Addysg yw un o'r proffesiynau mwyaf boddhaol ac effeithiol yng Nghymru, gydag ymarferwyr yn gwneud gwahaniaeth i ddysgwyr a phobl ifanc, a chymunedau bob dydd. Ac er ei fod yn cael ei werthfawrogi'n fawr, mae'n bwysig cydnabod bod y rôl yn gallu bod yn un heriol. Dyna pam fod gweithlu iach, gwydn yn hanfodol i gynnal hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn addysg.
Yn ein blog diweddaraf gan ein partneriaid yn Education Support, rydym yn edrych yn agosach ar ganfyddiadau Mynegai Lles Athrawon 2025, sy'n rhoi golwg unigryw ar brofiadau staff addysg yng Nghymru, ac yn amlygu'r gefnogaeth sydd ar gael i gynnal gyrfaoedd hir a llawn yn y proffesiwn.
Ynglŷn â’r awdur
Mae Mary Bilton yn Ymgynghorydd Diwylliant ar gyfer y Gwasanaeth Lles Staff yng Nghymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi arweinwyr, rheolwyr ac arweinwyr lles ysgolion, yn rhad ac am ddim.
Mae gan Mary dros 30 blynedd o brofiad o fod yn Arweinydd Cyfadran mewn addysg ysgol uwchradd. Symudodd Mary i’r gofod Lles Addysg trwy ei gwaith fel hwylusydd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol (NPQ), a’i hymchwil ddoethurol ei hun i Gyfraddau Gadael Athrawon sydd ar Ganol Gyrfa ym Mhrifysgol Reading.
Rwy’n siarad bob dydd ag athrawon, arweinwyr ysgolion, a staff addysg ledled Cymru sy’n rhoi cymaint ohonyn nhw eu hunain; yn emosiynol, yn feddyliol ac yn gorfforol i’w swyddi.
Mae Mynegai Lles Athrawon 2025 yn amlygu faint o bwysau y mae staff addysg yng Nghymru yn ei gario, a pha mor bwysig ydyw i gael y gefnogaeth gywir o’ch cwmpas. Mae ein canfyddiadau yn cwmpasu popeth o straen, gorweithio a diffyg amser ymhlith athrawon.
Tra bod y mynegai yn amlygu heriau sylweddol, ry’n ni hefyd yn gwybod bod nifer o staff yn parhau i weld bod eu gwaith yn ystyrlon a llawn pwrpas, sy’n ein hatgoffa o’r effaith hir-dymor mae gweithwyr proffesiynol addysg yn cael, hyd yn oed o dan amgylchiadau heriol.
Byddaf hefyd yn rhannu manylion am sut gall staff ysgolion yng Nghymru elwa ar gymorth iechyd meddwl a lles yn rhad ac am ddim, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, heb unrhyw gost i’ch ysgol.
Ynglŷn â’n canfyddiadau
Mae’r ystadegau isod yn berthnasol yn benodol i ymatebion gan staff addysg yng Nghymru.
Mae ein canfyddiadau’n adlewyrchu’r realiti y bydd llawer ohonoch yn ei adnabod. Dywedodd tri chwarter o staff eu bod yn teimlo dan straen eleni, a dywedodd bron i hanner ohonynt fod diwylliant eu sefydliad yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.
Mae llawer ohonynt yn profi symptomau go iawn, hefyd: roedd natur flin, problemau cysgu ac anhawster canolbwyntio ymhlith y rhai mwyaf cyffredin, a dywedodd 71% fod effeithiau seicolegol, corfforol neu ymddygiadol yn gysylltiedig â gwaith.
Er bod rhai staff yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi gan eu sefydliad, mae’r darlun yn gymysg. Dywedodd dros hanner ohonynt eu bod yn cael cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles, ond mae llawer ohonynt yn teimlo o hyd eu bod yn cael eu gadael i ymdopi ar eu pen eu hunain.
Mae sgorau lles a gweithle yn dangos, er bod diben ac ystyr yn y gwaith a wnewch chi, bod lefelau straen yn parhau’n uchel a bod gorbryder yn rhan reolaidd o’r swydd.
Mae baich gwaith yn parhau i fod yn un o’r cyfranwyr mwyaf at straen. Mae llawer o staff yng Nghymru yn profi “tlodi amser” y rhan fwyaf o’r wythnos ac yn teimlo’u bod yn gweithio ar gyflymdra uchel neu yn ôl terfynau amser tynn yn rhy aml o lawer.
Ar ben hyn, mae disgwyl i athrawon a staff cymorth ymgymryd yn gynyddol â chyfrifoldebau sy’n mynd ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth fel helpu disgyblion i reoleiddio emosiynau neu ddarparu bwyd, hyd yn oed.
Sut gallwn ni helpu
Nid yw’n syndod, felly, fod mwy na thraean o staff addysg wedi ystyried gadael eu swydd o ddifri eleni, ond nid oes rhaid i chi wynebu’r heriau hyn ar eich pen eich hun.
