CGA / EWC

About us banner
Ein barn wrth ymateb i’r ymgynghoriad ar y safonau proffesiynol diwygiedig
Ein barn wrth ymateb i’r ymgynghoriad ar y safonau proffesiynol diwygiedig

Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth.

Roedd yr ymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 30 Ionawr 2026, yn gwahodd barn ar ddiweddariadau arfaethedig i’r safonau proffesiynol a gyflwynwyd yn wreiddiol ym mis Medi 2018. Fel y rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, rydym yn cyfrannu’n rheolaidd at drafodaethau ynghylch pynciau sy’n effeithio ar ein cofrestreion, gan fanteisio ar ein data a’n mewnwelediadau unigryw.

Yn ein hymateb, rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i adolygu’r safonau ac yn cydnabod nifer o nodweddion cadarnhaol yn y drafft diwygiedig. Mae’r rhain yn cynnwys cysoni â blaenoriaethau cenedlaethol fel gwrth-hiliaeth a Cymraeg 2050, a bwriad clir i gefnogi myfyrio a datblygiad proffesiynol ar draws y gweithlu addysg.

Ochr yn ochr â’r elfennau cadarnhaol hyn, mae ein hymateb yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod diogelu wedi’i ymgorffori’n glir mewn safonau proffesiynol, ynghyd â chyfeiriad penodol at ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Credwn fod yr eglurder hwn yn hanfodol wrth gefnogi ymarfer diogel, cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd a sicrhau bod fframweithiau rheoleiddio yn cydweithio â’i gilydd yn effeithiol.

Yn fwy cyffredinol, rydym hefyd wedi tynnu sylw at feysydd lle gallai mireinio pellach helpu i gryfhau’r safonau a chefnogi eu defnydd effeithiol yn ymarferol. Yn benodol, nodwn y byddai strwythur cliriach a disgwyliadau mwy penodol yn helpu ymarferwyr i ddeall yn well yr hyn sy’n ofynnol ganddynt, a chefnogi mwy o gysondeb a thegwch pan gaiff y safonau eu cymhwyso ar draws y system.

Wrth wneud sylwadau ar yr ymgynghoriad, dywedodd y Prif Weithredwr, Lisa Winstone, “Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i adolygu’r safonau proffesiynol ac yn cydnabod y bwriad cadarnhaol wrth wraidd y drafft diwygiedig.

“Mae safonau proffesiynol yn chwarae rôl hollbwysig wrth osod disgwyliadau, cefnogi ymarfer diogel ac atgyfnerthu ymddiriedaeth yn y gweithlu addysg. Er mwyn bod yn fwyaf effeithiol, mae angen iddynt fod yn glir, yn hygyrch a gallu cael eu cymhwyso’n gyson ar draws ystod eang o gyd-destunau.

“Mae CGA yn ymrwymo i gydweithio’n adeiladol â Llywodraeth Cymru o hyd i gryfhau fframweithiau presennol, egluro rolau a chyfrifoldebau, a chefnogi datblygiad safonau proffesiynol sy’n uchelgeisiol ac yn gyraeddadwy, er budd dysgwyr, ymarferwyr a’r system addysg ehangach.”

Mae ein hymateb hefyd yn ailadrodd ein barn hirsefydlog mai ni fel y rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ddylai fod yn gyfrifol am gynnal a hybu safonau proffesiynol. Credwn y byddai hyn yn helpu i gryfhau cysondeb a hyder ar draws y system addysg, gan ddarparu atebolrwydd cliriach i’r proffesiwn.

Mae’r ymateb llawn ar gael i’w ddarllen ar ein gwefan.