CGA / EWC

About us banner
CGA yn ymateb i ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Bil Addysg y Gymraeg
CGA yn ymateb i ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Bil Addysg y Gymraeg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi rhoi adborth i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Bil Addysg y Gymraeg.

Rhoddodd yr ymgynghoriad gyfle i’r cyhoedd a rhanddeiliaid leisio’u barn ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil sy’n ceisio cymryd camau i alluogi’r holl ddisgyblion yng Nghymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus trwy’r system addysg statudol.

Yn ei ymateb, croesawodd CGA y cynigion i raddau helaeth, a chan ddyfynnu data o’r Gofrestr Ymarferwyr AddysgGofrestr Ymarferwyr Addysg a’r Arolwg Gweithlu Addysg (2021) diweddaraf, nododd y canlynol:

  • er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, byddai angen cynyddu capasiti iaith Gymraeg y gweithlu ysgolion yn sylweddol (gan gydnabod y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo, a arweinir gn Lywodraeth Cymru ac sy’n cynnwys ystod eang o randdeiliaid)
  • yn ogystal â recriwtio athrawon newydd sy’n siarad Cymraeg, byddai angen rhaglen uwch o ddysgu proffesiynol hefyd i ddatblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu presennol
  • byddai’n bwysig deall goblygiadau’r polisi o ran y llwyth gwaith ac, fel y cyfryw, mae CGA yn gofyn i hyn gael ei ystyried ar bob cam o’r broses llunio polisi.

Mae CGA eisoes yn arwain y broses o ddatblygu a gweithredu ymagwedd strategol at recriwtio a hyrwyddo gyrfaoedd mewn addysg yng Nghymru (ar ran Llywodraeth Cymru). Un o’r blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer y gwaith hwn yw cyfrannu at recriwtio mwy o addysgwyr cyfrwng Cymraeg. Mae Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg wedi nodi bod gan y sefydliad nifer o rolau i’w chwarae yn y maes hwn hefyd.

Gallwch ddarllen ymateb ymgynghori CGA yn llawn ar wefan CGA.