CGA / EWC

About us banner
Donna Ali - Materion Cynrychiolaeth: Cyflwyno rhwydwaith newydd ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol
Donna Ali - Materion Cynrychiolaeth: Cyflwyno rhwydwaith newydd ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol

Mae Donna Ali, Prif Weithredwr a sylfaenydd BE.Xcellence, yn ysgrifennu am yr angen am fwy o amrywiaeth yn ein gweithlu ysgolion ac am rwydwaith newydd i gynorthwywyr addysgu Duon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol a allai helpu i gyflawni hyn.

Donna AliYn ôl ymchwil ddiweddar gan CGA mae athrawon ysgol yng Nghymru yn llawer llai tebygol o ddod o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig lleiafrifol na’r disgyblion maent yn eu haddysgu. Mae hyn yn wir hefyd (i raddau ychydig yn llai) am weithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion. Rydym ni yn BE.Xcellence eisiau newid hyn.

Wrth feddwl am natur anghynrychioliadol y gweithlu ysgolion yng Nghymru, rwy’n cael fy atgoffa am ddihareb Affricanaidd sy’n dweud “hyd nes i’r llew ddysgu sut i ysgrifennu, bydd pob stori yn mawrygu’r heliwr”. Mae’r newidiadau i’r cwricwlwm ysgol a gynigiwyd yn gynharach eleni gan yr Athro Charlotte Williams yn gyfle cyffrous i ehangu'r ystod o safbwyntiau a addysgir yn ein hysgolion, gan ganiatáu i leisiau cymunedau ethnig lleiafrifol gael eu clywed, fel erioed o’r blaen. Fodd bynnag, mae’n hanfodol sicrhau bod cwricwlwm sy’n croesawu amrywiaeth yn cael ei ddarparu gan weithlu sy’n gynrychioliadol o’n cymdeithas amrywiol.

Sefydliad newydd yw BE.Xcellence, a sefydlwyd yn 2021 fel Cwmni Buddiannau Cymunedol, i gynyddu cynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig mewn safleoedd o bŵer, gan gynnwys ym maes addysg. Rydym wedi datblygu rhwydwaith proffesiynol newydd i gynorthwywyr addysgu Duon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol (T.A.N.) sydd â’r nod penodol o gefnogi llwybrau addysgol a thrwy ddarparu offer ar-lein a chymorth â llesiant er mwyn cynorthwyo â chynnydd.

Pam ymuno â’n rhwydwaith? TAN.png

Nid oes rhaid talu i ymuno â T.A.N ac mae’n cynnig y canlynol i’r aelodau: cyfarfodydd rheolaidd, gwybodaeth, gweithdai, hyfforddiant achrededig a heb ei achredu, offer ac adnoddau ar-lein a chymorth â llesiant. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol i aelodau, gan gynnwys:

  • ysgol haf i gynorthwywyr addysgu
  • hyfforddiant arbenigol ar ymddygiad
  • cyfathrebu â rhieni a meithrin perthnasoedd
  • amrywiaeth a chynhwysiant
  • adrodd am hiliaeth / polisïau gwrth-hiliaeth

Gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill, mae T.A.N yn unigryw yn ei ymagwedd o gynnig lle diogel i staff cymorth dysgu drafod heriau a dathlu llwyddiannau gydag eraill mewn safleoedd tebyg. Nod arall sydd gennym yw helpu gweithwyr cymorth dysgu i fagu mwy o hyder yn eu hymagwedd at ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a chael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i’r cwricwlwm. Bydd hyn yn helpu gweithwyr cymorth dysgu i wella eu sgiliau, magu hyder proffesiynol ac o bosibl symud ymlaen i swyddi addysgu.

Yn ogystal â bod o fudd i’r rhai sy’n ymaelodi, nod arall sydd gan T.A.N. yw bod o fudd i’w hysgolion, trwy leihau costau ariannu hyfforddiant ychwanegol, galluogi cynorthwywyr addysgu i gyfrannu at wella’r ysgol, hwyluso partneriaeth rhwng cynorthwywyr addysgu ac athrawon a chyfrannu at ddysgu disgyblion trwy wella sgiliau a gwybodaeth cynorthwywyr addysgu. Yn fwy eang, mae T.A.N. wedi’i gynllunio i helpu i gynyddu cynrychiolaeth pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn y gweithlu ysgolion trwy gynorthwyo â chadw unigolion o’r grwpiau hyn a’u cynorthwyo i gamu ymlaen yn y proffesiwn.

Mae cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru newydd o 2022 ymlaen yn cynnig cyfleoedd ar gyfer arddulliau addysgu newydd a chynhwysol, a fydd o’r diwedd yn rhoi cyfle i ddysgwyr edrych ar brofiadau a chyfraniadau amrywiol pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yng Nghymru. Mae hwn yn gyfnod cyffrous, ac rydym ni yn BE.Xcellence yn gobeithio y bydd y newid sylweddol hwn yn golygu nid yn unig deunydd addysgu newydd, ond hefyd cynnydd yn amrywiaeth y bobl fydd yn ei ddarparu.

Os ydych chi’n weithiwr cymorth dysgu o gymuned ethnig lleiafrifol, hoffem glywed gennych chi. Os hoffech gael gwybod mwy am T.A.N., cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Ynglŷn â Donna Ali

Donna Ali yw sylfaenydd BeXcellence. Mae Donna yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi'n fenyw busnes ac mae hi'n cyfwyno'n aml ar y sioe radio a phodlediad, BOMB (Black Owned Minority Businesses).