CGA / EWC

About us banner
Sophie Howells - Gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod argyfwng COVID-19
Sophie Howells - Gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod argyfwng COVID-19

Sophie Howells - Gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod argyfwng COVID-19

Sophie Howells Ed SupportWrth i’r argyfwng COVID-19 barhau, gwelir penderfyniad y gweithlu i sicrhau y gall myfyrwyr barhau i ddysgu yn ddyddiol. Yn y cyfnod digynsail hwn, mae’r gweithlu addysg yn ein hysgolion, colegau a thu hwnt wedi ymateb i sefyllfa unigryw gyda gwroldeb, tosturi a phroffesiynoliaeth anhygoel.

Mae’r rhan fwyaf o’r gweithlu addysg yng Nghymru yn parhau i addasu i’r her o weithio o gartref. Bydd rhai yn gofalu am eu teuluoedd eu hunain, a gall fod ganddynt y cyfrifoldeb ychwanegol o ddysgu eu plant eu hunain gartref. Gallai fod ganddyn nhw neu rywun yn eu teulu bryderon iechyd o ran nhw’u hunain neu bobl eraill, sy’n eu gwneud yn arbennig o fregus, gan greu mwy o orbryder i unigolion ac anwyliaid.

Fel myfyrwyr, bydd llawer yn ymboeni hefyd am eu hiechyd meddwl a’u lles eu hunain. Nid oes gan yr un ohonom syniad clir o ran pa bryd y gallai’r sefyllfa hon lacio.

Er bod rhai o’r teimladau a’r heriau anodd i’r rheiny yn y gweithlu addysg yn gyffredin i’r boblogaeth yn gyffredinol, mae rhai ohonynt yn benodol i addysgwyr. Ar hyn o bryd, mae dros hanner y galwadau i’n llinell gymorth gyfrinachol, rhad ac am ddim yn ymwneud â phryderon yn gysylltiedig â Choronafeirws.

Mae llawer wedi addasu’n gyflym i addysgu o bell a defnyddio technoleg mewn ffyrdd newydd – ni chredwyd y byddai rhai ohonynt yn bosibl, hyd yn oed rai wythnosau yn ôl. Mae ein gweithlu yn chwarae rhan hanfodol fel ffynhonnell cymorth lles a pharhad i lawer o bobl ifanc a allai deimlo eu bod wedi’u gadael i lawr ynghanol gymaint o ansicrwydd.

Trwy gydol yr argyfwng hwn, mae Education Support yn dal yma i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles i’r holl staff yn y maes. Rydym wedi cynhyrchu cyfres arbennig o adnoddau iechyd meddwl i helpu yn ystod y pandemig.

Bydd llawer yn teimlo’n orbryderus ynglŷn â’r presennol ac wrth edrych i’r dyfodol. Mae ailagor ysgolion a cholegau wedi’i ddiystyru am y tro yng Nghymru, ond ceir pryder cynyddol ynglŷn â dychwelyd i safleoedd. Mae addysgwyr eisiau bod yn ôl gyda’u myfyrwyr ond maent am wneud hynny mewn ffordd sy’n ddiogel, wedi’i chynllunio a’i chefnogi’n briodol. Mae ein hadnoddau’n cynnwys fideo lle mae’r seicotherapydd Ben Amponsah yn cyflwyno saith strategaeth i reoli gorbryder.

Mae rhai yn wynebu colled a galar, ac nid yw defodau cyfarwydd yn cynnig cysur iddynt; i eraill, colli gymaint o agweddau ar ein ffordd o fyw ers pennu’r cyfyngiadau ar symud.

Mae nifer fawr o athrawon cyflenwi, darlithwyr ar gontract, contractwyr yn ystod y tymor yn unig a gweithwyr ieuenctid wedi gweld eu gwaith a’u hincwm yn diflannu dros nos heb unrhyw rybudd. Mae rhai yn parhau’n ansicr o ran a fyddant, a phryd y byddant, yn cael cymorth ariannol trwy gynlluniau ffyrlo’r llywodraeth. Mae gofid ariannol ac ofn yn faterion pwysig ac effeithiwyd ar lawer o addysgwyr gan golli incwm a chyflogaeth. Rydym eisoes wedi helpu llawer sydd mewn anhawster ariannol gyda’n cynllun grant cyfrinachol. Rydym yn deall yr effaith y mae Coronafeirws yn ei chael ar incymau llawer o bobl ar draws y sector, a gallwn helpu.

Mae llinell gymorth gyfrinachol, rhad ac am ddim Education Support ar gael i’r holl athrawon a darlithwyr sy’n gweithio yng Nghymru, ac i staff addysg eraill, gan gynnwys staff cymorth a gweithwyr ieuenctid, sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan ysgolion a cholegau. Os ydych chi’n cael trafferth gyda theimladau anodd ar hyn o bryd, neu os ydych eisiau siarad am unrhyw broblemau sydd gennych, gallwch gael cymorth emosiynol gan gwnselydd hyfforddedig drwy ffonio 08000 562561, unrhyw amser, dydd neu nos. Rydym yma i’ch cefnogi, beth bynnag yw’r broblem.

Sophie Howells

Mae Sophie Howells yn gweithio dros Education Support, sef yr unig elusen yn y DU sy'n gweithio'n benodol i wella iechyd a lles y gweithlu addysg cyfan.