Cynhaliwyd cynhadledd sector cyfan Cyngor y Gweithlu Addysg, Addysg Athrawon: Datblygu ein Diwylliant Ymchwil ar ddydd Mawrth, 15 Hydref yn Llandudno.
Yn ogystal â phrif siaradwr y gynhadledd, sef yr Athro Cysylltiol Nicole Mockler o Brifysgol Sydney, roedd cydweithwyr o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), CABan a (Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI) a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) hefyd yn bresennol i drafod themâu sy’n gysylltiedig ag ymchwil ac addysg athrawon.
Yn ei phrif araith, soniodd Mockler am botensial ymchwil athrawon i hyrwyddo datblygiad a dysgu proffesiynol athrawon, ac adenewyddu ymarfer proffesiynol.
Yn eu sesiwn, rhoddodd WISERD fewnwelediad i ganfyddiadau’r ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o’r prosiect ‘Dyfodol Llwyddiannus i Bawb’.
Amlinellodd cydweithwyr o CABAN a CIEREI y prosiectau ymchwil cydweithredol a gynhaliwyd gan sefydliadau addysg uwch (SAU) ac ysgolion yn rhanbarth CaBan a ganolbwyntiodd ar effaith ar ddysgwyr a dysgu.
Rhannodd PCDDSU fanylion am eu prosiect Amseroedd Cyfnewidiol, sy’n ceisio archwilio barn y rhai sydd ynghlwm â’r broses newid yn y SAUau ac ysgolion partner mewn perthynas â rolau a chyfrifoldebau proffesiynol.

Ar 27 Medi, cynhaliodd Cyngor y Gweithlu Addysg, mewn partneriaeth â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a Phrifysgol Abertawe, ddosbarth meistr a gyflwynir gan addysgwr uchel ei barch Pak Tee.
Cynhaliodd Cyngor y Gweithlu Addysg, mewn partnerniaeth â'r Brifysgol Agored yng Nghymru a Phrifysgol Abertawe, ei bedwaredd ddarlith flynyddol, Siarad yn Broffesiynol, ar nos Lun, 16 Medi 2019 yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.
Mae Iolo yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru, ar ôl cyflwyno nifer o gyfresi poblogaidd yn y Gymraeg a'r Saesneg ar BBC Cymru ac S4C, gan gynnwys ei gyfres ddiweddaraf, 'Iolo's Snowdonia'.

