CGA / EWC

About us banner
Cyhoeddi adroddiad Priodoldeb i Ymarfer CGA 2022-23
Cyhoeddi adroddiad Priodoldeb i Ymarfer CGA 2022-23

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2022-23 heddiw (dydd Llun 10 Gorffennaf 2023).

Mae'r adroddiad diweddar yn cynnwys data ar y math o achosion y mae CGA yn delio â nhw (gan gynnwys y rheiny sydd wedi eu cofrestru eisoes, ac sy'n gwneud cais i'w cofrestru), tueddiadau o flwyddyn i flwyddyn, a phroffiliau'r rheiny sydd wedi eu cynnwys mewn achosion.

Fel y rheoleiddir annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, mae gofyn cyfreithiol ar ymarferwyr gofrestru gyda CGA cyn dechrau gweithio. Mae hyn yn sicrhau bod gan y rheiny sy'n gweithio mewn addysg ledled Cymru, y sgiliau a'r wybodaeth i ymarfer yn ddiogel ac effeithiol.

Fel rhan o'u rôl reoleiddiol, mae gofyn i CGA ymchwilio a chlywed honiadau allai gwestiynu priodoldeb i ymarfer ymarferwyr. Mae hyn yn golygu eu bod yn diogelu buddion dysgwyr a phobl ifanc, rhieni a gwarcheidwaid, a'r cyhoedd, yn ogystal â helpu cynnal hyder ac ymddiriedaeth yn y gweithlu addysg fel cyfanrwydd.

Mae gwybodaeth am wrandawiadau i ddod, a chanlyniadau gwrandawiadau ar gael ar wefan CGA.

Mae Adroddiad Priodoldeb i Ymarfer 2022-23 ar gael i'w ddarllen yn llawn nawr.