CGA / EWC

About us banner
Cofrestru yn agor ar gyfer Dosbarth Meistr 2026 CGA: Llesiant mewn munudau nid misoedd
Cofrestru yn agor ar gyfer Dosbarth Meistr 2026 CGA: Llesiant mewn munudau nid misoedd

Eleni, bydd Dosbarth Meistr CGA yn croesawu Jon Bockelmann-Evans, siaradwr ysbrydoledig ac arbenigwr ar lesiant, iechyd emosiynol, a rheoli heriau bywyd.

Yn cael ei gynnal ar-lein ar 13 Mai, 16:00-17:00, bydd y digwyddiad yn cyflwyno technegau syml, cofiadwy, ac ymarferol (gan gynnwys chwerthin therapiwtig a gwaith anadlu), i'w defnyddio yn y foment i reoleiddio'r system nerfol a gwella hwyl.

Mae'r sesiwn wedi ei chreu i fod yn brofiad trawsnewidiol, ymarferol, ac ymgodol. Bydd yn mynd tu hwnt i dechnegau rheoli straen traddodiadol i roi dealltwriaeth ac offer i chi i feithrin llawenydd a gwydnwch.

Mae Jon Bockelmann-Evans wedi rhedeg dros 1,000 o gyrsiau hyfforddi a chyflwyno sgyrsiau mewn dros 100 o gynadleddau i dros 40,000 o bobl yn y DU, Ewrop ac UDA. Mae ei gleientiaid blaenorol yn cynnwys Nike, Dow, Merck, EE, cannoedd o ysgolion yn y DU, BBaCh, a nifer o sefydliadau sector cyhoeddus.

Mae gwybodaeth Jon o ffisioleg, seicoleg, a datblygiad personol yn hysbysu ei waith, yn ogystal â'i brofiad clinigol fel ffisiotherapydd, seicotherapydd, a chyfryngwr y gweithle.

Beth bynnag yw'ch rôl, bydd y sesiwn yn rhoi dewis o strategaethau i'w defnyddio'n syth i reoli straen, cynyddi egni, a gwahodd eiliadau o lawenydd yn ystod y diwrnod gwaith. Bydd Jon yn rhannu model clir o iechyd emosiynol fel sail ar gyfer llesiant cynaliadwy, ac yn cyflwyno safbwyntiau newydd, gan ail-fframio llesiant o fod yn dasg arall, i fod yn foment integredig a hygyrch. Bydd hefyd yn rhannu ei becyn cymorth 'Wellbeing in Minutes' sy'n arfer byw, wedi ei arwain, o dechnegau hygyrch fydd wedi ei wau drwy'r awr.

Mae tocynnau ar gael nawr ar wefan CGA.