Gallwn gadarnhau bod Lisa Winstone wedi ei phenodi fel ein Prif Weithredwr newydd.
Mae Lisa'n dod i'r rôl yn swyddogol yn dilyn cyfnod fel Prif Weithredwr dros dro, gan olynu Hayden Llewellyn, wnaeth ymddeol yn gynharach eleni, ar ôl arwain y sefydliad ers ei sefydlu yn 2015.
Ymunodd Lisa â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn 2018 fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, gan ddod yn Ddirprwy Brif Weithredwr yn ddiweddarach. Dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae hi wedi chwarae rôl hanfodol yn arweinyddiaeth strategol y sefydliad, gan oruchwylio swyddogaethau corfforaethol craidd ac arwain datblygiad sefydliadol.
Gan siarad am ei phenodiad, dywedodd Lisa "Rwyf wrth fy modd i gael fy mhenodi'n Brif Weithredwr ac i barhau i weithio gyda thîm mor ymroddedig a thalentog.
"Mae CGA yn chwarae rôl hanfodol yn cynnal hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg. Rwy'n falch o arwain sefydliad sy'n rhoi diogelu, proffesiynoldeb, a safonau uchel wrth galon popeth mae'n ei wneud.
"Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar y seiliau cadarn rydym wedi eu gosod, ac i lunio cam nesaf ein datblygiad gyda'n gilydd."
Ychwanegodd Eithne Hughes, Cadeirydd y Cyngor, "Mae penodiad Lisa'n newyddion gwych i CGA. Mae ganddi wybodaeth sefydliadol ddwfn, profiad o arwain, a gweledigaeth glir at y dyfodol.
"Ar ôl arddangos ei gallu fel Prif Weithredwr dros dro, mae Lisa yn berffaith i arwain CGA yn hyderus i'r cam nesaf."
Cyn ymuno gyda CGA, bu Lisa'n gweithio mewn sawl rôl cyllid a llywodraethiant yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.