CGA / EWC

About us banner
Dr Howard Williamson - O’r lleol i’r byd-eang: Ydy gwaith ieuenctid yn aeddfedu yng Nghymru?
Dr Howard Williamson - O’r lleol i’r byd-eang: Ydy gwaith ieuenctid yn aeddfedu yng Nghymru?

Dr Howard Williamson - O’r lleol i’r byd-eang: Ydy gwaith ieuenctid yn aeddfedu yng Nghymru?

HW2Fe ddes i’n weithiwr ieuenctid ar ddamwain yn fy arddegau, pan adeiladwyd canolfan gymunedol yng nghornel ein parc ‘ni’. Roedden ni’n cynnal ein clwb ieuenctid ein hunain bob nos Iau, gyda’r rhybudd y bydden ni’n cael ein gwahardd pe byddai unrhyw gwynion. Gan mai fi oedd yr aelod o’r ‘bois yn y parc’ â’r ddawn siarad, fe gymerais gyfrifoldeb, yn 15 oed, yn y 1960au.

Fe wnes i barhau i wirfoddoli fel gweithiwr ieuenctid am flynyddoedd lawer, ble bynnag roeddwn i’n byw. Fe es i i’r brifysgol a gwneud PhD ar droseddwyr ifanc a’r system cyfiawnder ieuenctid. Fe adawais i’r brifysgol yn eithaf ansicr p’un a oeddwn i eisiau bod yn academydd neu’n weithiwr ieuenctid. Am y 30 mlynedd nesaf, fe gyflawnais i’r ddwy rôl. Ac, o ganol y 1980au, roeddwn i ynghlwm wrth bolisi ieuenctid, yn gyntaf yng Nghymru, yna yn y Deyrnas Unedig, ac yn ddiweddarach trwy’r Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Ewrop a’r Cenhedloedd Unedig.

Yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, rydw i wedi adolygu polisïau ieuenctid mewn 21 o wledydd Ewropeaidd, ysgrifennu tair cyfrol ar ‘gynorthwyo pobl ifanc yn Ewrop’ a golygu saith cyfrol o Hanes Gwaith Ieuenctid yn Ewrop. Mae’r teitl cyntaf yn ddiddorol oherwydd ei fod yn arwain ymlaen o’r is-deitl Ymestyn Hawliau: cynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2000), sef y polisi ieuenctid penodol cyntaf yng Nghymru ac, yn fy marn i, un o’r fframweithiau polisi mwyaf trawiadol a blaengar ar gyfer pobl ifanc i’w gynhyrchu erioed yn unrhyw le yn y byd. Yn arwyddocaol, awgrymodd rôl i waith ieuenctid yn benodol ac yn ymhlyg, yn annibynnol a thrwy bartneriaeth ag asiantaethau eraill, ar draws ystod o feysydd polisi.

Ar ddechrau’r broses o adolygu polisïau ieuenctid Cyngor Ewrop, ym 1997, ychydig iawn o gydnabyddiaeth a roddwyd i ‘waith ieuenctid’, heb sôn am drafodaeth arno. Nid oedd y Papur Gwyn cyntaf ar bobl ifanc a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2001 yn cyfeirio ato. Nid oedd Cyngor Ewrop yn siarad amdano. Roedd pob sefydliad yn darparu cymorth ar gyfer yr hyn y gallem ei ystyried yn ‘waith ieuenctid’, er hynny, yn eu gwahanol ffyrdd, yn unol â’u hamcanion sefydliadol – roedd rhaglenni’r Comisiwn yn canolbwyntio ar ddysgu a symudedd, roedd prosiectau’r Cyngor yn ymwneud ag addysg hawliau dynol a datrys anghydfod. Roedden nhw’n siarad am addysg heb fod yn ffurfiol a dysgu heb fod yn ffurfiol, yn ôl eu trefn, nid gwaith ieuenctid.

