Dewiswch eich iaith
Ymunwch â ni am gyfres newydd o weminarau i roi mewnwelediad i gofrestreion i waith Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Bwriad y weminar yw rhoi trosolwg cynhwysfawr i chi am ein rôl a'n cylch gwaith, yn ogystal â'r gwasanaethau ry'n ni'n eu darparu.
Os ydych wedi eich cyflogi ar gontract yng Nghymru, dylai eich cyflogwr fod wedi tynnu eich ffi cofrestr blynyddol o'ch cyflog fis Mawrth. Os nad ydych wedi, cysylltwch â'r tîm. Os ydych wedi cael cais i adnewyddu eich ffi ar gyfer 2024/25, a heb ei dalu eto, gallwch dalu ar ywefan nawr.
Mae nifer o raglenni addysg gychwynnol athrawon ar gael ledled Cymru i'ch helpu i ddilyn llwybr gyrfa eich breuddwydion. I weld pa lwybrau sydd ar gael i chi, ewch i wefan Addysgwyr Cymru, neu cysylltwch â'r tîm.
Cyngor y Gweithlu Addysg yw rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru. Rydym yn cofrestru a rheoleiddio athrawon a staff cymorth dysgu mewn lleoliadau ysgol ac addysg bellach, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Mae’n bwysig eich bod chi, fel llywodraethwr, yn gwybod am y gofynion cyfreithiol penodol ar gyfer eich ysgol/coleg a’i gofrestreion.
Mae’n ofyniad cyfreithiol, i’r cyflogwr a’r unigolyn, bod yr unigolyn wedi cofrestru yn y categori cofrestru cywir cyn iddo ymgymryd ag unrhyw waith (e.e. athro ysgol, cynorthwyydd addysgu). Dylai eich ysgol/coleg wirio bod eu staff wedi cofrestru gan ddefnyddio’u mynediad i’r gofrestr.
Yn ogystal â chofrestru’r gweithlu addysg, rydym yn gyfrifol am ei reoleiddio hefyd. Gwnawn hyn trwy ein gwaith priodoldeb i ymarfer.
Os bydd cyflogwr yn diswyddo cofrestrai, neu os bydd cofrestrai yn gadael ei swydd (e.e. yn ymddiswyddo neu’n cytuno i setliad), ond y byddai’r cofrestrai wedi cael ei ddiswyddo pe na bai wedi gwneud yr uchod, mae dyletswydd gyfreithiol ar y cyflogwr i roi gwybod i ni.
Mae mwy o wybodaeth am y broses atgyfeirio, a rhwymedigaethau cyflogwyr.
Mae’n ofyniad statudol i CGA gyhoeddi Cod Ymarfer ac Ymddygiad ProffesiynolMae hwn yn amlinellu’r egwyddorion ymddygiad ac ymarfer da allweddol y mae disgwyl i gofrestreion gydymffurfio â nhw. Bwriedir iddo eu hysbysu, eu cefnogi a’u cyfeirio. Gall methu cydymffurfio â’r egwyddorion yn y Cod godi amheuaeth am allu cofrestrai i barhau i ymarfer. Mae’n hanfodol bod eich ysgol/coleg yn atgoffa pob cofrestrai o’u dyletswyddau yn y Cod yn rheolaidd.
Rydym yn darparu cyfres o wasanaethau proffesiynol i gefnogi ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid ehangach (gan gynnwys llywodraethwyr). Rydym yn eich annog chi, a’r staff yn eich ysgol/coleg, i wneud y mwyaf o’r cynnig hwn sy’n cynnwys hyfforddiant a gweithdai, cyfres o ganllawiau ymarfer da, posteri’n amlygu’r Cod, digwyddiadau, a’r Pasbort Dysgu Proffesiynol.
Mae Addysgwyr Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a ddatblygir gan CGA, yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i ysgolion/colegau. Mae hyn yn cynnwys rhoi eich swyddi gwag (gan gynnwys rolau llywodraethwyr) ar ein porth swyddi Cymru gyfan, gan arbed £1000oedd y flwyddyn mewn costau recriwtio.
I ddysgu rhagor, ewch i wefan Addysgwyr Cymru neu gwahoddwch y tîm i gyfarfod.