CGA / EWC

About us banner
Cyhoeddi’r ystadegau diweddaraf ar y gweithlu addysg yng Nghymru
Cyhoeddi’r ystadegau diweddaraf ar y gweithlu addysg yng Nghymru

Heddiw (5 Medi 2023), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei ddata diweddaraf am y gweithlu addysg yng Nghymru.

Mae Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru 2023 gan y rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol yn darparu ei set fwyaf cynhwysfawr o ddata hyd yma, sy’n cwmpasu dros 88,000 o ymarferwyr cofrestredig ar draws ysgolion, addysg bellach (AB), dysgu seiliedig ar waith, a gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Mae’r data’n dod o Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA ac mae’n rhoi gwybodaeth werthfawr am gyfansoddiad y gweithlu addysg, fel oedran, ethnigrwydd a rhywedd, yn ogystal â chymwysterau a phynciau.

Yn yr adroddiad eleni mae nifer y cofrestreion ym mhob categori wedi cynyddu. Fodd bynnag, mae’r cynnydd yn yr athrawon Ysgol cofrestredig (1.6%) a’r sylweddol yn nifer y gweithwyr cymorth dysgu cofrestredig mewn ysgolion yn nodedig (16%).

Eleni, am y tro cyntaf, mae CGA hefyd yn adrodd ar gyfraddau cadw ym mhob un o’r grwpiau cofrestreion.

Dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn “Rydym yn deall bod cadw staff ym mhroffesiynau’r gweithlu addysg o ddiddordeb arbennig i’n cydweithwyr, ac rydym yn falch o allu rhannu’r canfyddiadau o’n set gynhwysfawr o ddata.

“Er bod y data yn dangos gwahanol lefelau o gad war draws y grwpiau cofrestru, mae’n bositif gweld bod cadw yn y categori athrawon Ysgol, gyda dros 75% dal wedi cofrestru ar ôl pum mlynedd.

Rydym yn gobeithio y bydd y data Newydd yma, ynghyd â’n setiau eraill o ddata yn parhau i wthio’r drafodaeth a’r safbwynt polisi o ran pynciau pwysig y gweithlu addysg, megis recriwtio, cadw a llwyth gwaith.”

Mae mwy o ganfyddiadau allweddol, ynghyd â’r ddogfen Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2023 lawn, ar gael i’w darllen trwy wefan CGA.