CGA / EWC

About us banner
Edrych yn ôl ar 2023
Edrych yn ôl ar 2023

Ionawr

Siarad yn Broffesiynol 2023 gyda'r Athro Michael Fullan, yn archwilio'r cysyniad fod plant a phobl ifanc yn gallu bod yn 'newidwyr i'r dyfodol', a sut gall arweinwyr fod yn effeithiol ar adegau cymhleth.

Chwefror

Cyhoeddi Canllaw i Rieni i gefnogi rhieni/gwarcheidwaid i gymryd rhan fwy actif yn addysg eu plant.

Mawrth

Dechreuodd porthol swyddi Addysgwyr Cymru gynnwys swyddi gwag o amrywiaeth o sefydliadau o bob cwr o sector addysg Cymru (nawr y porthol mwyaf ar gyfer addysg yng Nghymru).

Ebrill

Croesawom ein trydydd Cyngor, Cadeirydd newydd, ac aelodau newydd i'n panel priodoldeb i ymarfer

Mai

Fe wnaethom groesawu pedwar categori newydd ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg.

Mehefin

Lansiwyd ein podlediad newydd, Sgwrsio gyda CGA, yn cynnwys trafodaethau bywiog yn ogystal â rhannu profiadau, syniadau a safbwyntiau ar dirwedd y gweithlu addysg yng Nghymru sy'n esblygu drwy'r amser.

Gorffennaf

Cyfarfod llawer o gofrestreion mewn digwyddiadau dros yr haf, gan gynnwys yr Urdd, y Sioe Fawr, a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Awst

Cyhoeddom ein cyfres o adroddiadau blynyddol yn arddangos ein cyraeddiadau a'n perfformiad fel rheoleiddir annibynnol, yr ymddiriedir ynom.

Medi

Cyhoeddom ein Hystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg, gyda data cynhwysfawr ar 88,000+ o gofrestreion.

Hydref

Diweddaru'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol i ddangos ein bod wedi ychwanegu categorïau cofrestru newydd.

Tachwedd

Wedi rhoi adborth ar ddau ymgynghoriad pwysig, allai gael effaith ar reoleiddio'r gweithlu addysg yng Nghymru.

Rhagfyr

Wedi cefnogi ymgyrch Defnyddia Dy Gymraeg i annog pobl i ddefnyddio'u Cymraeg o ddydd i ddydd.

Edrych ymlaen at 2024

Siarad yn Broffesiynol 2024

Byddwch yn barod i blymio dyfnderoedd gwyddor ac addysg gwybyddol, lle bydd yr Athro Shaaron Ainsworth yn mynd â ni ar siwrnai trwy ddargynfyddiadau diweddaraf yng ngwyddor dysgu.

Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar ôl, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich tocyn am ddim nawr.

Ail-achredu AGA

Mae nifer o raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn destun adnewyddu yn 2024. Ni sy'n gyfrifol am achredu a monitro rhaglenni AGA yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru.

Canllawiau, adnoddau a chefnogaeth

Byddwn yn parhau i gynnig nifer o adnoddau i gefnogi cofrestreion yn eu harfer o ddydd i ddydd, gan gynnwys y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), canllawiau arfer da, a mynediad at EBSCO, cronfa ddata testun llawn mwyaf y byd ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol.