Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi estyn eu llongyfarchiadau i bawb sy’n derbyn eu Statws Athro Cymwysedig (SAC) yng Nghymru heddiw (1 Awst 2025).
Mae ennill SAC yn garreg filltir arwyddocaol ac yn dyst i ymrwymiad, gwydnwch ac ymroddiad pob unigolyn i’r proffesiwn addysgu. Mae’n nodi dechrau taith gyffrous a buddiol, gan ddylanwadu ar fywyd dysgwyr ar draws Cymru a chael effaith barhaus ar ysgolion a chymunedau lleol.
Er mwyn cyflawni SAC, mae’n rhaid i unigolion ymgymryd â chyfnod o Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), pan fydd rhaid iddynt fodloni set o safonau proffesiynol. Mae’r safonau hyn, ynghyd â’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, yn gosod y meincnod ar gyfer yr hyn a ddisgwylir gan ymarferwyr trwy gydol eu gyrfa.
Mae’r Cod yn ddogfen allweddol sy’n amlinellu’r safonau a ddisgwylir gan y rhai sydd wedi cofrestru gyda CGA a bwriedir iddo gefnogi a llywio ymddygiad a chrebwyll cofrestreion fel gweithwyr proffesiynol mewn rolau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Meddai Prif Weithredwr Dros Dro CGA, Lisa Winstone “Ar ran pawb yma yn CGA, rwy’n dymuno llongyfarchiadau enfawr i bawb sy’n derbyn eu SAC heddiw.
“Rydym ni’n cydnabod y gwaith caled a’r angerdd y mae’n ei gymryd i gyrraedd y pwynt hwn. Trwy ddilyn gyrfa mewn addysgu, byddwch yn cael effaith arwyddocaol ar fywyd dysgwyr a phobl ifanc ar hyd a lled Cymru, yn ogystal ag ar y proffesiwn addysg ehangach.
“A chithau’n gofrestreion CGA, mae disgwyl i chi gydymffurfio â’r Cod. Fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru, byddwn wrth law i’ch cynorthwyo â hyn trwy gydol eich gyrfa, gan gynnig adnoddau ac arweiniad i’ch helpu i ffynnu yn eich rôl.
“Dymunwn bob llwyddiant i chi ac estynnwn groeso cynnes iawn i’r proffesiwn.”
Mae CGA yn gyfrifol am weinyddu tystysgrifau SAC a chofrestru’r athrawon newydd gymhwyso (ANG) hynny wrth iddynt ddechrau eu gyrfa.
I’r ANG hynny sy’n dechrau ar eu rôl gyntaf fel athro ysgol, mae’n ofyniad cyfreithiol iddynt gofrestru gyda CGA, yn y categori cywir, cyn y gallant ddechrau gweithio yng Nghymru. Hefyd, rhaid iddynt gwblhau cyfnod o sefydlu statudol o fewn pum mlynedd o ennill SAC.
Os ydych chi wrthi’n chwilio am eich rôl gyntaf o hyd, mae gan Addysgwyr Cymru y nifer uchaf o swyddi gwag ar draws sector addysg Cymru.
I gael gwybod am y canllawiau, yr adnoddau a’r gwasanaethau diweddaraf sy’n cael eu cynnig gan CGA, ewch i’r wefan.