CGA / EWC

About us banner
CGA yn cyhoeddi canllaw newydd i gefnogi lles dysgwyr
CGA yn cyhoeddi canllaw newydd i gefnogi lles dysgwyr

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi canllaw arfer da newydd gyda'r bwriad o helpu cefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr a phobl ifanc.

Wedi ei ddatblygu ar y cyd gyda Chomisiynydd Plant Cymru, mae'r canllaw yn cynnig cyngor ymarferol i helpu cofrestreion CGA nodi pan fod angen help ar ddysgwyr a phobl ifanc, ac i ddeall sut i ymateb yn briodol.

Dywedodd Bethan Holliday-Stacey, Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi, "Mae ein cofrestreion yn gweithio'n agos gyda'n plant, pobl ifanc, a dysgwyr eraill bob dydd, felly mae'n hollbwysig eu bod yn hyderus yn adnabod pan fod rhywun yn dioddef gyda'u hiechyd meddwl a'u lles.

"Bwriad y canllaw yw eu helpu i nodi'r arwyddion yn gynnar, ymateb mewn modd priodol yn gymesur â'u rôl, a chyfeirio tuag at y ffynonellau cefnogaeth cywir."

Mae'r adnodd yma wedi ei greu i gyd-fynd â pholisïau sefydliadol yn y gweithle, a chanllawiau arfer da eraill, gan gynnwys ar gefnogi eich iechyd meddwl a'ch lles eich hun a'ch cydweithwyr. Mae'r canllaw yma wedi ei ddiweddaru i adlewyrchu arfer da, ac wedi ei ardystio gan yr elusen genedlaethol Education Support.

Mae canllawiau arfer da eraill ar gael i gefnogi cofrestreion, gan gynnwys Mynd i'r afael â hiliaeth, defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol, mynd i'r afael ag aflonyddu a cham-drin rhywiol rhwng cyfoedion, a bod yn ymarferydd addysg agored a gonest.

Mae'r holl ganllawiau arfer da, yn ogystal â nifer o adnoddau eraill i helpu cofrestreion gydymffurfio â'r Cod, ar gael ar wefan CGA.