CGA / EWC

About us banner
Susan Davis a Chantelle Haughton - Recriwtio o Leiafrifoedd Ethnig i addysg gychwynnol athrawon AGA a'r proffesiwn addysgu yng Nghymru: cyfle i chi ddweud eich dweud
Susan Davis a Chantelle Haughton - Recriwtio o Leiafrifoedd Ethnig i addysg gychwynnol athrawon AGA a'r proffesiwn addysgu yng Nghymru: cyfle i chi ddweud eich dweud

Susan Davis a Chantelle Haughton - Recriwtio o Leiafrifoedd Ethnig i addysg gychwynnol athrawon AGA a'r proffesiwn addysgu yng Nghymru: cyfle i chi ddweud eich dweud

Ym mis Ionawr 2021, lansiodd ein tîm aml-ethnig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd brosiect ymchwil pwysig i werthuso gweithgarwch recriwtio pobl o leiafrifoedd ethnig (LlE) i addysg gychwynnol athrawon (AGA) a'r proffesiwn addysgu.

Yn y DU, amlygwyd tangynrychiolaeth grwpiau LlE ym maes addysgu i gychwyn ym 1985 yn adroddiad Swann. Mae pryder ers amser hir am dangynrychiolaeth athrawon o leiafrifoedd ethnig (Carrington et al, 2000; Llyfrfa Ei Mawrhydi, 1985). Yng Nghymru, cyhoeddodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, fel yr oedd ar y pryd, strategaeth ar gyfer recriwtio a chadw athrawon yn 2003, a oedd yn cynnwys yr angen i wella gweithgarwch recriwtio LlE i addysgu. Awgrymodd y byddai hyn yn gofyn am ragor o ymchwil, arweiniad a chydweithredu pellach yn y sector addysg (CyngACC, 2003). Yn fwy diweddar, mae Haque (2017) a Joseph-Salisbury (2020) wedi amlygu prinder parhaus mewn athrawon LlE yn Lloegr.

Yn fyr, er gwaethaf y ffaith i'r mater am dangynrychiolaeth LlE ym maes addysgu gael ei amlygu gyntaf dros 25 mlynedd yn ôl, ychydig iawn o newid pendant sydd wedi bod.

Yn ôl Ystadegau Cymru (2020), mae 12 y cant o ddisgyblion yng Nghymru 5 oed neu'n hŷn o gefndiroedd heblaw cefndiroedd gwyn Prydeinig. Fodd bynnag, mae niferoedd anghymesur o isel o athrawon LlE yng Nghymru o'u cymharu â disgyblion LlE. Ar draws Cymru, mae athrawon yn llai amrywiol o ran eu hethnigrwydd na'r disgyblion maent yn eu haddysgu, a dim ond 1.3 y cant o athrawon yng Nghymru sy'n categoreiddio'u hunain fel pobl sy'n dod o gefndir nad yw'n gefndir gwyn. Mae'n amlwg felly bod angen i'r proffesiwn addysgu a phrifysgolion yng Nghymru fanteisio ar newid a dechrau darparu cydraddoldeb cyfle i fyfyrwyr AGA, athrawon ac arweinwyr LlE. Mae angen i'r mater hwn fynd nôl i'r egwyddorion sylfaenol, ac mae angen rhoi ystyriaeth fanwl i fynd ati'n rhagweithiol i recriwtio cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr LlE.

Sut gallwch chi helpu

Rydym wedi bod yn casglu barn athrawon LlE wrth eu gwaith am eu dilyniant gyrfaol parhaus ac yn gwrando ar ddysgwyr 14+ oed, er mwyn magu dealltwriaeth o'u safbwyntiau am addysgu fel gyrfa bosibl. Bydd y dystiolaeth hon sy'n cael ei chasglu gennym yn helpu Llywodraeth Cymru i bennu'r math o newidiadau y bydd eu hangen i gynyddu gweithgarwch recriwtio myfyrwyr Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig i'r proffesiwn addysgu.