Dim ond erbyn diwedd y blynyddoedd 2000 y dechreuwyd ymchwilio i’r cysyniad o ‘waith ieuenctid’, trwy’r prosiect Hanes Gwaith Ieuenctid yn Ewrop (2008-2018). Datgelodd pob seminar a gynhaliwyd y gwahaniaethau enfawr o ran deall natur gwaith ieuenctid a’r amrywiaeth enfawr yn y ffyrdd o’i ddarparu. Mewn rhai rhannau o Ewrop, roedd bron fel addysg ffurfiol; mewn rhannau eraill, fel gwaith cymdeithasol therapiwtig. Roedd y Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd 1af, a gynhaliwyd yn 2010, yn dathlu’r amrywiaeth honno.

Ond, o’r tu allan, gallai’r amrywiaeth honno edrych yn anhrefnus yn hawdd. A allai popeth o waith ‘datgysylltiedig’ gyda phobl ifanc ar y stryd i waith sefydliadau ieuenctid ymreolus neu ymgyrchoedd ieuenctid ar fater penodol oll gael ei ystyried yn ‘waith ieuenctid’? A allai’r cyfan fodoli o dan yr un faner? Ai gwaith wedi’i gyfeirio at grŵp oedran penodol yn unig oedd ‘gwaith ieuenctid’, neu ymarfer mewn lleoedd penodol, methodoleg, neu rywbeth arall? Ceisiodd yr 2il Gonfensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd, a gynhaliwyd yn 2015, sefydlu p’un a oedd unrhyw ‘dir cyffredin’ mewn gwirionedd, ar draws mathau o ymarfer, arddulliau darparu, lleoliadau daearyddol a’r materion yr ymdrinnir â nhw.

Er syndod, efallai, cytunwyd yn gyffredinol bod yr holl ‘waith ieuenctid’ (er nad oedd hynny wedi’i ddiffinio’n bendant o hyd o ran ymarfer) yn ceisio cyflawni dau nod: hyrwyddo ac amddiffyn mannau ar gyfer pobl ifanc (mannau ar gyfer ymreolaeth, cyfranogiad, llais a gweithredu), a chefnogi pontydd i bobl ifanc gymryd y camau nesaf tuag at ddyfodol cadarnhaol a phwrpasol. Yn fyr, roedd gwaith ieuenctid yn ymwneud â helpu pobl ifanc i fod yn ifanc a helpu pobl ifanc i ddod yn oedolion.

Anaml y bydd rhethreg mor aruchel yn trosi’n hawdd neu’n gyflym yn realiti. Yr hyn sydd wrth wraidd gwaith ieuenctid yw’r angen am sgiliau myfyriol ac wedi’u mireinio i negodi safbwyntiau gwahanol rhwng pwysau a disgwyliadau gwahanol. Cyflëwyd y rhain ym mhennod olaf Cyfrol VII o’r gyfres Hanes: deuddeg trilema ar gyfer gwaith ieuenctid. Fe’i gelwir yn ‘Drialog myfyriol’, sy’n amlygu’r gwersi o’r prosiect hanes. Mae’n bell o’r ystrydebau gor-syml sy’n tybio bod gwaith ieuenctid yn ymwneud â phing-pong a phŵl, er y gallai hynny fod yn fan cychwyn yn sicr, wrth i berthnasoedd gael eu ffurfio ac ymddiriedaeth gael ei datblygu.

Yn ddiweddarach eleni, bydd 3ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd yn cael ei gynnal ar-lein, gyda’r nod o sefydlu Agenda Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd trwy’r ymrwymiadau a fynegir yn strategaeth ieuenctid newydd yr Undeb Ewropeaidd (2018-27) a strategaeth sector ieuenctid newydd Cyngor Ewrop (hyd at 2030). [Cytunodd Cyngor Ewrop ar Argymhelliad ar Waith Ieuenctid yn 2017 hefyd.]

Yng Nghymru, fel ym mhobman arall, bu’n rhaid i waith ieuenctid ymladd i gael parch a chydnabyddiaeth, darbwyllo eraill droeon o’i ansawdd a’i effaith, a dadlau ei achos dros hyfforddiant, cymhwysedd a chynyddu capasiti. Mae addysg a dysgu heb fod yn ffurfiol – a ddarperir trwy waith ieuenctid – yn bodoli rhwng addysg ffurfiol a dysgu anffurfiol. Cânt eu camgyfleu o hyd a’u camddeall yn aml. Mae cyflawni rhywfaint o gydraddoldeb ag addysg fel amgylchedd dysgu yn her sylweddol o hyd. Yn wir, teitl fy mhapur ar gyfer y 3ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd yw Heriau Allweddol ar gyfer Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd a Gwaith Ieuenctid yn Ewrop. Mae ar gael ar wefan y Confensiwn (Saesneg un unig). Y brif neges yw bod gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn anniben yn gysyniadol, yn wan o ran cymhwysedd yn aml, yn brin o hygrededd, ac wedi’i gysylltu’n wael â sectorau polisi ieuenctid eraill.

