgareddau newydd neu drwy gyfrannu’n fwy uniongyrchol at y gymdeithas trwy helpu i drefnu digwyddiad cymunedol neu fel gofalwr ifanc. Mae cymryd rhan mewn gwaith ieuenctid yn rheolaidd yn cyflawni swyddogaeth gymdeithasol ddefnyddiol ac yn annog pobl ifanc i weld drostyn nhw eu hunain effeithiau cadarnhaol cysondeb.

Gall gwaith ieuenctid ddarparu man lle caiff pobl ifanc gyfleoedd i brofi gweithgareddau newydd ac ymagweddau gwahanol at fywyd, i ddysgu pwysigrwydd cyfrannu at y gymdeithas, teulu a pherthnasoedd gyda ffrindiau. Dylai gwaith ieuenctid roi ei hun mewn sefyllfa i alluogi pobl ifanc sy’n wynebu’r anawsterau a nodir uchod i ofyn cwestiynau, i holi cwestiynau iddyn nhw eu hunain am y math o berson maen nhw eisiau bod a’r math o fywyd maen nhw eisiau ei fyw.

Mae gwaith ieuenctid yn ymwneud â datblygu person ifanc yn gyfannol, a allai hefyd gynnwys cyfraniad gwerthfawr iawn trwy ei alluogi i ddysgu’r sgiliau mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi cymaint, gan gynnwys hyder, deall anghenion cwsmeriaid a dilyn cyfarwyddiadau, cyfathrebu da a gweithio gydag eraill, y gallu i ymaddasu a hyblygrwydd a gwneud pethau o’i ben a’i bastwn ei hun, ynghyd â sgiliau sylfaenol llythrennedd a rhifedd (Sgiliau Dyfodol Cymru). Dylai maes gwaith ieuenctid achub ar y cyfle a gynigir gan yr heriau presennol mae pobl ifanc yn eu hwynebu a sicrhau y gwnaiff y cyfraniad mwyaf posibl at gynnydd cymdeithasol ehangach i blant, pobl ifanc a chymunedau trwy ei gyfraniad unigryw sef addysg gymdeithasol radical a grymusol mewn cymunedau, i gymunedau a gan gymunedau.