Mae ein Goruchwyliaeth Broffesiynol a’n Gwasanaeth Cynghori wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer arweinwyr a rheolwyr ysgolion yng Nghymru, sy’n rhoi lle diogel a chyfrinachol i chi siarad, myfyrio a chael arweiniad gan arbenigwyr hyfforddedig sy’n deall pwysau’r swydd.
Goruchwyliaeth Broffesiynol
Mae ein gwasanaeth Goruchwyliaeth Broffesiynol yn cynnig lle cyfrinachol, heb farnu ar gyfer arweinwyr a rheolwyr ysgolion yn unig, lle gallwch siarad yn agored am y pwysau rydych chi’n eu hwynebu, rhywbeth sy’n aml yn anodd i’w wneud o fewn eich ysgol.
Mae ein goruchwylwyr profiadol yn deall realiti gweithio ym myd addysg. Maent yn deall y llafur emosiynol, y cyfrifoldeb parhaus, yr euogrwydd, y rhwystredigaeth, y munudau ystyrlon a’r rhai anodd.
Maent yn gwybod beth mae’n ei olygu i roi cymaint ohonoch chi eich hun bob dydd. Mae siarad â rhywun yn eich helpu i fyfyrio, ymdawelu ac ailfeithrin ymdeimlad o bersbectif a rheolaeth yn raddol. Mae’n eich cynorthwyo i adnabod pryd mae emosiynau neu ymatebion i straen yn cronni cyn iddynt ddod yn anodd eu trin.
Strategaethau a chymorth ymarferol
Y tu hwnt i gymorth emosiynol, mae goruchwyliaeth yn helpu â strategaethau ymarferol; gosod ffiniau, blaenoriaethu baich gwaith, llywio rhyngweithio cymhleth â disgyblion, rhieni neu gydweithwyr, neu ddod o hyd i ffyrdd i ddiogelu eich lles hyd yn oed pan na fydd pwysau allanol yn newid.
Gall hefyd eich helpu i ailgysylltu â’r rhesymau yr ymunoch chi â’r proffesiwn yn y lle cyntaf: yr ymdeimlad o ddiben, effaith a chyfraniad y mae’r Mynegai Lles yn dangos ei fod yn bresennol o hyd ond sy’n aml wedi’i gloddio o dan y gofynion o ddydd i ddydd.
I lawer o arweinwyr a rheolwyr, daw goruchwyliaeth yn ffurf reolaidd o hunanofal sy’n rhan hanfodol o aros yn bwyllog mewn proffesiwn sy’n gofyn yn barhaus am wydnwch emosiynol. Mae ymgysylltu â goruchwyliaeth broffesiynol nid yn unig yn gam tuag at ymdopi; mae’n gam tuag at ffynnu, cynnal eich gyrfa a gwarchod eich lles yn y tymor hir.
Gwasanaeth Cynghori ar Les
Ochr yn ochr â goruchwyliaeth, mae ein Gwasanaeth Cynghori ar Les yn cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol, sydd wedi’i deilwra’n benodol i’r sector addysg. Rydym yn darparu cymorth yn y fan a’r lle ar gyfer lles ac iechyd meddwl staff, ynghyd ag adnoddau o ansawdd uchel sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer addysg ar destunau allweddol fel y menopos, rheoli straen, a baich gwaith.
Mae ein cynnig yn cynnwys offer ac adnoddau pwrpasol sydd wedi’u teilwra i heriau unigol pob ysgol, yn ogystal â chymorth ymarferol â datblygu cynlluniau gweithredu lles staff, strategaethau, polisïau ac arolygon lles i greu newid ystyrlon, sy’n para.
Llinell gymorth gyfrinachol yn rhad ac am ddim
Rydym hefyd yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol, yn rhad ac am ddim ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym myd addysg ledled y Deyrnas Unedig, yn cynnwys athrawon, darlithwyr, staff cymorth, a gweinyddwyr.
Mae’r gwasanaeth, sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, yn eich cysylltu â chwnselwyr cymwys sy’n deall y pwysau unigryw yn y proffesiwn, gan gynnig cymorth emosiynol, arweiniad mewn sefyllfaoedd anodd, cymorth â chydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfeirio at fwy o wasanaethau, os oes angen.
Lawrlwythwch boster llinell gymorth dwyieithog yn rhad ac am ddim oddi ar ein gwefan, a’i roi mewn ardaloedd staff yn eich ysgol.
Rydym yn rhoi’r offer a’r arweiniad proffesiynol i chi ddiogelu eich lles a chynnal eich gyrfa mewn addysg. Os yw’r canfyddiadau o’r Mynegai hwn eleni yn adleisio eich profiad eich hun, nid yw cael cymorth ynglŷn ag ymdopi yn unig – mae ynglŷn â gwarchod eich lles, ailgysylltu â’ch diben a rhoi’r lle rydych chi’n ei haeddu i chi eich hun.
Cofrestrwch nawr
Arweinwyr ysgolion, rheolwyr ac arweinwyr lles – cofrestrwch ar gyfer ein gwasanaethau sy’n rhad ac am ddim heddiw a bydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad:
