Rydym yn tynnu at ddiwedd ein 10fed flwyddyn fel y rheoleiddiwr annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae’r garreg filltir hon yn gyfle perffaith i bwyso a mesur, a myfyrio ar sut rydym wedi esblygu, yr effaith rydym wedi’i chael a sut byddwn yn parhau i wasanaethu dysgwyr a phobl ifanc, y cyhoedd a’r gweithlu addysg yn y blynyddoedd sydd i ddod.
O sefydlu i reoleiddiwr aeddfed
Adeiladodd sefydlu CGA ym mis Ebrill 2015 ar sylfeini rheoleiddiol Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CACC), a oedd wedi rheoleiddio athrawon yn flaenorol. Roedd creu CGA yn nodi esblygiad pwysig a ymestynnodd reoleiddio proffesiynol y tu hwnt i addysg. Roedd yn galluogi’r system i adlewyrchu’n well ehangder y gweithlu addysg, gan gryfhau’r ffocws ar ddiogelu, proffesiynoldeb ac ymddiriedaeth y cyhoedd.
Dros y degawd diwethaf, rydym wedi tyfu’n rheoleiddiwr proffesiynol aeddfed sydd wedi datblygu trefniadau llywodraethu cryf a phrosesau rheoleiddio clir sydd wedi’u llunio i fod yn deg, yn gymesur ac yn dryloyw.
Mae ein cylch gwaith wedi cryfhau o ran ei gwmpas a’i effaith. Ar ddiwedd ein degfed flwyddyn, rydym yn gyfrifol erbyn hyn am gofrestru a rheoleiddio ymarferwyr sy’n gweithio mewn 13 categori ar draws ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, dysgu oedolion a dysgu seiliedig ar waith.
Un newid sylweddol, y pleidiwyd ei achos am amser maith, oedd cyflwyno cofrestru gorfodol ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion annibynnol. Mae’r datblygiad hwn, a sicrhawyd ar ôl blynyddoedd lawer o eiriolaeth, yn dod â mwy o gysondeb, tryloywder a sicrwydd o ran diogelu ar draws pob lleoliad addysg, gan sicrhau bod dysgwyr a phobl ifanc yn elwa ar yr un safonau uchel o reoleiddio proffesiynol, ble bynnag y cânt eu haddysgu.
Er bod ein cylch gwaith wedi ehangu, gan adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog y gweithlu addysg, mae ein hamcanion wedi parhau’n gyson, sef:
- cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru; a
- chynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a’r rhain sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.
Diogelu ac ymddiriedaeth y cyhoedd wrth wraidd ein gwaith
Bu diogelu dysgwyr a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnawn erioed. Trwy gofrestru a rheoleiddio cadarn, rydym yn gosod disgwyliadau clir o ran ymddygiad proffesiynol ac yn cymryd camau lle nad yw’r safonau hynny’n cael eu bodloni.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ein swyddogaeth ddiogelu wedi cryfhau ymhellach trwy gyflwyno Gorchmynion Atal Dros Dro Interim. Mae’r pwerau hyn yn caniatáu i ni weithredu’n gyflym, yn ôl yr angen, i atal cofrestrai dros dro tra bydd achos yn cael ei archwilio. Mae Gorchmynion Atal Dros Dro Interim yn chwarae rôl hanfodol mewn diogelu plant, pobl ifanc a’r cyhoedd trwy alluogi penderfyniadau cymesur ac amserol lle caiff risg bosibl ei nodi.
Nid yw ymdrin â phryderon ynghylch ymddygiad proffesiynol byth yn hawdd. Mae ein rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ni gydbwyso buddiannau dysgwyr a phobl ifanc, y cyhoedd a chofrestreion, gan sicrhau bod penderfyniadau’n drylwyr, wedi’u seilio ar dystiolaeth, ac yn deg. Bu’r gwaith hwn yn hanfodol wrth atgyfnerthu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gweithlu dros y degawd diwethaf.
Cefnogi ansawdd wrth ymuno â’r proffesiwn
Rhan allweddol o rôl CGA yw achredu a monitro rhaglennu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru. Cyflwynwyd y pwerau hyn yn 2017 ar ôl diwygiadau a roddodd bwyslais cryfach ar ansawdd, cysondeb a gweithio mewn partneriaeth rhwng ysgolion a sefydliadau addysg uwch.
Mae achredu’n ysgogi gwelliant parhaus, gan godi ansawdd hyfforddiant athrawon a denu pobl fedrus a chymwys i’r proffesiwn. Mae hyn yn chwarae rhan bwysig mewn cefnogi safonau uwch o ddechrau gyrfa athrawon.
Hybu gyrfaoedd ym myd addysg
Ochr yn ochr â’n cyfrifoldebau rheoleiddio, mae gan CGA rôl statudol wrth hybu gyrfaoedd ym myd addysg i gefnogi recriwtio i’r sector. Mae hyn wedi tyfu o fod yn llinyn bach o waith yn rhaglen weithgarwch bwysig.