Mae gan Gymru fantais fawr oherwydd ei bod yn gallu angori gwaith ieuenctid yn fframwaith athronyddol Ymestyn Hawliau – yr angen i ymestyn cyfleoedd a phrofiadau cadarnhaol i bobl ifanc, yn enwedig y rhai hynny sy’n annhebygol o’u cael mewn unrhyw ffordd arall. Mae gwaith ieuenctid yn ymarfer eclectig ac ymatebol. Mae hefyd yn ymarfer adweithiol, a ddangoswyd yn arbennig yn ystod yr argyfwng Covid-19. Trwy arweinyddiaeth yr unigolion rhagorol a phrofiadol ar y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, a oedd eisoes wedi ehangu cylch gorchwyl cefnogaeth Llywodraeth Cymru i waith ieuenctid mewn perthynas ag iechyd meddwl a digartrefedd ieuenctid, datblygwyd gwaith ieuenctid digidol ac ar-lein yn gyflym (gan ddysgu o wledydd Ewropeaidd eraill, yn enwedig y Ffindir ac Estonia) i gynorthwyo pobl ifanc ar adeg heriol iawn. Mae hynny wedi cryfhau enw da gwaith ieuenctid, darparu cydnabyddiaeth o waith ieuenctid, a dyfnhau’r parch at waith ieuenctid, mewn cyfnod anodd.

Mae gwaith ieuenctid yn agos i’m calon, ac eto rwy’n gallu ei ystyried o safbwynt beirniadol. Mae’n gallu bod yn gyfres ymlaciol a hamddenol o weithgareddau a ddarperir gan wirfoddolwyr ymroddedig ond heb eu hyfforddi. Fodd bynnag, os yw cymdeithasau eisiau i waith ieuenctid sefyll ochr yn ochr ag ymarfer proffesiynol arall, gan ategu addysgu, gwaith cymdeithasol a phroffesiynau eraill cysylltiedig, a darparu dysgu datblygiadol myfyriol ar gyfer, gyda, a chan bobl ifanc, yna mae angen ymrwymiad i addysg broffesiynol a llwybr dysgu cydlynol ar gyfer ymarferwyr gwaith ieuenctid, cyflogedig neu ddi-dâl, sy’n ymdrin â theori, polisi ac ymarfer; gwybodaeth, sgiliau ac agweddau; a chymwyseddau academaidd, galwedigaethol a chymunedol. Dyna ein her ar gyfer y dyfodol. Cyhoeddwyd Ymestyn Hawliau 20 mlynedd yn ôl. Gallai lle arwyddocaol i waith ieuenctid o fewn polisi cyhoeddus ehangach ar gyfer pobl ifanc fod ar y gweill yng Nghymru.

 

Dr Howard Williamson

Mae Dr Howard Williamson yn Athro Polisi Ieuenctid Ewropeaidd  ym Mhrifysgol De Cymru. Ac yntau'n weithiwr ieuenctid cymwys gyda'r Cyd-bwyllgor Negodi (JNC), mae hefyd wedi cynghori llawer o lywodraethau ar bolisi ieuenctid. Yng Nghymru, buodd yn gadeirydd i Bartneriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru ac yn Is-gadeirydd i Asiantaeth Ieuenctid Cymru rhwng 1991 a 2006.  Mae'n gyfarwyddwr Grassroots - Prosiect Ieuenctid Canol Dinas Caerdydd, ac  yn ymddiriedolwr i Wobr Rhyngwladol Dug Caeredin. Mae wedi gweithio'n agos ar faterion ieuenctid o fewn y Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor Ewrop fel ei gilydd, ac wedi cyhoeddi'n eang ar y materion hyn. Derbyniodd CBE yn 2002 a CVO yn 2017.