Drwy ein hymchwil, ein bwriad yw nodi canfyddiadau a safbwyntiau gan ystod o grwpiau. Rydym ni am gael gwybod:

  • A oes disgyblion a myfyrwyr LlE mewn addysg bellach ac uwch sy'n dyheu i ddod yn athrawon? Ac os nad oes, pam hynny?
  • Ym marn ymgeiswyr LlE a oedd yn aflwyddiannus yn eu ceisiadau i raglenni AGA, beth yw'r ffactorau a arweiniodd iddynt gael eu gwrthod?
  • Sut mae athrawon LlE newydd gymhwyso ac athrawon LlE sydd mewn camau gwahanol o'u gyrfaoedd yn teimlo am eu datblygiad gyrfaol?
  • Beth yw barn arweinwyr ysgol am y materion hyn a pha faterion arbennig maent yn dod ar eu traws ar deithiau gyrfaol?

Bydd ein hymchwil yn myfyrio ac yn dadansoddi elfennau o haenau o realiti byw sydd wedi'u creu'n gymdeithasol ar gyfer cyfranogwyr (Garcia et al., 2015), a bydd yn ceisio deall y ddeinameg gymhleth hon, gan ystyried diwylliant, cefndir a phrofiadau byw cyfranogwyr.

Sgyrsiau a grwpiau ffocws sy'n ffurfio sail ein hymchwiliadau. Rydym yn disgwyl i'r data arwain at fap gweledigaeth rhithwir (dogfen gydweithredol) a gyflwynir i Lywodraeth Cymru ynghyd â'r adroddiad terfynol. Bydd hyn yn galluogi dull gweithredu wedi'i ddadgoloneiddio tuag at ddatblygu polisi yng Nghymru at y dyfodol.

Bydd ein hymchwil yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth 2021. Rydym yn awyddus i glywed gennych os ydych o gefndir LlE, naill ai fel myfyriwr (14+ oed) sydd wedi neu heb feddwl am yrfa addysgu, neu os ydych yn athro/athrawes neu'n arweinydd wrth eich gwaith. Mae angen i ni glywed eich llais mewn perthynas â'r prosiect ymchwil hwn. Cysylltwch â'n cynorthwyydd ymchwil, Sammy Chapman am fwy o wybodaeth.

Cyfeirnodau
  • Egan, D. (2020) Ethnic Minority Recruitment to the teaching profession in Wales: Outcomes of a rapid review of background research evidence. Llywodraeth Cymru.Carrington, B., Bonnett, A., Nayak, A., Skelton, C., Smith, F. Tomlin, R., Short, G., a
  • Demaine, J. (2000) The recruitment of New Teachers from Minority Ethnic Groups, International Studies in Sociology of Education, 10 (1), 3-22
  • Garcia, J. A., Sanchez, G. R., Sanchez-Youngman, S., Vargas, E. D., & Ybarra, V. D. (2015). Race As Lived Experience: The Impact of Multi-Dimensional Measures of Race/Ethnicity on the Self-Reported Health Status of Latinos. Adolygiad Du Bois: social science research on race, 12(2), 349–373.
  • Cyngor Addysgu Cyngor Cymru (2003), Cynllun Gweithredu ar gyfer Recriwtio a Chadw Athrawon yng Nghymru. Cymru: Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
  • Haque Z (2017) Visible minorities, invisible teachers: BME teachers in the education system in England. Runnymede Trust and NASUWT. Ar gael yn y Saesneg yn unig yn: www.runnymedetrust.org/uploads/Runnymede%20ReportNEW.pdf (Cyrchwyd11eg Chwefror 2021).
  • Llyfrfa Ei Mawrhydi (1985) The Swann Report. Education for All. Report of the Committee of Enquiry of Children from Ethnic Minority Groups. Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi.
  • Joseph-Salisbury (2020) Joseph-Salisbury R (2020) Race and racism in English secondary schools. Runnymead Trust. Ar gael yn y Saesneg yn unig yn: www.runnymedetrust.org/uploads/publications/pdfs/Runnymede%20Secondary%20Schools%20report%20FINAL.pdf
  • Statscymru.llyw.cymru (2020) Cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion, Medi 2020. Ar gael ar-lein yn: https://statscymru.llyw.cymru