Rhan allweddol o hyd fu datblygu a thyfu gwasanaeth eiriolaeth Addysgwyr Cymru a’r wefan gysylltiedig (sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru). Mae’n cynnig platfform dynodedig i godi ymwybyddiaeth o addysg fel gyrfa foddhaus a gwerthfawr, gan gynnwys:
- gwybodaeth glir a hygyrch am lwybrau mynediad
- swyddi gwag ar draws y gweithlu addysg
- cyfleoedd datblygiad proffesiynol
- cymorth teilwredig i’r rhai sy’n ystyried gyrfaoedd ym myd addysg, neu’n symud ymlaen â nhw
Cefnogi proffesiynoldeb ar draws y gweithlu
Beth bynnag fo’r rôl, rydym yn parhau i gefnogi gweithlu addysg hynod broffesiynol trwy ddarparu eglurder, arweiniad a sicrwydd ynghylch sut olwg sydd ar ymarfer proffesiynol da.
Rydym wedi cynyddu ein hystod o adnoddau, canllawiau a chyflwyniadau allanol hygyrch i helpu cofrestreion i deimlo’n hyderus wrth ddeall y disgwyliadau a’r safonau sydd arnynt. Mae mentrau fel y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) wedi esblygu i gefnogi cofrestreion yn well wrth fyfyrio ar eu hymarfer a bodloni eu cyfrifoldebau proffesiynol.
Ymgysylltu, tryloywder a phartneriaeth
Dros amser, rydym wedi cryfhau ein hymgysylltiad â chofrestreion, rhanddeiliaid, partneriaid a’r cyhoedd yn ehangach. Rydym wedi rhoi mwy o bwyslais ar dryloywder trwy ymgynghoriadau, cyhoeddiadau, digwyddiadau a chyfathrebu cliriach ynghylch ein rôl a’n penderfyniadau.
Er ein bod yn annibynnol, nid yw CGA yn gweithredu ar ei ben ei hun. Rydym yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a sefydliadau’r sector i gefnogi system addysg effeithiol. Mae ein gweinyddiaeth o fentrau fel dyfarnu Statws Athro Cymwysedig (SAC), tystysgrifau sefydlu a’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi proffesiynoldeb a gwelliant parhaus ar draws y sector.
Defnyddio tystiolaeth i lywio dealltwriaeth a dylanwad
Rhan gynyddol bwysig o’n rôl yw ein cyfrifoldeb statudol i ddarparu cyngor annibynnol, dadansoddi ymchwil, a deallusrwydd. Trwy ein data, ein profiad mewn gwaith achos, ac ymchwil, rydym wedi helpu i lywio dealltwriaeth o dueddiadau, pwysau a risgiau’r gweithlu.
Ers ein ffurfio, rydym wedi cyfrannu at dros 210 o ymgynghoriadau cenedlaethol a galwadau am dystiolaeth, ac wedi cael ein cynrychioli’n gyson ar ystod eang o grwpiau llywio a gweithlu cenedlaethol. Mae hyn wedi cynnwys cyfrannu tystiolaeth at drafodaethau cenedlaethol mewn meysydd fel recriwtio a chadw staff, safonau proffesiynol, dysgu proffesiynol, a’r cwricwlwm.
Mae bod yn ffynhonnell dystiolaeth ddibynadwy ac annibynnol yn rhan hollbwysig o sut rydym yn cyfrannu at y system addysg ehangach, ac un y byddwn yn parhau i’w chryfhau.
Ymateb i newid a her
Mae’r degawd diwethaf wedi dod â her sylweddol. Mae’r sector addysg wedi wynebu pwysau oherwydd pandemig byd-eang, anghenion cynyddol y gweithlu a phroblemau parhaus yn ymwneud â recriwtio a chadw staff.
Trwy gydol y cyfnodau hyn, mae CGA wedi parhau i fod yn hyblyg ac yn ymatebol, gan warchod ein hannibyniaeth a’n huniondeb rheoleiddiol. Mae taro’r cydbwysedd hwn wedi sicrhau ein bod yn parhau i weithredu er budd y cyhoedd, hyd yn oed yn ystod cyfnod o newid cyflym.
Edrych ymlaen at y degawd nesaf
Wrth i’r dirwedd barhau i esblygu, bydd rôl CGA yn parhau i fod wedi’i wreiddio’n gadarn mewn diogelu, cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd a chefnogi gweithlu proffesiynol dros ben.
Daw’r ychydig flynyddoedd nesaf â heriau a chyfleoedd newydd, ond edrychwn ymlaen at weithio gyda chofrestreion a phartneriaid i sicrhau bod CGA yn parhau i wneud cyfraniad cadarnhaol ac ystyrlon i addysg yng Nghymru.
