Dydd Mawrth 18 Mehefin, 16:00-17:30, Zoom
Dewiswch eich iaith
Dydd Mawrth 18 Mehefin, 16:00-17:30, Zoom
Roedd ein digwyddiad Siarad yn Broffesiynol 2024 yn ddigwyddiad rhyngweithiol, roddodd werthfawrogiad ddyfnach i fynychwyr o gelfyddyd a gwyddor addysgu a dysgu.
Yr Athro Shaaron Ainsworth oedd arwain ein darlith flynyddol Siarad yn Broffesiynol 2024, 'Datgloi dirgelion dysgu', ac fe wnaeth hi dywys pawb i ddyfnderoedd gwyddor ac addysg gwybyddol.
Roedd hefyd sesiwn holi ac ateb, gafodd ei lywio gan yr Athro Andrew Townsend o Brifysgol Abertawe.
24 Hydref 2023
Roedd y briffiad hwn yn dod yn sgil cyhoeddi Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2023.
Rhoddodd y cyflwynwyr David Browne (Pennaeth Rheoleiddio, CGA), a Nia Griffith (Rheolwr Data), drosolwg o'r ystadegau, gyda ffocws penodol ar y prif dueddiadau a nodwyd. Mae hyn yn cynnwys cyfraddau dargadw'r gweithlu am y tro cyntaf yn 2023.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys data yn dod o Gofrestr o Ymarferwyr Addysg CGA, ac yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i gyfansoddiad y gweithlu addysg, fel oedran, ethnigrwydd, rhyw a chymwysterau.
Yn dilyn y cyflwyniad, roedd cyfle i'r rhai oedd yn bresennol holi cwestiynau ar y data a gyflwynwyd, a sut gall lywio cynllunio'r gweithlu i'r dyfodol.
Gallwch wylio recordiad o'r digwyddiad ar ein sianel youTube.
18 Mai 2023
Prif siaradwr y digwyddiad oedd EJ Renold, Athro Astudiaethau Plentyndod yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys mewnbwn gan gynrychiolwyr o NEU Cymru, NSPCC, Brook, Barnado's, Cymorth i Ferched Cymru ac Estyn.
Roedd y digwyddiad yn cynnig cyflwyniadau ga nifer o sefyldiadau gyda syniadau a theclynnau o sut i adeiladu ymdriniaeth ataliol a rhagweithiol ar gyfer y sefydliad cyfan i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol. Roedd hefyd yn cynnwys argymhellion pobl ifanc ar gyfer beth sydd angen newid.
Gallwch wylio’r digwyddiad yn ôl ar ein sianel YouTube.
18 Ionawr 2023, 16:00-17:30
Michael Fullan, yr arbenigwr byd-enwog ar ddiwygio addysg oedd ein siaradwr gwadd ar gyfer Siarad yn Broffesiynol 2023.
Yn ei araith, fe wnaeth Michael drafod canfyddiadau ei ymchwil arloesol a wnaed mewn partneriaeth agos gydag arweinwyr addysg o bob cwr o'r byd.
Trwy gydol y digwyddiad, fe wnaeth archwilio'r cysyniad fod plant a phobl ifanc yn gallu bod yn 'newidwyr i'r dyfodol', a sut gall arweinwyr fod yn effeithiol ar adegau cymhleth. Rhoddodd esiamplau o newid llwyddiannus ar lefelau ysgol a chymunedol, ynghyd â'r goblygiadau posib i unrhyw arweinydd eu hystyried.
Cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb fywiog, wedi ei lywio gan yr ymchwilydd a'r awdur o fri, yr Athro Alma Harris.
Mae fideo o’r digwyddiad yma bellach ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube.